Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Thomas, Parch. William, y Bala
← Thomas, Parch. William, Beaumaris | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Williams, Robert → |
THOMAS, Parch. WILLIAM, o'r Bala, ydoedd weinidog gyda'r Annibynwyr. Ganwyd ef yn Awst 1749. Amaethwyr cyfrifol oedd ei rieni; yr oedd ei dad yn enedigol o swydd Forganwg, a'i fam o swydd Gaerfyrddin. Cafodd addysg dda pan yn blentyn; a phan yn bur ieuanc aeth i Lundain, lle yr oedd ganddo berthynasau mewn sefyllfa gyfrifol, a chafodd le gyda masnachwyr yn Long Acre, lle y bu mewn parch mawr. Pan oedd tua 23 daeth adref at ei fam, i gymydogaeth Llanymddyfri; ac arferai fyned i wrando y Parch. Isaac Price, yn eglwys Crug y Bar, lle yr ymunodd yn fuan â'r eglwys hono, a chyn hir dechreuodd bregethu. Bu am ddwy flynedd yn athrofa Ymneillduol Abergefenni, o dan y Dr. Davies. Oddiyno ordeiniwyd ef yn nghapel Llanover, ger y dref hono; ac ymhen ychydig flynyddau wedi hyny efe a symudodd i'r Bala, yn Mhenllyn, lle y bu yn llafurio dros 21 o flynyddoedd. Tra y bu yno cyhoeddodd amryw lyfrau :—1, "Myfyrdodau diweddaf y Parch. Mr. Baxter ar farwolaeth," &c.; Trefecca, 1792. 2, "Arfogaeth y gwir Gristion," &c., cyfieithiad yw hwn eto o weithiau Gurnal a Dr. Guyse: Trefecca, 1794. 3, "Cyfaill i'r Cystuddiedig," &c., cyfieithiad o lyfr y Parch. John Willison; Trefecca, 1797. 14, Cyfieithu "Dioddefaint Crist," o waith Joseph Hall, D.D., 66 ac Angau i angau y' marwolaeth Crist," o waith John Owen, D.D., y ddau yn un llyfr; Trefecca, 1800. 5, "Cyfarwyddiadau mewn Geography," &c.; Caerlleon, 1805; 225 o dudalenau 12 plyg. 6, Ei waith mawr oedd cyfieithu "Esboniad Guyse ar y Testament Newydd." Costiodd y rhodd yma i Gymru yn ddrud iawn i'r cymwynaswr—collodd 300p. ar yr anturiaeth. Ystyrid Mr. Thomas yn bregethwr da, a gwir awyddus i wneyd daioni trwy ei bregethau a'i gyhoeddiadau. Bu farw yn y Bala, Mai 1809, yn agos i 60 oed.