Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Williams, John, (Ioan Rhagfyr)

William, Humphrey Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Williams, Parch. John, Aberhosan

WILLIAMS, JOHN, (Ioan Rhagfyr), y cerddor o Ddolgellau, a anwyd Rhagfyr 26, 1740, yn Hafodty—fach, plwyf Celynin, yn nghantref Meirionydd. Yn fuan wedi geni John symudodd ei rjeni i dyddyn ger Dolgellau, o'r enw Talywaun. Enw ei dad. oedd W. Robert Williams, ac wrth ei alwedigaeth, gwneuthurwr hetiau brethyn ydoedd. Yr oedd ei fam yn gyfnither i'r hen fardd dysgedig o Gorwen, sef y Parch. Edward Samuel, periglor Llangar. Ni chafodd ond tri mis o ysgol ddyddiol yn ei ieuenctyd, a dygwyd ef i fyny yn yr un alwedigaeth a'i dad. Cafodd dri mis. wedi hyny mewn ysgol yn Amwythig, ac yn fuan iawn hynododd efe ei hun yno fel dysgwr cyflym, ac un hoff neillduol o gerddoriaeth. Yr offeryn cerdd cyntaf a ddysgodd oedd y German flute, yna y trumpet. Pan tua 17 oed, dechreuodd farddoni, ac erbyn cyraedd 22 yr oedd ganddo gywyddau, englynion, ac awdlau gorchestol, wedi eu cynghaneddu ar amrywiol destynau. Bernir iddo ddechreu cyfansoddi cerddoriaeth tua'r un amser, os nad yn gynt, canys ceir iddo gyfansoddi tôn ar y Salm gyntaf pan nad oedd ond bachgenyn, ac iddo ei dysgu yn eglwys Dolgellau yn absenoldeb Mr. J. Symmons, o Swydd Drefaldwyn, yr hwn oedd yn dyfod oddiamgylch i ddysgu cerddoriaeth eglwysig. Dywedir i Mr. Symmons ddywedyd, pan glywodd ganu ei anthem ar y geiriau "Parod yw fy nghalon," ei fod wedi myned a'i damaid o'i ben ef am byth yn Nolgellau. Bu y ddau yn gyfeillion calon am eu hoes. Yn 1758, yn 23 oed, priododd Jane Jones, merch W. Jones, tirfeddianwr, Brynrhug, Dolgellau, ond ni chawsant blant. Nid oes ond ychydig yma ac acw o'i farddoniaeth ar gael; eithr fe geir ei dônau a'i anthemau braidd ymhob hen ysgrif-lyfr trwy Wynedd, os nad yn Mhowys hefyd. Gellir dywedyd yn wirioneddol na chododd neb yn Nghymru, hyd y gwyddom ni, eilfydd iddo yn ei ddawn a'i fedrusrwydd i gyfansoddi peroriaeth o foliant i enw Duw. Anthemau a thônau o'i eiddo ef a genir fynychaf trwy holl Gymru yn yr eglwysi plwyfol er's llawer o flynyddoedd, ac hefyd mewn llawer o addoldai Ymneillduol o amrywiol enwadau. Dywedir hefyd fod rhai o'i dônau godidog ef mewn bri a chymeriad mawr yn rhai o drefydd Lloegr, ac yn cael eu chwareu yno ar yr organau goreu; a da iawn yr haeddant hyny hefyd, yn ol barn pob dyn deallus a gwybodus am y fath beth. Pan yn 32 oed, rhoddodd heibio wneuthur hetiau, a bu am ysbaid yn ysgrifenydd i Mr. Edward Anwyl, cyfreithiwr, Dolgellau. Ond nid oedd y gorchwyl hwn yn unol a'i athrylith; rhoddodd ef i fyny, a bu am ryw ysbaid yn cadw ysgol ddyddiol yn Trawsfynydd, Abermaw, Dolgellau, a Llanelltyd. Ceir rhai o'i gyfansoddiadau barddonol yn Nhrawsfynydd. Pan yn Abermaw y cyfansoddodd yr alaw a elwir " Ymdeith-gân Gwyr Abermaw." Yno hefyd y cyfansoddodd y dôn a elwir "Funeral," at gladdedigaeth gweinidog Llanfachreth. Dywedir mai yn Nolgellau, mewn rhyw gyfyngder a fu arno, y cyfansoddodd anthem ar y 18fed Salm, "Yn fy nghyfyngder y gelwais." Yn Llanelltyd yr oedd pan gyfansoddodd dôn ar y 50 Salm. Cyfansoddodd liaws o anthemau; crybwyllwn am rai o honynt yn mhellach:—"Te Deum," "Jubilate Deo," Deus Misereatur," "Roedd yn y wlad hono," "Onid oes amser terfynedig," "Cenwch i'r Arglwydd ganiad newydd," a'i anthem "Wrth afonydd Babilon," &c., &c.; "Ymdeith-gân Gwyr Meirion," a rhai alawon wedi eu trefnu i'r delyn. Y dôn fwyaf adnabyddus o'i waith yn awr yn ngwasanaeth y cysegr ydyw "Sabbath." Bwriadai gyhoeddi ei holl waith barddonol a cherddorol yn un llyfr dan y teitl "Difyrwch y Cymro," ond bu farw cyn dwyn y bwriad i ben. Pan roddodd heibio gadw ysgol yn Llanelltyd, symudodd i'r Twll-coch, Dolgellau, lle y bu farw Mawrth 11, 1821, yn 81 oed, a'i briod yn fuan ar ei ol. Canodd R. ab Gwilym Ddu o Eifion awdl ardderchog i'w goffadwriaeth.

Nodiadau

golygu