Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Thomas, Parch. Robert, Llidiardau
← Thomas, David (Dewi ab Didymus Carndochan) | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Thomas, Parch. John, y Bala → |
THOMAS, Parch. ROBERT, o'r Llidiardau, ger y Bala, yn Mhenllyn, oedd bregethwr gyda'r Trefnyddion Calfinaidd. Ganwyd ef yn Trawsafon, Bettws y coed, swydd Gaernarfon, Awst 28, 1796. Daeth at grefydd yn fore, ac yr oedd yn hoff iawn o ddarllen er yn blentyn; hefyd, yr oedd tuedd at farddoni ynddo mor fore a'r duedd at ddarllen. Yn 1819, pan oedd yn 25 oed, dechreuodd bregethu, a phregethodd y waith gyntaf mewn ffermdy o'r enw Erw llochwyn; y testyn oedd Matthew i. 18—25. Yr oedd yn ysgolhaig pur dda; cafodd ysgol pan yn blentyn yn Llan y plwyf, yn Bettws y coed; bu wedi hyny yn ysgol Llanrwst, dan ofal y Parch. W. Jones, Rhuddlan; ac yn Ngwrecsam, dan addysg y Parch. J. Hughes. Yn 1826 priododd Sarah Thomas, a symudasant i'r Bala i fyw, ac i gadw ysgol ddyddiol. Yn 1828 gadawodd y Bala, ac aeth i ffarmio i le o'r enw Ty nant, yn agos i gapel Llidiardau. Yn 1840 rhoddodd ffarmio heibio am byth, a threuliodd weddill ei oes mewn gweithio gwaith maen am ysbaid, a chadw ysgol ddyddiol wedi hyny. Bu yn byw yn Ffestiniog am 13 o flynyddau, a symudodd wedi hyny yn oli Llidiardau, ger y Bala, lle y treuliodd weddill ei oes. Yn 1849 cyhoeddodd lyfr barddonol dan yr enw "Lloffion o Faes Boas ; sef Caneuon gan Robert Thomas, Ffestiniog. Bala: Argraffedig gan R. Saunderson, 1849." Rhaid i ni addef fod mwy o hynodrwydd yn perthyn i Robert Thomas nag o enwogrwydd; eto yr ydym yn ystyried fod mwy o enwogrwydd yn perthyn iddo na llawer un sydd i mewn yn y rhestr hon o enwogion swydd Feirion. Dywed y Parch. Owen Jones yn ei Gofiant fod ganddo gof rhagorol; ei fod yn hanesydd da; yn feddianol ar barodrwydd ymadrodd na welir yn aml ei gyffelyb; y siaradai ar bwnc yn hollol ddiragfyfyr, a hyny yn gampus iawn weithiau; ei arabedd yn ail i eiddo y Gwyddel; a'i fod yn meddu ar holl elfenau cymeriad a fawrygid ac a hoffid gan y rhai a'i hadwaenent, a pho fwyaf y deuid i adnabyddiaeth o'r dyn mwyaf oll y perchid ef.—(Gweler ei Gofiant gan y Parch. Owen Jones, B.A., Ffestiniog; cyhoeddedig gan Hughes a'i Fab, Wrecsam.)