Tro Trwy'r Gogledd/Adfyfyrion

Bryn Melyn Tro Trwy'r Gogledd

gan Owen Morgan Edwards


ADFYFYRION

WRTH ddod yn ol i'r fan y cychwynnais ohono, y mae arnaf hanner ofn clywed cwestiynau,—I ba ddiben yr ysgrifennaist y llyfr hwn? Onid yw pob mynydd yr un fath a mynydd arall? Onid yw pob dyffryn yn debyg i ddyffryn arall? Onid daear yw'r oll? A phaham y tybi fod yr hyn a weli, a'r hyn a deimli, o'r dyddordeb lleiaf i neb arall?

Pe rhoddid fi ar fy mhrawf fel hyn, meiddiwn furmur rhyw ddwy esgusawd cyn pledio euog.

Dyma un. Y mae Cymru y wlad fwyaf swynol dan haul i Gymro deithio ynddi, ac yn un o'r gwledydd lle teithia leiaf ynddi. Ymhob rhan o Gymru, y mae taith ddifyr ac adfywiol ac addysgiadol yng nghyrraedd pawb. Ac eto tynn llawer un i wlad bell i dreulio ei wyliau, gan adael rhagorach pethau,—a phethau y medrai eu deall, yn ei ymyl. Bu adeg pan oedd yn ddigon naturiol i rai gwyno fod cylch y Cymro'n gyfyng. Fel arall y mae'n awr. Gwn am ugeiniau fu ar faes Waterloo, a rhai fu yng Ngwlad Canan, na fuont erioed ym Mhant y Celyn ac na wyddent ym mha le mae Dolwar.

A dyma esgusawd arall. "Mae'r oll yn gysegredig,"—pob bryn a phant. Mae'n gwlad yn rhywbeth byw, nid yn fedd marw, dan ein traed. Mae i bob bryn ei hanes, i bob ardal ei rhamant. Mae pob dyffryn yn newydd, pob mynydd yn gwisgo gogoniant o'i eiddo ei hun. Ac i Gymro, nis gall yr un wlad arall fod fel hyn. Teimla'r Cymro fod ymdrechion ei dadau wedi cysegru pob maes, a fod awen ei wlad wedi sancteiddio pob mynydd. A theimlo fel hyn a'i gwna'n wir ddinesydd.

"Mae'r oll yn gysegredig. Mae barddoniaeth
Nefolaidd ar yr holl fynyddoedd hyn.
A bu,—goddefer y gwladgarol nwyf,—
Bu llawer brawd a chyndad hoff i mi,
Na edwyn neb eu henwau mwy na'u clod,
Ond taweledig rith yr oes a'u dug,—
Ar hyd y bryniau hyn ar lawer nawn
Yn canu neu yn wylo fel y caed
Profiadau bywyd. Ninnau gyda hwynt
Adawn gymunrodd o adgofion per,
Rhyw anadliadau a myfyrion syn,
I'r awel dyner eu mynwesu fyth.

—————————————

CAERNARFON:

CWMNI'R CYHOEDDWYR CYMREIG (CYF.),

SWYDDFA "CYMRU."

Nodiadau golygu