Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Wynne, Parch. Robert, Gwyddelwern
← Williams, Parch. Robert, A.M | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Enwogion Mawddwy → |
WYNNE, Parch. ROBERT, Gwyddelwern, oedd offeiriad as bardd o gryn fri yn ei oes. Y mae ar gael o'i waith, "Marwnad ar ol y Frenhines Anne," a "Haf-gân yn amser Heddwch," yn y Blodeugerdd, tudal. 296—7. Cafodd ficeriaeth Gwyddelwern yn 1702 gan yr Esgob Jones. Pregethwyd pregeth angladdol iddo ar yr 2il o Fai, 1720, yn Eglwys Llangower, gan y Parch. Edward Samuel.