Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Haiarn weithfeydd y plwyf

Trem ar Arwynebedd y Plwyf Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf)

Gwaith y Gyfarthfa

Bellach, awn rhagom i draethu ein llen ar

HAIARN WEITHFEYDD Y PLWYF

Dechreuwn yn gyntaf gyda Pontygwaith. Lle a gafodd yr enw oddiwrth fod yno bont goed ar yr afon ger y fan y safai y Gwaith—ychydig yn uwch i fyny ar yr afon na'r un bresenol, yr hon sydd adeilad gadarn wedi ei gwneud o geryg a lusgwyd i'r lle, yn ol pob tebyg, o Graig-daf. Mae rhai o henafgwyr y plwyf yn cofio adeiladu hon.

Gorwedd y lle hwn yn Nghwm-taf, tua chwe milltir i'r de-ddwyrain o Ferthyr; a chytuna haneswyr mai yma yr adeiladwyd y ffwrnes gyntaf yn y plwyf hwn, er ei fod yn anhawdd penderfynu i foddlonrwydd yr amser ei gwnaed, am nad ydyw hyny wedi ei drosi i ni gan ffeithiau hanesyddol argraffedig na thraddodiadol. Cymaint sydd genym ag a allwn ymddibynu arno yw fod y ffwrnes hon yn gweithio yn yr unfed ganrif ar bumtheg, yn ol dyddiad a gafwyd ar ddarn o haiarn a ddarganfyddwyd yma wrth archwilio yr hen weddillion, y rhai ydynt agos a chael eu hysgubo gan ffrwd amser i ebargofiant, fel nad oes yma ddim o'i olion heddyw yn ganfyddadwy ond gweddillion hen glawdd a gludai ddwfr at y gwaith, yn nghyd ag adfeilion muriau hen anedd-dy, a'r rhai hyny agos yn orchuddiedig gan wylltedd anialwch anghyfaneddol. Bu y darn haiarn y soniasom am dano yn meddiant yr adnabyddus David

Mutchet, ac arno y dyddiad 1555; ac nid ydys wedi dyfod o hyd i ddim arall yn y lle hwn gwerth ei gofnodi. Cludid yr haiarn oddiyma ar gefnau mulod a cheffylau i Gaerdydd a Chasnewydd. At yr hyn a nodasom yn barod, cofnodwn yr hyn a ganfyddwyd yn llyfyrgell Merthyr. Traetha fel hyn, "Yn amser y Frenines Elizabeth bu cyfraith yn Nadleudy Cyfiawnder yn Llundain, gan Edward Mutchet a John Watkins, a Bridget ei wraig, yn erbyn Elizabeth Mynifie, mewn perthynas i goed-diroedd, yn Llanwyno, a Gweithiau Haiarn, yn mhlwyf Merthyr Tydfil." Golosg-goed oedd ganddynt, meddir, yn toddi yr haiarn yn y lle hwn, a megin yn chwythu blast iddi. Mae gweddillion ffwrnes arall i'w gweled rhwng y camlas a'r afon Taf, ychydig uwchlaw Pont-y-rhun, yr hon yn ôl pob tebyg, oedd yn cael ei gweithio gan ddwfr o'r afon, yn ol yr olion sydd yno yn ganfyddadwy.

Eto, yr oedd ffwrnes yn Cwmgwernlas tua'r un amser, neu ychydig yn ddiweddarach, yn perthyn, yn ol pob tebyg, i'r un cwmpeini; yr hon fel un Pontygwaith, oedd yn cael ei chwythu gan fegin; a'r cwbl yn cael ei gario tuag atynt, yn gystal ac oddi wrthynt, ar gefnau ceffylau a mulod.

