Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Williams, Parch. John, Aberhosan
← Williams, John, (Ioan Rhagfyr) | Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion gan Edward Davies (Iolo Meirion) |
Williams, Parch. Owen, Towyn → |
WILLIAMS, Parch. JOHN, gweinidog yr Annibynwyr yn Aberhosan, Sir Drefaldwyn. Ganwyd ef yn nghymydogaeth l'ennal yn 1799. Argyhoeddwyd ef dan weinidogaeth y Parch. D. Morgan, Machynlleth, wedi hyny o Lanfyllin. Symudodd o Pennal i Dowyn Meirionydd, ac oddi yno i Lanegryn, o'r lle hwn yr aeth i Ysgol Ramadegol, ond mewn cysylltiad â Choleg yr Annibynwyr yn y Drefnewydd, yn awr sydd yn Aberhonddu. Bu am ddwy flynedd yn yr ysgol. Yn 1828, derbyniodd alwad eglwys Annibynol Dinas Mawddwy, yn arglwyddiaeth Mawddwy, lle y bu am ddeng mlynedd yn llafurio gyda llwyddiant mawr. Yn 1829, urddwyd ef, a chafodd alwad gan eglwysi Aberhosan a Phenegoes, ac yn y lle diweddaf y llafuriodd gyda ffyddlondeb mawr hyd derfyn ei oes. "Yr oedd yn llefarwr da, a theithiodd lawer i bregethu yr efengyl." "Yr oedd yn wir gyfaill, ac yn faddeugar i'w wrthwynebydd." "Yr oedd yn weinidog defnyddiol a ffyddlon, ac yn neillduol fanwl at ei ymrwymiadau." Bu farw Medi 12, 1864, yn 66 oed, wedi pregethu am 36 o flynyddau.