Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr/Yr Arglwyddi Boreuol
← Hanesiaeth Henafol | Traethawd ar Hanes Plwyf Merthyr gan William Edmunds (Gwilym Glan Taf) |
Teuluoedd Henaf a Pharchusaf → |
YR ARGLWYDDI BOREUOL—TROSIAD YR ETIFEDDIAETHAU I'R ARGLWYDDI PRESENNOL—ENWAU FFERMYDD Y PLWYF—EU PERCHENOGION, A'U DEILIAD.
Gwedi i Iestyn ab Gwrgant, ArglwyddMorganwg, wneud ei addewid i un o'r tywysogion Normaniadd, o'r enw Robert Fitzamon, y byddai iddo roddi ei ferch, Nest, yn wraig iddo, ar yr amod y byddai iddo ei gynorthwyo ar y maes yn erbyn ei elyn, Rhys ab Tewdwr, cymerodd Fitzamon y cynygiad, a chyd drefnasant eu byddinoedd er mwyn cyfarfod Rhys mewn lle a elwir hyd heddyw Hirwaen Gwrgant, ger Aberdar, pryd y cymerodd ymladdfa waedlyd le, ac y trodd y fantol yn erbyn Rhys, fel y gorfu arno ffoi am ei einioes; ond daliwyd ef ar ei ffoedigaeth ger Pen Rhys, yn ymyl Cwmrhondda, lle torwyd ei ben pan yn 82 mlwydd oed. Wedi i Iestyn trwy gynorthwy y llu Normanaidd gael yr oruchafiaeth ar Rhys a'i fyddinoedd, meddyliodd fel
llawer un arall, yn ol i ystorm o gyfyngder fyned drosodd, y gallasai droi y gath yn y badell, trwy omedd bod yn unol a'i addewid i'r tywysog Normanaidd. Ond er gwaethaf y modd iddo, goddiweddwyd ef a dydd o ofwy eilwaith, yr hwn a drodd allan yn waeth na'r cyntaf, trwy i Fitzamon droi ei arfau ato, i'r dyben o'i orfodi i sefyll at ei addewid, a'r canlyniad fu iddo gymeryd meddiant o Gastell Caerdydd, ac arglwyddiaeth Morganwg oddiarno, gwersyllodd yn Ngastell Caerffili hyd nes iddo gael ei orchfygu mewn brwydr, a ymladd wyd gerllaw Gellygaer. Yn olynwyr iddo mewn gwaedoliaeth ac hawl i'r etifeddiaeth, yr oedd y De Clares (y nawfed o freninoedd Morganwg), a'r De Spencers y rhai hefyd fuont yn cyfaneddu yn y Castell hwn. Oddiwrth y De Spencers y deilliodd yr etifeddiaeth i'r Beauchamps a'r Nevils, gyda mwy na'r rhan gyffredin o ddirwyon a threuliau a achoswyd gan ymrysonau a godent yn achlysurol rhyngddynt hwy a'r rhai a honent eu hunain yn iawn berchenogion yr etifeddiaeth, nes o'r diwedd yn ol hir ymgypris, iddi fyned yn eiddo y Goron, trwy frwydr fythgofiadwy Bosworth, yn amser Harri VII. yr hwn a'i trosglwyddodd yn ol yn ffafr William Herbert, Iarll Penfro. Disgynodd rhan o'r etifeddiaeth hon trwy briodas i'r Windsors, a thrwy briodas ag un o etifeddesau yr Herberts, daeth ardalydd Bute i feddiant o'i arglwyddiaeth. Ac yn ol y Quarterly Review, disgynodd y rhan arall i'r Clives. Ond nid felly yn y plwyf hwn, perchenogion boreuol ei arglwyddiaeth hwy oeddynt Lewisiaid y Van, ger Caerffilly, oddiwrth y rhai hyny trwy bryniad ac nid trwy etifeddiaeth briodasol, y disgynodd yn eiddo iddynt, y rhai fel y dangosir yn y daflen nesaf ydytt yn meddu llawer o diroedd yn y plwyf hwn. Perchenog boreuol arglwyddiaeth "Dynevor a Richards," yn y plwyf hwn oedd y Milwriad Prichard oedd yn byw yn Llancaiach fawr, ac yn uchel sirydd yn Nghaerdydd, yn y flwyddyn 1599; yr oedd yn gwasanaethu yn myddin Cromwell; meddodd ddwy ferch, priododd un ag un o'r Dynevors a'r llall ag un o'r Richards, felly disgynodd ei ystad yn rhanol rhyngddynt.
