Tro Trwy'r Gogledd/Bryn Melyn
← Pen y Bryn | Tro Trwy'r Gogledd gan Owen Morgan Edwards |
Adfyfyrion → |
VIII. BRYN MELYN.
YMYSG holl gartrefi Cymru nid oes, mae'n bur debyg gennyf, gartref mwy mynyddig ac anghysbell na chartref J. R. Jones o Ramoth. Saif mewn cwm crawc-welltog digoed, ar gyrrau'r mynydd-dir mawr unig sy'n gorwedd rhwng cymoedd Meirion a bryniau hyfryd Maldwyn; ac erbyn heddyw nid oes ond y Bryn Melyn ei hun yn gartref pobl yn y cwm hwnnw. Bu Nant yr Eira, bwthyn bach eithaf clyd, yn gartref bechgyn cryfion a genethod gwridog; ond nid ydyw heddyw ond beudy neu furddyn ar fferm enfawr. Dywedir fod melin yn y cwm unwaith, a danghosir ei holion yn Nant y Tryfel; ond nid oes neb yn cofio dim o'i hanes. Ychydig yn uwch i fyny na'r Bryn Melyn a Nant yr Eira, y mae olion peth a elwir yn Eglwys Wen, a dywedir ar lafar gwlad fod y fangre, sydd mor unig heddyw, unwaith yn gyrchfan llu. Bwthyn, melin, eglwys,—y maent oll yn adfeilion; ac nid oes drigle dynion yn y fan ond Bryn Melyn yn unig.
Pe cymerem ffordd drol Bryn Melyn o bentrefydd Llanuwchllyn, nid mewn dwyawr, os mewn tair, y cyrhaeddem y fan. Y mae'r ffordd yn drom iawn am y darn cyntaf, ac y mae'r golygfeydd yn rhai demtia'r pererin i aros ac eistedd o hyd. Ond y mae llwybr byrrach. Newydd adael Pont y Pandy, troer dros gamfa ar y chwith, a dringer llwybr Cae'r Ceunant. Wedi cyrraedd y gamfa ganol edrycher vn ol ac ymlaen ar ardaloedd Llanuwchllyn. Gofynned yr ymdeithydd iddo ei hun a welodd le mor hardd yn unlle, ac atebed yn onest na welodd erioed. Ymlaen y mae'r Aran yn ymgodi'n fawreddog y tu hwnt i geunant rhamantus; yn ol y mae'r haul, hwyrach, yn goreuro'r Arennig a'r mynyddoedd heirdd sy'n gorwedd y tu hwnt i Gastell Carndochan.
Toc cyrhaeddir ffordd Cynllwyd, a phentref bychan gwasgarog fu unwaith yn fwy, o'r enw Pen Rhiw Dwrch. Yma clywyd llais soniarus "mab y Bryn Melyn" yn pregethu'n rymus lawer gwaith. Awn ymlaen, a'r Aran o'n blaenau o hyd, nes dod at bont a phentref arall,—na, nid oes ond dau dŷ lle y bu pentref dedwydd gynt, ac yma trown o'r ffordd, gan ddilyn yr afon ar ein chwith. Yr Afon Fechan yw hon, ac y mae Bryn Melyn ar y llechwedd uwch ei phen i fyny ymysg y mynyddoedd acw.
