Tro Trwy'r Gogledd/Blaenau Ffestiniog
← Cynhwysiad | Tro Trwy'r Gogledd gan Owen Morgan Edwards |
Y Perthi Llwydion → |
Tro trwy'r Gogledd.
I. BLAENAU FFESTINIOG.
NID pob ardal weithfaol fedr dynnu segurwyr diddaioni fel myfì a'm tebyg iddi. Fel rheol, nid cyrchfan hoff i ni ydyw cartref meibion llafur. Gwell gennym ryw ymdrochle ar fin y môr, neu ryw ffynnon rinweddol ymhell yn y mynyddoedd, lle cawn ein syrio a bowio inni, heb neb yn son am hawliau'r gweithwyr ac heb neb yn cofio am adnod sy'n dweyd mai trwy chwys ei wyneb y mae dyn syrthiedig i fwyta ei fara. Ond y mae Ffestiniog mor brydferth, er mai mangre llafur ydyw, fel y gwelir ninnau'n segura ymysg y chwarelwyr yno, fel gloewod byw ymysg gwenyn. Nid oes yno fŵg budr ac aflan i dduo popeth, y mae'r awyr mor glir a'r grisial, neu'n llawn o gymylau newydd eu geni o'r môr. Nid oes yno ysgubion a gwenwyn yn hyllu'r afonydd, y mae'r dwfr yn loew ac yn iach wedi rhedeg trwy Ffestiniog. Y mae'r lle'n bell ac yn wlawog, ond y mae'n lân ac yn brydferth ac yn iach. Os gwaith, rhowch waith y creigiwr neu'r chwarelwr i mi.
A fuost ti erioed, ddarllennydd, yng ngorsaf Arennig? Nis gwn paham y gwnaeth y cwmni beth mor brydyddol a rhoddi enw'r mynydd ar yr orsaf, nid ydyw'n beth tebyg i'w dull hwy. Y mae'n debyg nad oedd tafarn na phenty'n ddigon agos, ni welent unlle y gallai hyd yn oed y mwyaf digydwybod ddweyd ei fod yn ddigon agos i roddi ei enw ar yr orsaf. Yn wir, nid wyf yn siwr a oedd unlle yn y golwg o gwbl; gallai'r hen Arennig chwerthin mewn gwawd wrth edrych i lawr arnynt.
Da y galwyd yr orsaf yn Arennig. Dros adeiladau'r orsaf gwelir creigiau'n codi fel adfeilion rhyw gaerau mawr; a'r ochr arall, rhyngom a bryn caregog ac eithinog, y mae rhosydd digysgod, a ffordd Ffestiniog yn rhedeg yn uniawn trostynt rhwng dau fur. Son am unigedd, meddyliwch am un newydd adael y Strand o'i ol, man prysurdeb y cenhedloedd, ac yn teithio rhwng yr Arennig a Thraws Fynydd. Gwel gymoedd gwyrddion gwylltion ym mhob cyfeiriad, gydag ambell das mawn du rhyngddo a'r goleu; a buan y daw i'r penderfyniad fod gan Amnodd gystal hawl ag unlle i alw ei hun yn ben draw'r byd. Yn yr ardal hon, gellid crwydro am ddyddiau heb weled neb ond y defaid a'r cornchwiglod. Mor hyfryd unig ydyw, hyd yn oed o'i chymharu a Thraws Fynydd! Yn fy mhoced yr oedd papur newydd yn dweyd beth wneid yn y Senedd un o'r gloch y boreu hwnnw, a pha beth wneid yn Siam y prydnawn cynt. Ond nid oes brysurdeb gwifrau trydanol yn yr ardal fynyddig hon; nid oes yma neb yn malio pen pabwyren am Siam, nac am y Senedd ychwaith. Nid ydyw yr ychydig fugeiliaid sydd ar y mynyddoedd yn gweld holl brydferthwch y lle, ychwaith. Tybed fod Rhagluniaeth wedi rhoddi rhywun rywbryd mewn lle wrth ei fodd? Y mae'r trefwr yn hiraethu am unigedd y mynydd, y mae'r mynyddwr yn hiraethu am ambell ffair; a phawb yn cwyno ar ei le. Faint bynnag o feiau roddir ar ein cefnau, gallwn gymeryd cysur o hyn,— rhoddir mwy o feiau ar Ragluniaeth nag ar y gwaethaf o honom.
