Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. Thomas, y 3ydd
← Jones, Parch. Cadwaladr | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Jones, Parch. Evan, (Ieuan Gwynedd) → |
JONES, Parch. THOMAS, y 3ydd, oedd weinidog ieuanc gyda'r Wesleyaid. Ganwyd ef yn Pennal, cantref Meirionydd Ymunodd â'r Gymdeithas Wesleyaidd yn moreu ei oes; a phan oddeutu 17 oed, efe a ddechreuodd bregethu. Wedi treulio rhai blynyddau fel pregethwr cynorthwyol, derbyniwyd ef fel ymgeisydd am y weinidogaeth. Yr oedd yn bregethwr doniol a phoblogaidd. Yr oedd rhyw swyn anghyffredin yn ei bregethau. Byddai ei faterion yn wastad yn darawiadol; ei agwedd yn syml a phrydferth; a'i lais yn fwyn, melus, a thoddedig. Anfynych y pregethai heb fod ei wrandawyr mewn dagrau; ac yr oedd arddeliad hynod ar ei weinidogaeth. Bu yn offeryn i droi llawer at yr Arglwydd. Nid oedd ei gyfansoddiad ond gwanaidd, ac yn fuan efe a ddechreuodd lesgâu. Cafodd gystudd maith a blin, ond mwynhaodd dangnefedd heddychol hyd y diwedd. Hunodd yn yr Iesu, Gorph. 19eg, 1849, yn 31 mlwydd oed, wedi bod 9 mlynedd yn y weinidogaeth. Y mae ei enw eto fel perarogl mewn llawer ardal.