Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Jones, Parch. Rice, o'r Blaenau
← Jones, Rhys, o'r Blaenau | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Lloyd, Parch. Hugh, Towyn → |
JONES, Parch. RICE, ydoedd fab i'r enwog Rhys Jones, o'r Blaenau, yn nghantref Meirionydd. Ganwyd ef yn 1755. Pa ddysgeidiaeth a gafodd yn more ei oes nid yw yn hysbys, ond gwyddys iddo efrydu yn benaf ar gyfer yr Eglwys Sefydledig, ac iddo gael lle i weinyddu y swydd o offeiriad yn Llanystumdwy, Sir Gaernarfon. Bu farw Mawrth 14, 1790, yn 35 oed, a chladdwyd ef yn mynwent blwyfol yr Eglwys grybwylledig, lle y mae gwyddfaen yn dangos ei fedd, ac arysgrifen ei goffadwriaeth arno, ynghyda'r englyn canlynol o waith ei dad, yn coffhau ei aml rinweddau:
"Pregethwr, awdwr ydoedd—hoff urddas,
Hyfforddiant i filoedd ;
Athraw odiaeth weithredoedd,
A geiriau mel angel oedd."