Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Meirion
← Llewelyn Goch ab Meurig Hen | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Morris, Parch. Lewis → |
MEIRION, penaeth yn y bumed ganrif. Mab ydoedd i Tybiawn ab Cunedda. Lladdwyd ei dad tra yn brwydro gyda'i frodyr yn erbyn Gwyddelod, y rhai a oresgynasant wlad Gwynedd, ac wedi eu llwyr ymlid ymaith cafodd Meirion, yn hawl ei dad, y cantref a adwaenir wrth yr enw Cantref Meirionydd, yn swydd Feirion.