Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Pugh, John, Ysw., (Ieuan Awst)

Pugh, Parch. William, Llanfihangel y Pennant Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Richards, Syr Richard

PUGH, JOHN, Ysw., (Ieuan Awst) ydoedd fardd a llenor enwog yn ei ddydd. Ganwyd ef yn Nolgellau, yn y flwyddyn 1784. Cyfreithiwr ydoedd wrth ei alwedigaeth. Nid oes genym. nemawr o'i hanes, gadawn i'r bardd lefaru am dano:—

"Gwyddai am holl agweddion—ysgrifiaeth,
Rhifyddiaeth, mawr fôddion;
Bydoniaeth—seriaeth, llys Ion,
Alsoddiaeth a'i dlysyddion."

"E fynodd holl elfenau—Gomeriaeth,
Gem eurwych tafodau;
Ol iaith clêr, gwŷr Elaeth clau,
Geraint Fardd Glas o'r gorau.

"Ei bêr ddawn mewn barddoniaeth
Heb beidiaw fu'n ffrydiawn'n ffraeth."

Y mae gan y bardd lawer yn ychwaneg i'w ddyweyd am dano ond gadawn ar hynyna. Bu farw Chwefror 16, 1839, yn 55 oed.


Nodiadau

golygu