Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Lleucu Llwyd

Lloyd, Parch. Hugh, Towyn Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Llewelyn Goch ab Meurig Hen

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Lleucu Llwyd
ar Wicipedia

LLWYD, LLEUCU, Pennal, yn nghantref Meirionydd, rhian nodedig am ei thegwch, yn ystod y 14eg ganrif. Yn groes i ewyllys ei rhiant enillwyd ei serch gan Llewelyn Goch ab Meurig Hen, o Nannau, Hi a aeth i ymdaith ar ddamwain i'r Deheubarth. Ei thad, er mwyn diddymu ei serch oddiarno, a hysbysodd Lleucu un diwrnod fod Llewelyn wedi ymbriodi â morwynig arall; eithr cafodd y newydd y fath effaith arni fel y syrthiodd i lawr, ac y bu farw yn yr awr hono. Pan ddychwelodd ei hanwylyd, a chlywed yr hanes galaethlawn, efe a gyfansoddodd farwnad nad oes mo'i bath yn yr iaith am angerddoldeb teimlad. Y mae i'w gweled yn argraffedig yn y Brython, cyf. ii. 170; a cheir cyfieithiad o honi yn y Bardic Museum, gan Jones. (Geir. Byw., Lerpwl.) Rhaid i ni addef fod mwy o hynodrwydd yn perthyn i hanes person fel yr uchod yn hytrach nag enwogrwydd. Nid yw pob hynodrwydd yn enwogrwydd.

Nodiadau

golygu