Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Rhys, o'r Blaenau

Jones, Parch. Owen, Towyn) Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Jones, Parch. Rice, o'r Blaenau

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Rhys Jones o'r Blaenau
ar Wicipedia

JONES, RHYS, o'r Blaenau, ydoedd fab ac etifedd John Jones, Ysw., o'r Blaenau, plwyf Llanfachreth, yn nghantref Meirionydd. Ganwyd ef yn 1713. Ei fam oedd Sioned, merch Huw Puw, Ysw., Garthmaelan, Dolgellau. Bwriad y rhieni oedd dwyn Rhys i fyny yn gyfreithiwr. Aeth i ysgol Dolgellau, oddiyno i'r Amwythig; ond tra yr oedd yn Amwythig bu farw ei dad, a dychwelodd yntau adref, ac yno y treuliodd ei oes faith, yn rhyddfeddianwr diardreth. Dywedir ei fod yn ŵr o synwyr cyffredin cryf anarferol, a chyrchai y cymydogion ato i ymgynghori ar bynciau dyrus, a byddai ei farn yn gyffredin yn benderfyniad. Yr oedd Rhys hefyd yn fardd gwych. Ond dywedir iddo ymenwogi yn fwy fel detholydd nag fel bardd, er iddo gyfansoddi ei hun rai pethau galluog. Yn 1770 cyhoeddodd “Pigiadau dewisol o waith prydyddion o'r amrywiol oesau." Yn 1773 cyhoeddodd "Gorchestion Beirdd Cymru." Wedi marwolaeth y bardd cyhoeddwyd cyfrol o'i ganiadau gan ei wyr, Rice Jones, Owen, Ysw., a chynwysa hwnw rai darnau moesol a galluog ond nid yw y rhai moesol yn alluog, na'r rhai galluog yn foesol. Bu farw Chwefror 14, 1801, yn 86 oed, a chladdwyd ef yn Eglwys Llanfachreth.

Nodiadau

golygu