Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Lloyd, Parch. Hugh, Towyn

Jones, Parch. Rice, o'r Blaenau Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Lleucu Llwyd

LLOYD, Parch. HUGH, Towyn Meirionydd, gweinidog gyda'r Annibynwyr. Ganwyd ef yn Bryngoleu, ger y Bala, yn 1790. Cafodd ysgol pan yn blentyn. Dechreuodd bregethu yn Penystryd, Trawsfynydd. Bu am ryw ysbaid yn y Groeslon, Môn, lle y cadwai ysgol. Yn 1816 derbyniodd alwad eglwys Annibynol Llwyngwril, yn nghantref Meirionydd. Yr oedd eglwysi Towyn a Llanegryn hefyd dan ei ofal. "Credai y Gwirionedd, teimlai y Gwirionedd, ac yr oedd holl rediad cyffredin ei fywyd yn cyd-ddwyn tystiolaeth i'r Gwirionedd. Fel pregethwr nis gellir ei resu ymysg y dosbarth blaenaf fel pregethwr i'r cyhoedd; ail radd oedd ei ddoniau a'i dalentau; ond fel pregethwr i'r un gynulleidfa yr oedd ynddo ragoriaethau. Yr oedd ganddo yn wastad bregeth dda, bwrpasol, wedi ei hastudio yn fanwl." Bu yn hynod lafurus hefyd gydag adeiladu capelau, a'r gwahanol gymdeithasau, &c. Bu farw Medi 25, 1861 yn 71 oed, wedi bod yn Towyn Meirionydd 45 o flynyddoedd.

Nodiadau

golygu