Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Thomas, Parch. William, Beaumaris

Thomas, Parch. John, y Bala Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Thomas, Parch. William, y Bala

THOMAS, Parch. WILLIAM, gweinidog yr Annibynwyr yn Beaumaris, swydd Môn, oedd enedigol o'r Bala, yn Penllyn. Ganwyd ef yn y flwyddyn 1812. Cafodd addysg dda, yn benaf yn ysgol waddoledig yn Tydandomen. Derbyniwyd ef yn gyflawn aelod pan yn bur ieuanc. Yn fuan gadawodd gartref am Harwood, ger Wrecsam; a bu yn hynod ymdrechgar a llafurus gyda'r achos yn y lle hwnw, yr hon eglwys oedd dan ofal gweinidogaethol y Parch. W. Williams, Wern. Er fod Mr. Williams yn tynu lluoedd ar ei ol ymhob congl a chilfach yn Nghymru. Nid oedd Harwood yn deimladwy o'i ddylanwad; yn canfod hyn Mr. Thomas a ymdrechodd ffurfio cyfeillgarwch â phobl ieuaincy gymydogaeth, a thueddodd amryw o honynt i uno â'r ysgol Sabbothol. Cynhaliai gyfarfodydd gweddiau, &c. Cyn hir anogwyd ef i bregethu, ac aeth i Marton, yn swydd Amwythig, i'r ysgol, at y Parch. J. Jones. Yn Awst, 1830, urddwyd ef yn Horeb, Dwygyfylchi, lle y llafuriodd mewn modd cymeradwy a llwyddianus am bum' mlynedd. Yn Medi, 1844, derbyniodd alwad eglwys Seion, Beaumaris. Yn 1857 collodd ei frawd hynaf, sef y Parch. J. Thomas uchod, o'r Bala. Effeithiodd hyn yn ddwys ar ei feddwl. Ac yn Ebrill 15, 1865, collodd ei briod, yr hyn a'i dyrysodd i fesur fel gweinidog, trwy ei daflu i ormod tristwch. Yr oedd yn weinidog galluog, ffyddlawn, a phoblogaidd iawn. Bu farw Ebrill, 1866, yn 54 oed.—(Geir. Byw., Aberdâr.)


Nodiadau

golygu