Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion/Williams, Parch. Owen, Towyn

Williams, Parch. John, Aberhosan Traethawd ar Enwogion Swydd Feirion

gan Edward Davies (Iolo Meirion)

Williams, Parch. William, o'r Wern

WILLIAMS, Parch. OWEN, Towyn Meirionydd, gweinidog gyda'r Trefnyddion Calfinaidd yn Swydd Feirionydd. Dywed Geir Byw., Aberdar, mai yn 1787 y ganed ef, ond dywed ef ei hun yn ei ysgrifau a adawodd ar ei ol, ei eni ef yn Bryncrug, plwyf Towyn, Swydd Feirion, Medi 11, 1784. Cafodd ysgol dda pan yn ieuanc gyda Mr. John Jones, Penyparc. Dechreuodd bregethu pan yn 27 oed. "Yr oedd ganddo ddull gwreiddiol o draethu ei syniadau ar wahanol faterion. Pregethai y gair yn gadarn ac yn fanylaidd." Cyfansoddodd a chyhoeddodd liaws o lyfrau gwir alluog. Er y dywed ei fywgraffwyr nad oedd dim anghyffredin yn Mr. O. Williams fel pregethwr nac fel awdwr, &c., prin yr ydym yn cydweled â hyn, mor bell ag yr ydym yn cofio O. Williams. Fel pregethwr, ac, yn ol ein cydnabyddiaeth â'i ysgrifeniadau, yr ydym yn meiddio dywedyd ei fod yn feddyliwr anghyffredin. Y mae ei ysgrifau i fyny mewn nerth ac eglurder i ddim braidd sydd wedi ymddangos yn y Gymraeg. Yr ydym yn tybied na chafodd y Parch. O. Williams, a lliaws heblaw yntau, erioed eu hadnabod a'u cydnabod yn deilwng genym fel cenedl. Y mae yn wir ei fod dipyn yn helbulus yn ei amgylchiadau tymorol, a'i fantell yn bur lwydaidd, &c., ond beth er hyny, yr oedd y dyn yno, a dyn mawr iawn hefyd! Y mae tri o'i gyfansoddiadau yn argraffedig ger ein bron:-1. "Golwg ar gyflwr dyn, (1.) yn ei greadigaeth, (2.) yn ei gwymp drwy Adda, (3.) yn ei gyfodiad drwy Grist." Aberystwyth, 1840. 2. "Eiriolaeth Iesu Grist." Bangor, 1850. 3. "Traethawd ar Waed Crist." Dolgellau, 1862. Mathau o draethodau duwinyddol ydynt. Y mae'r traethawd ar "Gyflwr dyn" yn bur faith a galluog hefyd,—yn 180 o dudalenau, plygiad 8. Yr ydym yn gwybod iddo gyhoeddi amryw fân lyfrau eraill, ond nid ydynt wrth law, felly 'nis gallwn roddi cyfrif têg o honynt. Pan yn cyfansoddi ei lyfrau, ni byddai ganddo yr un llyfr ond y Bibl. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu â chôf cryf iawn. Bu farw Ebrill 15, 1859, yn 75 oed, a chladdwyd ef yn mynwent Capel Salem, Dolgellau.

Nodiadau

golygu