Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Thomas, Parch. John, y Bala

Thomas, Parch. Robert, Llidiardau Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Thomas, Parch. William, Beaumaris

THOMAS, Parch. JOHN, oedd weinidog y Trefnyddion Calfinaidd yn y Bala, yn Penllyn. Ganwyd ef yn 1811. Daeth at grefydd yn ieuanc, a dechreuodd bregethu pan oedd tua 25 oed. Yr oedd yn bregethwr ffyddlawn a thra sylweddol; yr oedd yn barchus a chymeradwy gan yr eglwysi yn gyffredinol, er nad oedd yn feddianol ar ddawn rydd a phoblogaidd i osod allan ei ddrychfeddyliau. Teimlid colled mawr ar ei ol yn yr ardaloedd lle y byddai yn llafurio yn fwyaf cyffredin. Wedi pregethu am ugain mlynedd cymerwyd ef yn glaf gan y cancer yn ei gylla, a bu farw Gorphenaf 4, 1857.


Nodiadau

golygu