Enwau Tyddynod. | Eu Perchenogion | Eu Deiliaid |
Ferm y Castell | G Overton Ysw W Davies &c Dowlais Com & co |
Mae y tiroedd hyn yn meddiant Cwmpeini Gwaith Haiarn Dowlais |
Blaen y Garth | ||
Bon Maen | ||
Rhyd y Bedd | ||
Caę Raca | ||
Hafod | ||
Blaen Morlais | ||
Gwernllwyn bach | ||
Gwernllwyn uchaf | ||
Pwll y hwyaid | ||
. | ||
Waun Fach | Perchenogion yr oll o'r tiroedd hyn ydynt Dynev a Richards | |
Brynteg | ||
Coedcae Brynteg | ||
Nant y Gwenith | ||
Llwyncelyn | ||
Wern | ||
Rhyd y car | ||
Glyn Dyrus | ||
Melin Canaid | ||
Pandy Gyrnos | ||
Penygarn | ||
. | ||
Gwaelod y Garth | Morgans o'r
Grawen &c |
Perthynai y tiroedd hyn i Gwmpeini Gwaith Haiarn Pendaren, trwy brydlesau oddiwrth eu perchenogion. |
Godre Calan uchaf | ||
Garn | ||
Gellifaelog | ||
Gwaun Taran | ||
Ton y ffald | ||
Penydaren | ||
. | ||
Pentrebach | Arglwydd Plymouth, Tomosiaid y Lechfaen, Llanfabon ac eraill |
Perthynai y tiroedd hyn yn bresenol trwy brydlesau oddiwrth eu perchenogion i gwmpeini y diweddar A Hill, Ysw. Prynodd taid achau presenol y Lechfaendiroedd, Tontailwr, Dyffryn, Abercanaid, Nant yr odyn, Balca, a'r Tyntaldwm, gan Jenkins o'r Marlas, Cwmnedd, am 890 o ginis, oddiwrth y rhai hyn y derbynia y perhynasau presenol £1,500 yn flynyddol, |
Scubornewydd | ||
Tre'r beddau | ||
Glyn mil | ||
Nant yr odyn | ||
Tontailwr | ||
Tyntaldwm | ||
Dyffryn | ||
Balca | ||
Ty'n y Coedcae | ||
Cilfach yr encil | ||
Abercanaid |
Garth. | Morgans, Ysw, | David Watkins |
Pantysgallog | Davies, Ysw. | William Powell |
Cwmwaun newydd | Dynevor, a Richards, | J, Jenkns |
Ty'n y coedcao | William Jenkins | |
Coed Meyrick | Richard Morgan. | |
Tai mawr | Catherine Edwarda | |
Tai mawr uchaf | W.T. Edwards | |
Tai mawr canol | W.T. Edwards | |
Nant | Wm. Williams | |
Heol geryg | Evan Williams | |
Penyrheol | Evan Evans | |
Abernantygwenith | D, Williams | |
Blaen canaid | W, Williams | |
Hendre fawr | Dinah Williams | |
Gethin | J. Ward | |
Cwmbargoed | E. Watkins | |
Penrhiwronen. | R, Thomas | |
Brithweunydd | Rees Jones | |
Ynys y gored | E, Purchase | |
Hafod tanelwg uchaf | D. Hopkins | |
Hafodtanglws isaf | D. Davies | |
Penylan | Lady Windsor | J. Jones |
Begwns | J. Davies | |
Pwllglas | W. Jenkins | |
Blaen y owm | Phillip Richards | |
Pont y rhin | E. Purchase | |
Pantglas | D. Williams | |
Penddangaefawr | E. Williams. | |
Penddaugaefach | D. Williams. | |
Pan y deri | D. Williams | |
Bryn rhedyn | H. Powell | |
'Waunwyllt | J. Jones | |
Nant y fedw | Ar y ddwy fferm hon y saif y rhan fwyaf o Ferthyr. | |
Mairdy | Davies Ysw | |
Court | R Thomas | |
Penylan draw | T Evans | J. Phillips |
Graig | Mrs Morgans | Mrs, Morgans |
Grawerth. | J. Vaughan. | |
Bryncaerau | Mae rhenty tir hwn yn myned at gynaliaeth yr un a fyddo yn gwasanaethu capel Nant ddu, Brycheiniog" |
Gregory Watkins |
Cnwc | C. R. Tynte | E. Purchase |
Nantfain | C. R. Tynte | E. Purchase |
Perthigleision | R. Griffiths | L. Lewelyns |
Abervan fach | R. Griffiths | W. R. Smith |
Abervan fawr | L. Jenkins | L. Jenkins |
Ty'r nyth | Rev, D, Davies | D Evans |
Forest | Thos Williams | Thos Williams |
Ynys Owen | E M Wood | L Jenkins |
Penygraig | E M Wood | M Price |
Tir y Cook | W Richards | R Davies |
Cefn y Fforest | T Richards | D Pritchard |
Trwyn gareg | C. M. Wood | L Jenkins |
Pentanas, | J Perrott | E. W. Scale |
Penybylchau | H Williams | Thos Edmunds |
Mount Pleasant | E Davies Ysw | E Davies Ysw |
Tai'r lan | T Lewis | T Lewis |
'Ty newydd | E. Lewis | A Lewis |
Cwmcothi | Thos Jenkins | J Jenkins |
Ty'r ywen | W Lewis | W Lewis |
Pont y rhun. | C. R Tynte | E Purchase |
Troedyrhiw | W Lewis | D Williams |
Ffawyddog | Lady Windsor | Thos Edwards |
Pont y gwaith | R. Foreman | Thos Parry |
Buarth glas | J Jenkins | L Jenkins |
Cefn glas. | John Jenkins | John Jenkins |
Godrecoed | Thos Jenkins | Thos Jenkins |