Wedi gadael amaethdy'r Afon Fechan o'n hol, nid oes ond afonig a mynydd a rhos i'w gweled. Ambell i dro, wrth gerdded y llwybr hir mynyddig, gwelwn gopa'r Aran yn ddu dros y gefnen o rosdir sydd ar y dde; ond y rhan amlaf, ni welir ond y cwm ei hun. Mynydd wedi ei bori'n llwm fel carped ydyw, a'r Lledwyn pengrwn yn edrych arno dros y rhedyn sydd ar ei fron. O y mae'n lle dedwydd yn yr haf! I ti, ddarllennydd, efallai ei fod yn oer ac unig; ond pe buaset wedi treulio dy febyd ynddo, nid oes lannerch yn ein dyffrynnoedd mwyaf clodfawr all gymharu a'i dlysni gwyllt. Nid oes goeden yn y golwg mae'n wir; ond mor lân yw dwfr yr afon ac mor adfywiol yw lliwiau'r rhedyn a'r brwyn! Dyma lygad y dydd gyda'i wyn a'i goch, dyma'r fantell Fair fechan euraidd; a dacw'r ehedydd yn codi codi i'r awyr las ddofn uwchben. Dyma "ffynnon tan y garreg,"—bum yn hiraethu am ei dwfr melus mewn afiechyd mewn gwlad bell; dyma lecyn tawel Pwll Cynhybrvd, a llawer dadl fu ymysg y bugeiliaid pa un ai Pwll Cynhebrwng ynte Pwll Cynnar Bryd yw gwir ystyr yr enw.
Erbyn hyn y mae'r Bryn Melyn yn y golwg, yr ochr arall i'r afon. Y mae talcen y ty atom, ac y mae hanner cylch o goed teneu—frig o'i amgylch i'w amddiffyn rhag gwynt yr Aran. Toc dyma ni dan gysgod y Lledwyn, ac ar gyfer y ty. Saif rhyw hanner y ffordd i fyny'r bryn, a thrwy ei goed gwyrddion gwelwn ben brenhinol yr Aran a gwyneb daneddog Craig y Llyn. Disgynnwn i lawr at yr afon, a chroeswn hi dros bompren. Y tu ol i ni'n awr, y mae amryw lwybrau hirion yn arwain i fyny i borfeydd y defaid ac at y pabwyr a'r mawn. Dacw'r corlannau hefyd, ac olion "melin" Nant y Tryfel. Ychydig oddiwrth yr afon y mae carreg, ar lan nant sydd yn rhedeg oddiwrth y ty, a elwir yn "bulpud John Ramoth." Y mae rhyw ffermwr trafferthus wedi saethu darn o honi i ffwrdd; ond y mae'r lle safai'r pregethwr, pan nad oedd ganddo gynulleidfa ond defaid, yno eto.
Dringwn yr allt, a deuwn at y ty. Dyma ni yn y buarth, ar gyfer y ffordd sydd yn arwain i fyny i'r caeau. Y cyntaf peth welwn yw'r hen dŷ,—hen gartref y pregethwr,—wedi ei droi erbyn hyn yn helm drol a beudy. Yr oedd coed o'i ol ac o'i flaen, i'w gysgodi rhag gwynt yr ystorm a rhag gwynt miniog y dwyrain. Y mae'r ty newydd ychydig yn uwch i fyny, a'i lond o blant dedwydd iach fydd, gyda bendith, yn gaffaeliad i'w gwlad.
Bu llawer tro ar fyd er yr amser y bu J. R. Jones yn chwareu'n blentyn o amgylch y ffermdy unig hwn, ac y mae'r Bryn Melyn yn fwy unig nag erioed. Yn lle hel at eu gilydd i ymryson canu penillion, fel yn ei amser ef, tynn y bechgyn i'r pentref i bensynnu ac i lygadrythu wrth yr oriau. Ni welir lluoedd yn cario mawn o'r mynydd acw fel cynt; glo sydd ym mhobman, a grat gwag pan fydd glowyr ar y streic. Ac ni welir tyrfa'n dod o babwyra o Fwlch y Pawl mwy, i bilio'r pabwyr glân ar hirnos gaeaf; gwell gan yr oes hon ganwyll ddime goch—felen hell. Pe buasai J. R. Jones yn fyw, hawdd y gallaf gredu y codasai ei lais yn erbyn ein bywyd, pan mai uchelgais y llafurwr yw gadael ei gartref iach ar fron y mynydd, ac ymdyrru i ryw bentref lleidiog llaith wedi ei osod mewn pwll ger gorsaf ffordd haearn; pan mai uchelgais llawer gwraig yw treulio holl ddyddiau ei bywyd i chwedleua hyd y pentref, a chael pob peth o'r siop, a byw ar goel. Er fod y ffordd i'r ysgol yn hir, ca'r plant fagwyd mewn unigrwydd lawer gwell addysg na phlant pentref a thref.
