Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Trem ar Arwynebedd y Plwyf

Teuluoedd Henaf a Pharchusaf Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf)

Haiarn weithfeydd y plwyf

TREM AR ARWYNEBEDD Y PLWYF

Nid oes ond tuag un ran o dair o'r tiroedd sydd yn mhlwyf Merthyr yn ddiwylliedig, a chymharu yr oll gyda'u gilydd. Gwneir ef i fyny, gan mwyaf, o goed-diroedd diffrwyth, gelltydd eang, mynyddau a ranau o fynyddoedd a gwaundiroedd. Un o'r gelltydd mwyaf nodedig ag sydd yn y plwyf yw Gallt-daf, yr hon sydd tua haner milltir o led, a thua phedair o hyd, yn gorwedd ar yr ochr ddwyreiniol i'r brif-ffordd a arweinia o Ferthyr i Gaerdydd. Y nentydd mwyaf nodedig yn y plwyf ydynt Morlais a Dowlais, y rhai a ymunant a'u gilydd ger Pont-y-gellifaelog, ac a arllwysant yn un i'r afon Taf, ger y Bont-haiarn. Ar yr ochr orllewinol i'r afon mae Nant-y-ffrwd, Nant-canaid, Nant-cwmdu, a Nant-fain. Ac ar yr ochr ddwyreiniol i'r cwm mae Nant-ddu a Nant-yr-odyn, yn ymarllwys i'r afon Taf, y flaenaf ger Mynwent y Crynwyr, a'r olaf ger y Pentrebach. Eto, tu arall i'r mynydd ar yr ochr ddwyreiniol mae Nant y-fedw, a Nant cothi yn ymarllwys i Fargoed, y flaenaf tua dwy a'r olaf tua milltir i'r gogledd o Fynwent y Crynwyr. Nid oes ond nifer fechan o dyddynod yn y plwyf yn fanteisiol iawn i amaethyddiaeth, am nad oes yma ond ychydig o wastad-dir dyffrynol, yr hwn sydd yn ymestyn oddiwrth Weithiau y diweddar A. Hill, Ysw., gyda glan yr afon hyd odreu tyddyn Ynys Owen. Amgylchynir ef ar y ddau du gan lechweddau serthion a bryniau uchel, heb ond heolydd geirwon ac anghelfydd ar hyd-ddynt yn cynyg eu gwasanaeth i'r hwsmon a'r ymwelydd.

Tra thebyg fod yr oll sydd o Gwm-taf, yn y plwyf hwn, pan yn ei sefyllfa foreuol, yn gyforiog o goedydd ac anialwch annhrigianol ond gan y llwynog, y carw, y blaidd, y gath goed, y bela, y wiwer, yr ysgyfarnog, y wenci, y wningen, &c. Oblegyd mae olion grynau o dir, lle y cynyrchwyd yd, yn ganfyddadwy hyd yn nod. ar gopäau y mynyddoedd uwchaf. Dywedir fod y cyfryw wedi bod dan lafur mor ddiweddar ag amser Iestyn ab Gwrgant, ac mai y rheswm penaf dros eu llafurio oedd, fod byddinoedd Rhys ab Tewdwr ac Iestyn ab Gwrgant wrth dramwy drwy y cymoedd, yn difrodi ac ysbeilio meddianau eu trigianwyr, fel y ffoisant i'r mynyddoedd am ddyogelwch. Modd bynag, nid yw y dybiaeth yn ymddangos yn wrthun a direswm; ond gwell genym ni y dybiaeth gyffredin o boblogiad a diwylliaeth y mynyddoedd cyni un hwsmon erioed osod swch ei aradr i dori un gwys yn un o'r cymoedd. Mae y gweddillion Derwyddol yn gystal ag amaethyddol yn ddigon o seil iaui ni sylfaenu ein cred mai penau y mynyddoedd a boblogwyd gyntaf yn y plwyf hwn, yn gystal â phlwfi ereill. Mae ar y mynydd sydd rhwng Aberdar a Merthyr, olion amrai o weithrediadau Derwyddol, megys y coffr careg ar y Cefn-bychan, un arall ar Dwyn-y-cnwc; a barna rhai, oddiwrth yr olion, fod beddau ger hwn. Hefyd, yn ymyl y fan hon, ar yr ochr ddeheuoli'r bryn, mae maen mawr, a elwir Maen-pump-bys; derbyniodd yr enw oddiwrth fod llun llaw dyn a'i fysedd yn eglur iawn ynddi. Mae traddodiad yn dyweyd i ryw gawr, o ryfedd faintiolaeth, ei thaflu i'r lle hwn, yn groes i Gwm-taf, o Benrhiw'r-geifr, ac mai ol ei fysedd ef ydynt. Yn ymyl hon hefyd mae un arall, ar fynydd Edward Thomas, un arall ar fynydd Howel ab Ifor; a bernir fod amrai ereill mewn cernydd ar hyd y mynydd yma a thraw. Mae carnedd o geryg ar y mynydd hwn sydd yn un o'r nodau ffiniol rhyngom ag Aberdar, a elwir Carn-Gwenllian Dociar. Yr oedd yn ferch i Howell Gwyn, un o achau y Toncoch, yn mhlwyf Aberdar; ac mae traddodiad yn dyweyd wrthym ei fod yn arferol o gario ei ferch ar ei fraich, pan oedd hi yn blentyn, i fyned i guddio arian yn y garn y soniwn am dani. Yn mhen rhyw dymor daeth amgylchiadau i symud y ferch hon i'r Bont-faen, lle y priododd a Sais o'r enw Dociar, ac yr adgofiodd am yr hyn a welodd ei thad yn ei wneuthur, pryd y cychwynodd yn nghyd a'i gwr tua'r fan, lle y cawsant arian, yn ol eu herfyniad. Ac o hyny hyd heddyw gelwir hi Carn-Gwenllian-Dociar.

Mae ar y mynydd hwn hefyd weddillion brwydrawl yn weladwy, megys Carn-y-frwydr, a Bedd-y-cawr, y rhai a dderbyniasant eu henwau oddiwrth ysgarmes waedlyd a ymladdwyd ger y lle rhwng byddinoedd Rhys ab Tewdwr a Iestyn ab Gwrgant, yn flaenorol i'r frwydr a ymladdasant ar Hirwaen-gwrgant, ger Aber dar. Yn ymyl yno hefyd mae lle aelwir Bedd-y-Gwyddel; ac o'r braidd na thueddir ni i gredu mai yn fuan wedi merthyrdod Brychan Brycheiniog a'i blant y cwympodd y Gwyddel y sonir am dano; oblegyd cawn hanes fod Nefydd mab Rhun Dremrudd wedi cynhyrfu preswylwyr yr ardaloedd i ymffurfio yn fyddin, fel y gallai ymddial ar yr estroniaid am farwolaeth ei daid, ei dad, a'i fodryb, yn yr hyn y bu i raddau yn llwyddianus nes eu gyru ar ffo.

Nid oes un gweddillion brwydrawl ereill yn ganfyddadwy yn un ran o'r plwyf, oddigerth Castell-morlais, hanes yr hwn a welir mewn penod arall o'r llyfr. Dywedir i frwydr gael ei hymladd ger Troedyrhiw, rhwng byddin Cromwell a byddin un o arglwyddi Morganwg, ac mai oddiwrth enciliad un o'r byddinoedd hyn y cafodd y tyddyn sydd gerllaw yr enw o Gilfach-yr-encil.

Am eirwiredd yr hanesiaeth, gadawn y darllenydd i olrhain a barnu ei chywirdeb drosto ei hun.

Nodiadau

golygu