Ond dyma lyn Tryweryn, a chawod lwyd yn dod i daenu ei haden drosto. “Mae hi'n bwrw gwlaw yn Ffestiniog bob amser,” oedd sylw un o'm cyd-deithwyr. Ceryddais y dyn a wnaeth y sylw am dynnu casgliad cyffredinol oddiwrth rhy ychydig o enghreifftiau; ond maddeuais iddo pan glywais y gwlaw yn taro at fy nghroen cyn nos. Distawodd pob ysgwrs pan ddaethom i olwg Cwm Prysor; a phan roddodd y tren dro i fynd dros bont hir, cawsom olwg ardderchog ar yr Arennig. Nid oedd fy meddwl yn berffaith esmwyth, wedi darllen hanes llawer o ddamweiniau, pan oedd ein cerbyd ysgwydedig yn chwyrnellu hyd ael y mynydd, heibio i lawer trofa serth, ac uwchben dyfnder mor fawr. Dywedodd palff o yriedydd rhadlon wrthyf, gyda gwên fel lleuad lawn, fod y tren wedi mynd oddiar y rheiliau unwaith, ac yntau hefyd.
Gwelsom Gastell Prysor, neu yn hytrach y bryncyn y safai arno, yn codi o'n blaenau; a thu hwnt iddo wele ddyffryn oerlwm agored Traws Fynydd. Daeth darn o englyn, oddiar fedd genethig, i'm cof,—
"daear wleb
"Traws Fynydd tros fy wyneb."
Hwyrach mai hwn, a chof am fedd un o gyfoedion fy mhlentyndod, oedd wedi gwneyd i mi dybied mai lle gwlyb ac oer oedd Traws Fynydd. Y mae ereill dan fwy o gamargraff na minnau, oherwydd ebe un o'r cwmni,—
"Traws Fynydd, hen le hyll,
Dynion cam yn torri cyll.”
"Wele'r dynion, lle mae'r cyll," ebe un arall mewn gwawd. Ond yr oedd y ddau'n gwneyd cam â Thraws Fynydd. Y mae ehangder yr ardal yn gwneyd iddi edrych yn fawreddog, y mae trumau mynyddoedd Ardudwy'n brydferth iawn, ac i lawr i gyfeiriad Eden y mae lleoedd mor ramantus ag unrhyw leoedd yng Nghymru. Cyn i mi gael cyfle i son am ei ffordd Rufeinig a'i beirdd yr oeddym wedi cychwyn tua Maentwrog. Gadawsom wlad lom agored a daethom i wlad y coed a'r cerrig a'r rhedyn tal, o wlad Rhys Cain i wlad Edmwnd Prys. Toc daethom i wlad ardderchog o fynyddoedd, ac yr oedd y niwl a'r gwlaw a'u toai yn gwneyd iddynt ymddangos yn uwch ac yn fwy nag oeddynt. Hawdd y gallwn gredu mai gwlad y bardd a'r swynwr yw hon. Bron na fedrem weld y cafn dŵr yn mynd dros y ffordd, lle y gwnaethai Edmwnd Prys i Huw Llwyd Cynfel sefyll dan y diferion pan yn mynnu mynd adre o'r dafarn yn rhy gynnar. Hoffaswn weld y ffenestr fach, ac Edmwnd Prys yn estyn ei ben allan o honi, yn mwynhau yr olwg ar drallod Huw Llwyd,—hyd nes y teimlodd fod bardd Cynfel wedi gwneyd i gyrn dyfu ar ei ben yntau, ac nas gallai dynnu ei ben yn ol o'r ffenestr gan y cyrn.
