Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Samuel, Parch. Edward
← Roberts, Parch. Robert 2il | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Williams, Parch. Robert, A.M → |
SAMUEL, Parch. EDWARD, offeiriad Bettws Gwerfil Goch, yn Edyrnion. Ganwyd ef mewn lle o'r enw Cwtydefaid, yn mhlwyf Penmorfa, yn swydd Gaernarfon, yn 1674. Dywedir mai mab i wr tlawd ydoedd; a phriodolir ei ddygiad i fyny i'r offeiriadaeth i nawdd a chefnogaeth y Dr. Humphreys, o'r Penrhyndeudraeth, sef esgob Bangor, yr un gwr ag a anogodd awdwr y Bardd Cwsg i gymeryd urddau Eglwysig. Cafodd bersonoliaeth Bettws Gwerfil Goch yn 1702, a bu yno am bedair-blyneddar-ddeg. Yn 1721 symudodd i Langar, yn yr un gymydogaeth, lle yr arhosodd hyd ddydd ei farwolaeth, yr hyn a ddigwyddodd Ebrill 8, 1748, ac efe yn 75 oed. Claddwyd ef yn mynwent Llangar, wrth ben dwyreiniol yr Eglwys, ac y mae ei gareg fedd yn aros yno hyd heddyw. Ysgrifenodd Edward Samuel lawer yn ei ddydd, a rhesir ef yn gyfiawn ymhlith ysgrifenwyr goreu y ddeunawfed ganrif. Yr oedd hefyd yn fardd o gryn gyfrifoldeb; a gellir gweled amryw engreifftiau o'i gynyrchion prydyddol yn Mlodeugerdd Cymru a'r Dewisol Ganiadau. Nid rhyw lawer o gyfansoddiadau gwreiddiol a gyhoeddwyd ganddo; ond gwasanaethodd ei oes a'i genedl trwy gyfieithu i Gymraeg lân ddiledryw lyfrau gwir werthfawr o ieithoedd eraill. A ganlyn sydd restr o'i weithiau llenorol :—1, "Bucheddau'r Apostolion a'r Efengylwyr, a gasglwyd allan o'r Ysgrythyr Lân, ac o ysgrifeniadau'r athrawon goreu," 1704. 2, "Gwirionedd y Grefydd Gristionogol," cyfieithiad o waith Hugo Grotius, 1716. 3, "Holl ddyledswydd dyn," o gyfieithiad Edward Samuel, 1718. 4, "Prif ddyledswyddau Cristion," &c., cyfieithiad, 1723. 5, "Athrawiaeth yr Eglwys," cyfieithiad, 1731. 6, "Pregeth ynghylch gofalon bydol," 1720. 7, "Pregeth ar adgyfodiad ein Harglwydd Iesu Grist." 1766.—(Rhagymadrodd i argraffiad 1854 o Wirionedd y Grefydd Gristionogol, gan Hirlas.