Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Moses, Parch. Sion, Y Bala
← Moses, Parch. Evan, y Bala | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Owen, Parch. Thomas, yr Wyddgrug → |
MOSES, Parch. SION, ydoedd frawd i'r crybwylledig Evan Moses, ac yn bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala. Yr oedd o ymadrodd llithrig a chymeradwy, a pharhaodd i lafurio dros amryw flynyddau. Yn y rhan olaf o'i ddyddiau, yr oedd arogl peraidd ar ei eiriau a'i ymarweddiad. Dywedir iddo ef ac un arall sefyll yn wrol o blaid Howel Harris, pan ymosodwyd arno yn greulon gan yr erlidwyr, ac ymdrechent ei achub o'u dwylaw. Bernir y buasent wedi ei ladd oni buasai i'r gwŷr hyn osod eu hunain mewn enbydrwydd er achub ei fywyd. Daliwyd ef a'i fam am gadw Howel Harris yn eu tŷ; a daliwyd dau eraill am wrando arno. Rhwymwyd y rhai hyn i ateb y brawdlys canlynol. Gorfu i'w fam dalu ugain swllt am dderbyn pregethu i'w thŷ; Yr oedd a'r tri eraill bum' swllt yr un am wrando arno! Sion Moses wedi dechreu pregethu tua'r un amser a'i frawd. (Y mae llawer o hanesion dyddorol ac adeiladol am yr hen frodyr hyn ac eraill yn Meth. Cym. gan y Parch. John Hughes).