Toc daeth Llan Ffestiniog i'r golwg, ar fryn, a mynyddoedd o'i hamgylch. Dywedai un o'i thrigolion wrthym eì bod yn debyg i Jerusalem, ond cyfaddefodd na welodd mo Jerusalem erioed. Yr oedd y tren yn troi ac yn trosi llawer, er ysgoi'r glynnoedd dyfnion, ond nid oeddym yn anfoddlawn i aros yng ngwlad Huw Llwyd Cynfael a Morgan Llwyd o Wynedd. Cawsom gipolwg ar "ddyffryn Ffestiniog," lle gwastad fel bwrdd, ym mhell bell î lawr; ac yna dyma ni yn y Llan. Gorsaf brydferth iawn ydyw; yr oedd gwely o flodau gogoneddus ynddi, a thros eu lliwiau amryliw hwy gwelem y gadwen o fynyddoedd gleision ysgythrog.
Wrth fynd ymlaen i'r Blaenau, cawsom aml olwg ar y dyffryn odditanodd. Braich o'r môr oedd hwn unwaith, yn estyn i mewn rhwng traed mynyddoedd serth, ond y mae'r afonydd, trwy gludo daear nos a dydd iddo, wedi er wneyd yn ddyffryn gwastad. Beth bynnag ydyw ystyr y gair Ffestiniog, y mae ystyr y gair Blaenau yn amlwg. Y mae yng nghilfach y mynyddoedd, ym mlaen eithaf y cwm. Y mae ffurf y pentref yn hanner cylch, a'i wyneb, wrth gwrs, i gyfeiriad y dyffryn, a'i gefn at y mynyddoedd a'r chwarelau. Y peth dery ddyn dieithr ydyw glendid y tai a gloewder yr aberoedd dwfr, ac ni bydd yn hir yn gwneyd ei feddwl i fyny i hoffi ac i barchu'r lle.
Wedi disgyn a dewis ein gwesty, cerddasom drwy brif ystryd Ffestiniog. Nid rhyfedd ei bod yn lân, y mae yno gymaint o wlaw a ffrydiau dyfroedd. Peth rhyfedd yw gweld y creigiau'n edrych dros ben y tai ar yr ystryd, ac weithiau'n sefyll, fel rhyw anghenfil mawr, ar ochr yr heol. Yr oedd yno siopau da,—digon o lyfrau a ffrwythau. Ond ychydig o ddarluniau welais,—dim ond oleograph a photograph welid ym mhobman, arwydd weddol sicr nad yw'r celfau cain yn blodeuo llawer. Er hynny y mae gan Ffestiniog ei harlunydd, ond ni hoffwn ddweyd na un ai'r pwyntel ai'r camera sy'n talu iddo. Nid oedd ond ychydig iawn o bobl hyd y stryd, ond clywn swn pîano a chân o lawer ty. Yr oedd pob peth yn berffaith heddychlon a thawel, ac anodd oedd coelio fod pedwar cant a hanner o bobl ar y streic y diwrnod hwnnw. Ni welsom gymaint a ffenestr doredig. Tra'n syllu a meddwl, clywem lais mwyn yn ein cyfarch. Bardd oedd yno, un o feirdd mwyaf gwylaidd Cymru. Hanna o'r un ardal a minnau, ardal y mae ei phlant yn cyfarch eu gilydd lle bynnag y cyfarfyddent. Medrwn ysgrifennu cyfrol am y gwahanol ardaloedd a gwledydd y cyfarfyddodd plant Llanuwchllyn eu gilydd ynddynt, ac am ddulliau hynod rhai o'r cyfarfyddiadau hynny.
