Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Owain Gwynedd, (bardd)
← Owain ab Gwilym | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Owen, Parch. Henry, M.D. → |
OWAIN GWYNEDD, bardd gorchestol, yn ei flodeu rhwng 1540 a 1590. Dywedir mai ei enw priodol oedd Owen Evans. Cafodd radd pencerdd gan Simwnt Fychan yn ail Eisteddfod Caerwys yn 1568. Dywedir fod Owain Gwynedd yn gydoeswr â W. Lleyn, a bod ymryson barddonol wedi bod rhyngddynt. Y mae cywydd o'i waith yn Ngorchestion Beirdd Cymru, ac y mae saith cywydd eraill ar gael mewn llawysgrifau. Nis gellir casglu oddiwrth y rhai hyny ei fod, fel y dywed rhai, yn fardd i Lewis Owen, y barwn, o'r Llwyn, ond ei fod yn gyfaill cydstad â'r teulu mewn urddas.—(Geir. Byw., Lerpwl, Geir. Byw., Aberdâr.)