Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Hanesiaeth Henafol

Rhagymadrodd Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr

gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf)

Yr Arglwyddi Boreuol

TRAETHAWD AR HANES MERTHYR

MERTHYR—Y DULL Y CAFODD YR ENW—HANESIAETH HENAFOL—Y COURT HOUSE—A CHASTELL MORLAIS.

Merthyr Tydfil sydd blwyf yn gorwedd yn nghwr gogleddol swydd Forganwg, 24 milltir i'r gogledd-orllewin o Gaerdydd, a 175 o filltiroedd i'r gorllewin o Lundain, yn mesur 17,744 o erwau o dir, a 11,450 o dai, yn meddu poblogaeth o 49,814, yn ol y cyfrifiad diweddaf. Hyd y plwyf o'i gwr mwyaf gogleddol i'w gwr deheuol sydd tua 11 milltir, a thua 4 milltir a haner yn y man lletaf. Medda bump cantref, enwau y rhai sydd fel y canlyn:—Abertaf a chynon, Fforest, Howellwermod, Garth, a'r Gellideg. Rhenir ef ar du y de-orllewin oddiwrth blwyf Llanwyno gan ffin sydd rhwng Godrecoed a thyddyn Abertaf a chynon; ar du y gorllewin gan ganol twyn Taran-y-celyn, Rhiw'r-capel, yr Heol las, y Gist a'r Cefn bychan, hyd flaen Nant y ffrwd; oddiwrth blwyf Aberdar, gan Pant-y-pwll-dwr, Pen-y-ddysgwylfa, Carn gwersyll-y-meibion, Twyn-melyn, Twyn y-glog, tua deg llath i'r ochr ddwyreiniol i Garn-pant-y-lanhir, Waun-y-gwair, a thrwy yr ochr ddwyreiniol i Garn-y-frwydr, a'r ochr ddwyreiniol i Garn Gwenllian dociar, Ffynon Brynbadell, yr hon sydd a'i dwfr yn arllwys i'r ddau blwyf-Aberdar a Merthyr, eto dros Fryn-y-gwyddel, a thros fedd y Cawr i Garn y ffwlbert, a thros y Twyndu i'r Maenbrych; oddiwrth blwyf Penderyn, ar du y gogledd-orllewin gan y Maen melin a Nant-y-ffrwd; oddiwrth y Vaenor, ar du y gogledd, gan Taf-fechan i fyny hyd at Bont y sticyll, oddiyno mewn cyfeiriad unionsyth i Bwll-gwaun-Morlais, oddiyno i Gastell-y-nos, yr hwn a'i rhana ar du y gogledd oddiwrth Gelligaer a Llaneti, oddiyno trwy ganol tafarndy Twyn-y-waun i flaen Cwmbargoed. Ar ei gwr dwyreiniol oddiwrth Gelligaer gan afon Bargoed hyd Bont-yr-yswain; ar ei gwr deheu-ddwyrain oddiwrth blwyf Llanfabon gan Bargoed a Taf, hyd y cwr eithaf de-ddwyrain o dyddyn Godrecoed, sef Rhyd-y-binwg.

Derbyniodd y lle hwn ei enw oddiwrth Tydfil, unfed ferch ar ugain Brychan Brycheiniog, yr hon yn nghyd a'i thad a'i brawd Rhundremrudd a roddwyd i farwolaeth gan haid grwydrolo Saxoniaid a Gwyddelod Pictaidd oeddynt yn cario tân a chleddyf, gan anrheithio gwlad ein tadau ryw bryd yn niwedd y bedwaredd ganrif. Nid hir y bu rhai o'n cydgenedl y Cymry cyn codi yma Eglwys er coffadwriaeth am y weithred ysgeler hono. Fel merthyron y darfu i'r tri hyn syrthio, ac fel merthyr y mae Tydfil wedi cadw ei henw dros ychwaneg nâ thri chant ar ddeg o flynyddoedd, ac yn hysbys bellach agos trwy bob cwr o'r byd gwareiddiedig. Dydd ei choffadwriaeth a ddisgyna ar y 24ain o Awst. Nid oedd yn y lle hwn, yn ol ei hanesiaeth foreuol, ond rhyw nifer fechan a gwasgaredig o dai amaethwyr a bugeiliaid; ac yn y sefyllfa hon, nyni a'i dilynwn i lawr dros agos i saith cant o flynyddoedd heb allu nodi dim ag sydd yn teilyngu unrhyw sylw neillduol hyd nes y deuwn i gyffyrddiad ag hanes Dau le nodedig—Castell Morlais, a'r Court House. Mae traddodiad yn mhlith hen bobl fod eu teidau yn cofio am gyfarfodydd llewyrchus a gynaliwyd gan y diwygwyr Protestanaidd dan hen ywen ger y ty hwn. Ceisia rhai ein darbwyllo i gredu fod y lle olaf yma yn aros er ys rhagor na dwy fil o flynyddoedd, am y barnent ei fod wedi cael yr enw Cohort oddiwrth y Rhufeiniaid, lle bu nifer benodol o'u milwyr oedd yn arwyddo yr enw, yn gwersyllu.

