Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Rowlands, Griffith
← Roberts, Parch. John (Robyn Meirion) | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Williams, David, Ysw., (Dewi Heli) → |
ROWLANDS, GRIFFITH, Ysw., a anwyd yn mhlwyf Llanfair, ger Harlech, yn Ardudwy, Ebrill 9, 1761. Ar ol cael addysg ysgoleigol gyfaddas i'r alwedigaeth y bwriedid ef iddi, dodwyd ef dan egwyddor-ddysg llawfeddyg yn Lerpwl; ac wedi i'w amser ddyfod i fyny yno, aeth i Lundain i'r diben i gael ymarferiad pellach yn y gelfyddyd, gan restru ei hun yn Bartholomew's Hospital. Enillodd ganmoliaeth cyffredinol a chyfeillgarwch parhaol uwch swyddogion physigwrol y sefydliad ardderchog hwnw, y rhai oeddynt wŷr gorenwog am eu medrusrwydd a'u cyrhaeddiadau galwedigaethol. Y sefyllfa y crybwyllwyd i Mr. Rowlands ei chael yn y lle hwn, nis gellid yn y dyddiau hyny ei chyraeddyd ond trwy deilyngdod, ac nid fel yn awr, trwy bleidgarwch neu ryw delerau pwrcasol. Bu iddo ymsefydlu yn ninas Caerlleon, lle yr arosodd o hyny hyd derfyn ei oes. Y mae yn eglur i'w lwyddiant fod yn dra chyflym, er nad oedd eto ond ieuanc. Yn 1785 dewiswyd ef yn llawfeddyg i glafdy y ddinas, a chyflawnodd ddyledswyddau y swyddogaeth hono gyda diwydrwydd a chymeradwyaeth diball am 43 mlynedd. Crybwyllir yn ei hanes am liaws o orchestion a gyflawnodd fel meddyg, ar y Parch. T. Charles, o'r Bala, a'r Parch. T. Jones, o Ddinbych, ac. Bu farw Mawrth 29, 1828.—(Geir, Byw. Aberdar.)