Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Thomas, David (Dewi ab Didymus Carndochan)

Tegwedd Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Thomas, Parch. Robert, Llidiardau

THOMAS, DAVID, Meifod. Ganwyd ef yn Ty'nygwynt, ger y Bala, yn Mhenllyn, Rhagfyr 29, 1782. Ni chafodd David Thomas ond ychydig ysgol ddyddiol pan yn blentyn. Yn 1805 priododd Miss Mary Roberts, merch Robert Oliver, Ty coch. Yn 1809 derbyniwyd ef yn aelod eglwysig yn yr Hen Gapel, gan Dr. Lewis. Yn 1829 symudodd David Thomas a'i deulu o Lanuwchlyn i'r Main, Meifod, swydd Drefaldwyn; ac yn 1862 symudasant i Feifod, lle y bu farw, Ionawr 30, 1863. Yr oedd Mr, Thomas yn wr llafurus iawn gyda chrefydd, er nad oedd yn rhyw siaradwr mawr—llawer o waith ac ychydig o swn oedd ei arwyddair ef. Yr oedd David Thomas yn fardd pur wych, a gadawodd liaws o gyfansoddiadau barddonol mewn llawysgrifen i'w wyr David Thomas. Ymddangosodd amryw ddarnau o'i eiddo yn y Dysgedydd o dro i dro; galwai ei hun yn "Dewi ab Didymus Carndochan." Y mae un-a-ddeg o ddarnau barddonol o'i eiddo yn niwedd ei Gofiant, gan y Parch. R. Thomas, Bangor. Argraffwyd yn Llanfyllin, 1863.


Nodiadau

golygu