Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Lloyd, Parch. William, D.D
← Lloyd, Edward, A.C. | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Lloyd, Parch. Simon, B.A → |
LLOYD, Parch. WILLIAM, D.D., ydoedd fab i'r Parch. Edward Llwyd. Yr oedd yn beriglor Llangower, rhwng 1645 a 1685. Addysgwyd ef yn Ngholeg St. Ioan, Caergrawnt, ac ar ol ei urddo cafodd amryw ddyrchafiadau eglwysig, a'i benodi yn gaplan i Siarl II. Yn Ebrill, 1676, cysegrwyd ef yn esgob Llandaf; a dyrchafwyd ef oddiyno i Peterborough yn Mawrth, 1679; ac oddiyno i Norwich yn Mehefin, 1685. Bwriwyd ef allan o'r esgobaeth hon yn 1691, am wrthod cymeryd llw o ffyddlondeb i William a Mary, ac ymneillduodd i Hammersmith, ger Llundain, lle y bu yn trigianu am ugain mlynedd. Bu farw yn 1710, ac yn ol ei ddymuniad claddwyd ef yn nghlochdy eglwys y lle hwnw.