Yr oedd y gwynt yn codi, a phrysurasom o gwmni diddan Barlwydon i weled rhyw chwarel. Cymerasom y ffordd sy'n arwain dros y mynydd i ddyffryn Conwy, ac wele grugiau anferth o ddarnau llechi,—y rwbel o chwarelau Oakeley,—o'n blaenau.[1] Arweiniodd llwybr troellog ni fyny hyd fron y bryn llechi, a chyn hir clywem swn peiriannau ac arfau. Yr oedd ein llwybr ni'n dirwyn hyd y fron serth, a phan oeddym ar y cylch olaf ond un wele ben,—nid un cyffredin,—yn ymddangos o'r lle gwastad uwchlaw, ac yn gofyn i ni a ewyllysiem weled rhywbeth. Atebais nad oedd y byd cyn drymed na chai pawb â'i olwg weled. "O'r gore, ynte," meddai, "y fi ydi'r geid." Dringasom i fyny ato, a dechreuodd ein hwylio o gwmpas, mewn dull difrifol a doeth iawn. Aeth a ni i adeilad eang, a danghosodd y chwarelwyr wrthi'n hollti llechi, ac yn eu naddu wrth gyllell peiriant. Yr oedd pawb yn hollol ddistaw, ond y peiriannau a'r geid. Ac mewn rhyw dôn ddistaw leddf y siaradai'r geid hefyd, fel pe buasai pob peth ddywedai yn ddirgelwch pwysig a mawr. Esboniodd i ni fel y mae'r chwarelwyr yn partneru,—rhai yn y graig, rhai yn hollti, a rhai yn naddu. Yr oedd golwg brydferth ar y rhes hir o chwarelwyr gyda'u gwynebau meddylgar glân, a phawb a gwên groesawgar wrth edrych arnom yn gwrando ar eiriau dewisol y geid. Wedi dod allan, gofynasom beth arall oedd i'w weld, a chawsom mai adeiladau tebyg i'r un y daethom o hono. Ond yr oedd arnom eisiau mynd dan y ddaear, i weld y creigwyr, a'r gweddill o'r un cant ar bymtheg sy'n gweithio yn y chwarel hon. Nid oedd caniatad i fynd, hyd yn nod i frenin. Deallasom wedyn y buasai 'n hawdd i ni weled y chwarel i gyd pe wedi gofyn yn briodol; ond ni chawsom gan yr hen arweinydd prudd-ddigrif ond hynny o wir a wnai les i ni. Felly yr oedd yn rhaid i ni dreio chwarel arall.
Ar ein cyfer, dros y ffordd oedd i lawr ym mhell odditanom, gwelem Chwarel y Llechwedd yn drom ac yn ddistaw o'n blaenau. Cyn cychwyn yno, cawsom ymgom â'r geid wrth ymadael. Trodd ddau lygad dwys arnom, nes oedd y ddau'n cyfeirio'n syth i ryw un pwynt ym myw ein llygaid ninnau. Dywedodd fod ysbryd y chwarelwr yn un anibynnol iawn. Clywodd ffrwgwd rhwng goruchwyliwr a chwarelwr yn y fan lle safem. Dywedodd y goruchwyliwr, dyn caredig ond gwyllt, fod y chwarelwr wedi gwneyd trosedd, a fod yn rhaid iddo ofyn ei bardwn. "Tr-trosedd," ebe'r chwarelwr, "naddo; rhyw opiniwn oedd o genno fo;
ofynne fo m-mo'i bardwn o b-byth." Yr oeddllond y fan o chwarelwyr yn union, aeth y goruchwyliwr fel yr aethnen, ond daeth pob peth i'w le'n fuan iawn. "Ond," meddai, gan gyfeirio ei ddau lygad a'i fys at y chwarel ddistaw ar ein cyfer, "welodd Ffestiniog erioed beth fel hyn." Dywedodd ei hanes yn sir Fflint, mewn geiriau oedd yn codi darluniau erchyll o'm blaen, fel y dychrynasant oruchwyliwr i farwolaeth. "Ond," meddai, "d-dydi chwarelwyr ddim fel coliars, mae nhw'n fwy gwareiddiedig, yn fwy efengylaidd; ac mae'n well gennyn nhw ddiodde na gwneyd dim o'i le." "Rhyw chwechyn" yn unig oedd yn ddisgwyl fel cydnabyddiaeth, ond "mae partis wedi estyn dwy gini i mi cyn hyn." Pan roddwyd y swydd o dderbyn dieithriaid iddo, dywedodd y goruchwyliwr, "Paid a gosod pris; ond, os byddan nhw'n shabi, t-tsiarja nhw swllt y pis."
