Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Llewelyn Goch ab Meurig Hen

Lleucu Llwyd Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Meirion

Wikipedia logo Mae erthygl parthed:
Llywelyn Goch ap Meurig Hen
ar Wicipedia

LLEWELYN GOCH AB MEURIG HEN, bardd enwog a drigianai yn Nannau, Llanfachreth, yn nghantref Meirionydd, ac yn ei flodau rhwng 1330 a 1370. Enillodd serch Lleucu Llwyd, rhian nodedig am ei phrydferthwch, o Bennal, ac ar ei marwolaeth disyfyd cyfansoddodd farwnad alaethlawn, yr hon a argraffwyd yn y Brython ii. 170, a chyfieithiad o honi yn y Bardic Museum gan Jones. Y mae llawer ychwaneg o'i farddoniaeth ar gael, a chwe' dernyn yn argraffedig yn y Myv. Arch. Canwyd ei farwnad ef gan Iolo Goch.-(Geir. Byw., Lerpwl.)

Nodiadau

golygu