Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Moses, Parch. Evan, y Bala
← Llywarch Hen | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Moses, Parch. Sion, Y Bala → |
MOSES, Parch. EVAN, Bala, un o hen bregethwyr y Trefnyddion Calfinaidd yn y dref hono. Gôf wrth ei alwedigaeth. Tua'r flwyddyn 1744, dechreuodd bregethu. Yr oedd yn un o ysbryd effro a gweithgar iawn gyda chrefydd. Ei dduwioldeb oedd amlwg, a pharhaodd yn ffyddlawn yn ngwasanaeth ei Arglwydd hyd derfyn ei oes. Yr oedd Evan Moses yn fardd hefyd; fe ddywedir y byddai ei bin, ei inc, a'i bapyr yn ei ymyl bob amser yn yr efail, i ysgrifenu hymnau a gyfansoddai wrth guro ar yr haiarn; neu rywbeth arall a ddeuai i'w feddwl. Trwy fod yr erledigaeth yn boeth y pryd hyny, cyhoeddodd yntau y pregethai am bump yn y boreu tra byddai byw. A safodd ef at hyny, ond byddai ei wrandawyr yn hynod anaml yn fynych. Elai o amgylch i alw ei wrandawyr o'u gwelyau, gan ddywedyd, "Codwch, frodyr, at yr Arglwydd, a pheidiwch gwrando ar y cnawd." Yr oedd yn un o'r rhai ffyddlonaf yn ngwaith ei Arglwydd, er cymaint o wrthwynebiadau a gafodd. Ond ni ddiffygiodd nes gorphen ei yrfa, yr hyn a wnaeth gyda llawenydd a chysur mawr.