Y lle nesaf y cyfeiriwn ein golygon tuag ato ydyw Dowlais, oddiwrth Nant-duglais, neu dau-lais. Bwrdd dir mynyddig yn gorwedd tua dwy filltir i'r gogledd o Ferthyr. Tra yr oedd y dadwrdd a'r si wedi lledaenu ar hyd a lled y deyrnas am ffwrnes Pontygwaith, Pont-y-rhun, a Chwmgwernlas, tarawodd feddyliau rhai o deulu y codau, sef gwyr yr arian, y gallasai fod yn y plwyf hwn ryw gyflawnder o fwnau a allasent gario gweithfa, neu weithfeydd ar raddeg llawer eangach na'r rhai oeddynt yn bresenol, fel y penderfynodd rhyw nifer o honynt gynal cyfarfod yn Merthyr Tydfil er ceisio cynllunio ffordd i brofi eu damcaniaeth, a chymerodd y cyfarfod hwn le tua decbreu yr unfed ganrif ar bumtheg. Ac yna yr ydym yn cael hanes am rai o achau Cefnmably yn prydlesu rhyw ddarn o dir yn Dowlais gan y Windsors, i'r dyben o godi glo i'w werthu, i fyned i Aberhonddu, a manau ereill, a mwn i fyned at wasanaeth ffwrnes Caerffili, a Llanelli; yr hyn oll a gludid ar gefnau ceffylau a mulod. Yn mhen rhyw dymor cymerodd Thomas Rees, Pwll y hwyaid, a Dafydd Shon, o'r Gwernllwyn-isaf, at y cytundeb a wnaethant a'r Windsors, a buont hwy yn cario'r fasnachaeth yn mlaen dros lawer o flynyddoedd, hyd nes i un o'r enw Walters, o Gaerodor, wneud cytundeb a'r ddau olaf, fod iddynt dalu chwech punt yr un yn y flwyddyn iddo am eu hawl; a thua'r flwyddyn 1748 adeiladodd yma ffwrnes tua maintioli odyn galch, pryd y daeth John Guest, yr hwn oedd dad i Thomas Guest, ac yn daid i'r diweddar Sir John Guest, barwn, yn founder at y ffwrnes hon; ond ryw fodd neu gilydd, aeth y gwaith bychan hwn i fethu ateb ei ddyben, yr hyn a gymhellodd Walters i'w werthu, a phenodwyd dydd yr arwerthiad i gymeryd lle yn Nghaerodor; a phan ddaeth y diwrnod penodedig, aeth John Guest, neu Shon Guest y founder, drosodd tua'r arwerthiad; ond yn anffodus, trodd allan fel y gellir dyweyd am dani un wedd ag y dywedwyd am broffwydi Baal, "Nid oedd llais, na neb yn ateb." Fel y penderfynodd ei gario yn mlaen eilwaith, agos ar yr un cynllun a'r blaenorol, hyd nes i un Tait, brodor o'r Alban, un o Lewisaid Dan y ddraenen, yn nghyd a John Guest, ei gymeryd oddi wrtho; yn mherchenogaeth y rhai hyn y cynyddodd ac yr ymeangodd lawer iawn. Yn y flwyddyn 1753 y gweithiwyd y ffwrnes gyntaf yn y plwyf hwn yno gan agerdd. Er fod y ffyrdd i gludo tuag at, ac i gario oddiwrth y gwaith hwn y pryd hwnw yn hynod wael yn mhob cyfeiriad. Clywsom un henafgwr yn dyweyd i'w dad weled rhyw ddarn o beirianwaith per thynol i'r gwaith hwn yn cael ei gludo o Gaerdydd gan ychain, drwy Fynwent-y-Crynwyr, ac i fyny dros Graigyfargoed, i fyned dros y mynydd tua Dowlais (mae un o'r darnau cyntaf a wnawd o haiarn yn y lle hwn i'w ganfod yn awr tu cefn i aelwyd Bedlinog), am nad allesid byth fyned a'r cyfryw beth trwy Gwm-taf, i fyned trwy Ferthyr o herwydd gerwindeb ac anwastad rwydd y ffordd. Ond er yr anfanteision hyn, yr oedd un fantais fawr ganddynt i'w gorbwyso, yr hyn oedd tua 2,846 o erwau o fynydd-dir, heblaw tiroedd ereill, yn llawn mwn a glo, yn eu meddiant trwy brydles, o'r flwyddyn 1748, am y swm fechan o £100 yn y fwyddyn. Priododd Tait a merch i John Guest; a phan y bu ei dad yn nghyfraith farw, disgynodd ei ran ef o'r gwaith i'w fab, Thomas Guest, tad ydiweddar Sir John Guest, er na feddai Thomas ond tua dwy ran o un ar bumtheg. A phan y bu ef farw disgynodd ei hawl i'r diweddar Sir John Guest. Eto, pan y bu Tait farw, am nad oedd plant iddo, disgynodd ei hawl yntau yn y gwaith i'r diweddar Sir John Guest, yr hwn wedi hyny a wnaeth amod a Mr. Lewis, Danyddraenen, fod iddo ef gael rhyw swm flynyddol yn ol yr hyn a gynyrchai y gwaith, ar yr amod iddo ef, Sir John Guest, gael llywyddiaeth y gwaith yn hollol iddo ei hun. Yn y flwyddyn 1806, pan yn meddiant Lewis C. Tait, cynyrchodd y gwaith hwn 5,432 o dunelli o haiarn. Yn y flwyddyn 1815, pryd hwn, gan mwyaf, yn meddiant Sir John Guest, cynyrchodd 15,600 o dunelli oddiwrth 6 o ffwrnesau, tua'r amcangyfrif o 50 tunell yn yr wythnos. Erbyn 1845 yr oedd yma 18 o ffwrnesau a gynyrchasant y flwyddyn hono 74,880 o dunelli o haiarn, tua'r am cangyfrif o 80 tunell yn yr wythnos. Treulient tua 100 tunell yn y dydd o lo, a'r cyflogau, rhwng swyddwyr a gweithwyr, yn cyrhaedd yn flynyddol tua £250,000. Dywedir fod ei gynyrchion eleni (1863) rhywbeth dros 60,000 o dunelli o haiarn. Ac anfonasant gyda'r gwahanol gledrffyrdd, mewn cyfartaledd, tua 600 tunell y dydd o lo. Adeiladwyd yn y gwaith hwn yn ddiweddar felin gledrau, gyda thraul aruthrol; dywedir mai hon yw y fwyaf yn y byd a adeiladwyd i'r dyben hwn, ond nid ydyw wedi bod eto o haner y dyben ei bwriadwyd. Rhwng llog yr arian a aeth i adeiladu hon a chyflogau rhyw 500 o arolygwyr, a hyny ond ar tua 5,000 o weithwyr, nid ydyw yn rhyfedd fod y si yn daenedig allan nad yw y gwaith hwn yn talu ei ffordd. Ond hyderwn, modd bynag, er mwyn y dyrfa fawr ydynt yn derbyn eu cynaliaeth oddiwrtho, na fydd iddo gyfnewid er gwaeth.

Un o'r swyddogion mwyaf adnabyddus ei gymeriad & fu yn arolygu y gwaith hwn oedd John Evans, yr hwn sydd wedi ymneillduo oddiwrth ei lafur i fywyd anghyoedd yn mhrydnawn ei oes. Daeth Clarke i'w le, yr hwn sydd ddyn tra pharchus a chyfrifol. Dywedir y bydd i Ifor Guest yn fuan gymeryd llywyddiaeth y gwaith yn hollol iddo ei hun. Wel, gwneled felly ynte, a bendithied Ior ei holl amcanion a'i gynlluniau i fod o fawr les iddo ei hun a'r gweithwyr.

Nodiadau

golygu