Rhowch dro o amgylch cartref J. R. Jones o Ramoth. Y fath gwmni bendigedig o fynyddoedd gafodd y bachgen! Pa ryfedd fod bechgyn o le fel hyn yn wylaidd ac yn foneddigaidd wrth natur, a hwythau megis yn byw wrth draed gorseddau? Dyma le i rodio am oriau, a rhyw fynydd newydd i ddod i'r golwg o hyd. A dyma'r lle y tyfodd yr athrylith ryfedd honno. Dacw'r llwybrau hirion, dacw'r eglwys anghyfannedd, dacw'r mynyddoedd yn dysgu fod mawredd bob amser yn bur a syml. Y mae'r golygfeydd yn temtio'r meddwl i lwybrau newyddion.
Oddiwrth y ty croeswn y gefnen i gwm Cynllwyd. Ni fedraf fi ddesgrifio'r olygfa,—yn fud a syn y safwn ar gyfer y mynyddoedd mawreddog hynny. Ond dacw aml lecyn anwyl i J. R. Jones. Dacw Goed Ladur rhyngom a'r afon, lle bu'n canu penillion telyn, yn nyddiau ei ieuenctyd, gan ymryson â mab y ty. Curwyd ef, meddai'r hanes, darfyddodd ei benillion. Ond ar y mynydd daeth pennill arall i'w gof, a dychwelodd yn y fan i'w ganu wrth ddrws Coed Ladur. Dacw'i Weirglodd Gilfach, ymhell yn y Cwm Croes, cyrchle Lewis Rhys, a chartref cyntaf Ymneillduaeth ymysg y mynyddoedd hyn. Dacw Dal Ardd, wrth fan cyfarfod y dyfroedd, lle bu Howel Harris yn cysgu cyn troi ei gefn ar y Gogledd, dan weddio dros ei thrigolion wrth esgyn Bwlch y Groes. Mangre dawel fynyddig ydyw, lle ardderchog i enaid ddal cymundeb â Duw,—os medr am ennyd anghofio am nod clust a phris y gwlan.
Treuliodd J. R. Jones ei fywyd mewn gwlad fynyddig fel hon. Ni feddyliodd am ddefnyddio ei athrylith i ennill cyfoeth nac esmwythyd y byd hwn. Gallasai, pe wedi meddwl am hynny, dynnu maeth o ddyffrynnoedd brasaf Lloegr. Gallasai ymhoewi yng ngwychder ystafelloedd cyfoethogion ein trefydd mawr. Ond ym Meirion fynyddig yr arhosodd ar hyd ei oes, mewn caledfyd a thlodi. Pan oedd ei eiriau yn fywyd i ddynion, cariai fawn ar ei gefn o'r mynydd fel cynt.
"Mewn tlodi,"—na fu erioed. Cynysgaeddodd y nefoedd ef â'i chyfoeth ei hun, a bu J. R. Jones yn hael fel tywysog gyda'r cyfoeth hwnnw. Y mae ambell un nas gellir meddwl am dano fel dyn tlawd, er nad oes ganddo ddimau yn banc, ac er na wyddis ar y ddaear beth y mae'n gael i ginio. Y mae rhyw gyfoeth yn ei fywyd a'i feddwl sydd yn ei godi uwchlaw tlodi bach a chyfoeth bach y byd hwn.
Tra'r oedd pobl ereill yng Nghynllwyd yn ymroi gorff ac enaid i gasglu aur, yr oedd J. R. Jones yn cyfoethogi ei feddwl. Mewn un ystyr yr oedd y dyn cyfoethocaf ar yr holl fynyddoedd, a thlawd druenus yn ei ymyl oedd perchennog enaid bach crebychlyd a mil o ddefaid. Beth bynnag ddysgo ein bechgyn yn ein colegau, dysgent y gall bywyd meddylgar ar y mynyddoedd fod yn llawnach a chyfoethocach na bywyd o ymgripio am arian a chlod.