Cohort, neu yn hytrach y Court House, fu unwaith yn gyfaneddle rhai o arglwyddi Morganwg a Senghenydd uwchaf. Gallwn farnu mai tua'r llecyn hwn yr oedd Brychan Brycheiniog, yn nghyd a'i fab a'i ferch yn cyfaneddu pan y syrthiasant yn ebyrth i gynddaredd estroniaid ysbeilgar a nwydwyllt, ac nad ydyw y lle hwn wedi bod yn ddim amgen na phreswylfan arglwyddi a boneddigion yn ystod yr holl oesau dilynol. Barna rhai fod Ifor Bach yn byw yma tua'r flwyddyn 1,110, yn yr hwn le yr oedd yn byw pan yr adeiladodd Gastell Morlais, ac y gwnaeth ei ymosodiad gyda byddin o wyr ar Gastell Caerdydd, pryd y cymerodd Robert, Iarli Caerloyw a'i foneddiges yn garcharorion, a'u cadw felly yn y caethiwed hyd nes iddynt addawi'r Cymry eu holl freintiau cynhenid yn nghyd a chyfreithiau Hywel Dda. Ac yna nid oes genym un hanes nodedig am y lle hwn hyd nes yr ydym yn ei gael yn mherchenogaeth Lewisiaid y Van, ger Caerffili,ac un Soberton, o Southampton; un o achau y Clives; ac yna yr ydym yn ei gael yn meddiant Mr. Thomas Rees, trwy bryniad, yn nghyd a'r Werfa, yn mhlwyf Aberdar, am £400, oddiwrth un Harri Edwards, o Tanygraig, yn Mrycheiniog. Y Thomas Rees hwn oedd y cyntaf o achau presenol y Court, ag a fu yn byw yma.

Pan yn ymweled a'r ty hwn mae'r bardd a'r hynafiaethydd yn cael eu llenwi a myfyrdodau, a'u cario yn ol gan eu meddyliau i ryw gyfnod boreuol pan nad oedd yma ddadwrdd na thwrf masnach yn aflonyddu ar ddystawrwydd y creigleoedd anial ac anhygyrch a'u hamgylchynai, na dim i'w glywed ond gwaedd y bugail, brefiadau y defaid a'r wyn, a'r gwartheg, yn nghyd a si furmurawl y gornant fechan wrth ymlithro i lawr rhwng ei cheulanau tua'r gwaelodion i'r afon Taf. Dynoda yr holl adeilad hwn orwychedd ac urddas henafol yn ei ystafelloedd eang a'u lloriau gleinion o dderw-ystyllod yn ei gynteddau a'i fynedfeydd addurnol, gyda'i flodeuwaith cerfluniol, ac heb gynifer ag un hoel yn cysylltu unrhyw ran o'r adeilad; yr oll yn cael ei ddal yn nghyd â phiniau coed, hyd nes yr adnewyddwyd ef yn ddiweddar gan y perchenog—y diweddar Dr. Thomas, ynad heddwch yn Merthyr.

