Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Llywarch Hen
← Lloyd, Parch. Simon, B.A | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Moses, Parch. Evan, y Bala → |
LLYWARCH HEN, yr enwocaf o'r cynfeirdd. Dywed Cynddelw yn Gorchestion Beirdd Cymru:—Llywarch Hen, gan belled ag y gallaf fi farnu, yw y mwyaf ei athrylith o'r cynfeirdd o ddigon. Ymha le bynag y ganed ac y maged Llywarch Hen, ymddengys, o'r hyn lleiaf, ei fod o waed Meirionaidd; oblegid fe ddywedir fod perthynasau iddo yn byw tua Llanfor, ger y Bala, gan fod Mor, sant gwarcheidiol y lle hwnw, yn frawd i'w hen daid, Gwrwst Ledlwm. Yno y gorphenodd ei oes faith, tua'r flwyddyn 646, yn 150 oed; ac yn Llanfor y claddwyd ef'; a dywedai Dr. Davies, o Fallwyd, fod careg yn y mur yn dynodi ei · orweddle. Y mae y man y trigai yn cael ei ddangos eto, tan yr enw "Pabell Llywarch Hen." Hefyd y mae ei enw yn "Achau teulu Rhiwaedog, a Phlas-yn-dref, Bala," gan G. Lleyn, lle y dywed yr hynaflaethydd gwych hwnw :—"Rhiwaedog, yn hytrach Rhiwwaedog, sydd yn mhlwyf Llandderfel, ger y Bala, yn Sir Feiriónydd. Gelwir y lle felly oddiwrth ymladdfa waedlyd a gymerodd le yno rhwng Llywarch Hen a'r Sacsoniaid, yn yr hon y collodd Cynddelw, yr olaf o'i feibion." Yr oedd Llywarch Hen yn enwog fel milwr yn gystal ag fel bardd. Elidir Lydanyn oedd ei dad, a Gwawr, ferch Brychan Brycheiniog, sant enwocaf yr oes, oedd ei fam. Yr oedd Urien Rheged yn gefnder iddo o du tad a mam, canys yr oedd Elidir a Chynfarch wedi priodi dwy o ferched Brychan, sef Gwawr a Nefyn. Tywysog ar y Brythoniaid Gogleddol, a breswylient Is-coed Celyddon, oedd ei dad; a rhan trefdadol Llywarch oedd Argoed, yn Sir Cumberland. Bu Llywarch Hen am ryw ysbaid yn llys Arthur; gelwir ef yn y Trioedd yn "Un o dri chynghoriaid farchawg llys Arthur," ac yn "Un o dri thrwyddedog llys Arthur." Yr oedd iddo 24 o feibion, a phob un yn amdorchog; ond goroesodd hwynt oll, a syrthiasant yn ebyrth ar allor waedlyd yr oes ryfelgar hono. Cwympodd tri yn mrwydr Catraeth, a dynoda yr hen fardd yn hynod o alarus y man y syrthiodd y gweddill. Cyhoeddwyd 12 o'i gyfansoddiadau yn Myv. Arch., ac yn 1792, cyhoeddwyd hwynt ar wahan, ynghyd a chyfieithiad i'r Saesneg gan, Dr. W. O. Pughe. mae "Englynion Eiry Mynydd" o'i waith yn Gorchestion Beirdd Cymru, t.d., 35. Hefyd y mae pump o "Englynion Diarebol," o'i waith yn Golud yr Oes, cyf. I., 356.
"Gnawd gwynt o'r deheu, gnawd adneu—yn llan ;
Gnawd gwr gwan gordeneu,
Gwan i ddyn ofyn chwedleu."
"Gnawd gwynt o'r dwyrain: gnwad dyn bronrain—balch;
Gnawd mwyalch yn mhlith drain;
Gnawd rhag traha tra llefain,
Gnawd yn ngwig gael cig i frain."
"Gnawd gwynt o'r gogledd; gnawd rhianedd—chweg;
Gnawd gwr teg yn Ngwynedd;
Gnawd I deyrn arlwy gwledd;
Gnawd gwedi llyn lledfrydedd."
"Gnawd o'r mor, gnawd dygfor—llanw;
Gnawd i fanw fagu hor;
Gnawd i foch turiaw cylor."
"Gnawd gwynt o'r mynydd; gnawd merydd—yn mro;
Gnawd gael tô yn Ngweunydd:
Gnawd dail, a gwyail, a gwŷdd."