Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Williams, Parch. Robert, A.M
← Samuel, Parch. Edward | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Wynne, Parch. Robert, Gwyddelwern → |
WILLIAMS, Parch. ROBERT, A.M., oedd beriglor Llangar, yn Edeyrnion. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1748. Yr oedd yn awyddus iawn dros iaith ei wlad, ac yn medru ei hysgrifenu yn rhagorol o gywir, a byddai yn arfer barddoni yn bur dda. Testyn eisteddfod a gynhaliwyd yn Llangollen ar Ionawr 5ed, 1826, oedd marwnad i'r gŵr hwn. Gweinyddodd 55 mlynedd yn esgobaeth Llanelwy. Bu farw Hydref 6ed, 1825, yn 77 mlwydd oed.