Castel Morlais a dderbyniodd yr enw oddiwrth Nant Mawr-lais, neu Morglais. Adeiladwyd, ef meddir, gan Ifor Bach, tua dechreu y 12fed ganrif, er mwyn bod yn am ddiffyniad i'w etifeddiaethau, rhag ymosodiadau gorthrymus oddiar y tiriogaethau cyffiniol, gan arglwyddi Brycheiniog,y rhai a ruthrent ar y lle yn awr ac eilwaith yn achlysurol; ac yn nheyrnasiad Harri I. yr ydym yn ei gael yn meddiant yr un. Ni fwriadwyd erioed i'r lle hwn fod yn ddim amgen nag amddiffynfa, ac ni fu erioed yn drigfan neb o Arglwyddi Morganwg.

Saif у Castell hwn ar fryn rhwng y Nant Morlais, a'r Taf Fechan, tua 3 milltir i'r gogledd o Ferthyr Tydfil, ac y mae yr olwg ar y lle a'r wlad o'i amgylch yn wir farddonol Y Taf Fechan yn ymddolenu yn furmurawg rhwng y coedydd talfrigog yn y Cwm ar yr ochor ogledd-orllewinol iddo, a'r wlad yn ganfyddadwy dros lawer o filldiroedd agos yn mhob cyfeiriad mynyddau Brycheiniog, y rhai a wisgent ar eu penau gaenen o eira dros agos un ran o bedair o'r flwyddyn, a ddyrchafent i'r uchder o 2,863 o droedfeddi uwchlaw gwyneb y môr, yn nghyd a thyrau dadfeiliedig a gwylltedd unigol yr hen Gastell, a lenwai feddwl yr ymwelydd a phrudd ystyriaeth, ac adgofion o ryw gyfnodau difrodus a gweithrediadau trahaus tywysogion a phendefigion eiddigeddus a thrachwantus y canrifoedd a aethant heibio; ac ar y llaw arall, wrth fanwl arsyllu ar ddull gwneuthuriad yr hen Gastell, y mae y meddwl yn cael ei lenwi â syndod, am gywreinwaith celfyddyd yn amser ei adeiladiad. Bu yr hen Gastell hwn mewn agwedd hollol ddadfeiliedig hyd yn ddiweddar. Yn y flwyddyn 1819, daeth un Mr. Abraham Jones, olwynydd, o Ddowlais, o hyd i bastwn-fwyell (pole axe) hynodol wrth chwilio i'w weddillion. Yn haf 1846, yn ôl cyfarwyddeb E. J. Hutchins, Ysw., o Ddowlais, glanhawyd ynddo ystafell, sydd yn mesur oddeutu 90 o droedfeddi o dryfesur, ac yn ei chanol golofn sydd yn dal ei nenfwd yr hwn sydd wedi ei wneud i fyny o ddeuddeg o feini-fwâu. Y mae y fynedfa i'r ystafell Ar yr ochr orllewiniol iddo mae twll dwfn wedi ei gloddio yn y graig, lle a fwriadwyd yn ol pob tebyg, i gael dwfr at wasanaeth y Castell. Ond o herwydd fod dynion wedi ac yn bod yn achlysurol yn treiglo ceryg i mewn iddo, mae wedi llanw llawer o'r dull oedd ar y cyntaf; ond y mae eto uwchlaw 100 troedfedd o ddyfnder. Saif gweddillion y Castell hwn ar tua 3 erw o dir, a dywedir iddo gael ei ddinystrio y tro cyntaf yn amser ei adeiladydd, Ifor Bach, tua'r flwyddyn 1110. Dywed eraill mai tua chanol y ddwyfed ganrif ar bumtheg y dinystriwyd ef gan filwyr y senedd; ond gwell genym roddi coel i'r blaenaf, o herwydd pe buasai mor ddiweddar a'r olaf, buasai genym well hanes am dano, ac mae ei fod ar waith yn amser ei ddinystriad yn profi yn ddigon eglur mai y cyntaf sydd yn nesaf i gywirdeb. Mae yn bresenol yn meddiant Cwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais, y rhai sydd wedi glanhau ac adgyweirio llawer arno yn y blynyddoedd diweddaf, ond y mae yn aros eto rai ystafelloedd heb eu hagor, y rhai yn ddiameu a dalent yn dda am hyny o lafur.

Yn awr awn rhagom i roddi desgrifiad sut y daeth у tiroedd sydd yn mlwyf Merthyr Tydfil, i feddiant y prif arglwyddi o'r lle.