Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Williams, Robert
← Thomas, Parch. William, y Bala | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Enwogion Edeyrnion → |
WILLIAMS, ROBERT, o'r Pandy Isaf, Trerhiw-waedog, ger y Bala, ydoedd fardd da, ac yn ei flodau yn rhan olaf y ganrif ddiweddaf. Efe oedd athraw barddonol Ioan Tegid, a cheir crybwyllion ffafriol am dano yn ngweithiau barddonol y Cymro enwog hwnw. Efe oedd awdwr gwreiddiol y llinell boblogaidd "Bibl i bawb o bobl y byd," a briodolir mor fynych i Fardd Nantglyn. Nid oes genym unrhyw brawf dros ameu gonestrwydd awdwr "Marwnad Sior III.," er fod y llinell wedi ymddangos mewn cyfres o englynion i'r Bibl yn y Drysorfa Ysbrydol, dan olygiaeth Mr. Charles, flynyddau lawer cyn Eisteddfod Gwrecsam. Bu Robert Williams farw mewn henaint teg, yn y flwyddyn 1808. Y mae llawer iawn o'i waith ar gael mewn llawysgrifau.—(Geir. Byw., Aberdâr.)