Aethom i lawr hyd y llwybr troellog, gan feddwl am drem ddwys y gŵr pwysleisiol ar ben y lle gwastad, a chan ofni mai ymysg "y rhai shabi" y dosbarthai ni yn ei feddwl. Dringasom y llwybr i fyny ochr arall y cwm cul. Ond nid oedd swn peiriant na chun na morthwyl yn y Llechwedd. Gwelem olwynion yn sefyll, ac un olwyn fawr yn symud yn araf fel pe mewn cwsg. Yr oedd distawrwydd llethol dros y fan, fel pe buasai'r nos wedi gadael popeth ar ei hol hyd ganol dydd, ond ei lliw. Y mae gwaith anghyfannedd yn fwy anghyfannedd na dim. Y mae prydyddion byd wedi wylo uwch mieri lle y bu mawredd, ond daw beirdd dwyfolach i wylo uwch mieri fo lle y bu gweithio gonest.
Crwydrasom ymlaen at swyddfeydd y gwaith. Yr oedd distawrwydd llethol yno hefyd. Wedi cnocio, clywem swn troediad araf trwm. Daeth dyn byr i'r drws, a gadawodd i ni ofyn iddo a fedrem gael rhywun i'n harwain trwy'r chwarel. Edrychodd dros y llethrau gweigion, fel protest yn erbyn ein cwestiwn di-fudd, ond dywedodd fod croesaw i ni fynd i grwydro drwy'r chwarel ein hunain. Gyda ei fod wedi gorffen dweyd hyn, penderfynodd ddod gyda ni ei hun, gan nad oedd ganddo waith i'w wneyd. Gŵr byr, gweddol drwchus oedd; siaradai'n araf a phwyllog, mewn llais bas mwyn iawn. Tybiwn wrth wrando ar ei lais mai pregethwr ddylasai fod. Ni fedrem beidio son am y streic, ond yr oedd ef yn rhy ochelgar i ddangos ei ochr, nac i ddweyd dim ond hanes noeth. Dywedodd mai ar yr ail ar bymtheg o Fai y dechreuodd y streic: a'r achos, meddai, oedd "rhoi'r oil am byth" i rywun oedd heb gydweled â rhywun arall. Deallasom mai dull o ymadrodd am droi dyn ymaith oedd "rhoi'r oil" iddo, a syniad ein harweinydd am ystyr yr ymadrodd oedd mai gyrru dyn cyndyn i'r oil i ystwytho a feddylid. Heibio'r olwynion llonydd a'r gweithdy mawr gwag, daethom i fyny at un o'r lleoedd agored lle cyferfydd wageni llwythog o dyllau ymhob cyfeiriad. Yr oedd yr olwyn ddŵr yn mynd yn araf araf, ond yr oedd pob tryc wedi sefyll, yr oedd y cadwyni'n crogi'n ddiddefnydd ar y graig uwchben, ac nid oedd un creigiwr i'w ddisgwyl allan o un o'r tyllau duon oedd yn arwain i mewn i'r ddaear. Cawsom esboniad bychan difyr ar y dull o weithio chwarel; er y buasai'n fwy dyddorol pe buasem yn cael gweled y creigwyr wrth eu gorchwyl fry. Gwelsom y gwahanol haenau,—y garreg bach, y slont glai, y tew caled, y llygad bach, y llygad cefn, a'r bastard-tir. Gwelsom hefyd fel y deuai cerrig i fyny o bob dyfn i'r fan y safem arni.
Yr oedd y gwlaw yn dechreu disgyn gyda hyn, a gorfod inni droi'n ol i'r swyddfa. Wrth fynd i lawr gwelsom ddyn ieuanc unig, a thybiem fod golwg gynhyrfus arno, yn brasgamu ar draws y chwarel wag. Y goruchwyliwr oedd, Warren Roberts wrth ei enw. Nid oedd ganddo wybodaeth, ebe ef, pryd y doi'r streic i ben; dywedais wrtho y dylai ddiolch mai ym Meirion yr oedd yn oruchwyliwr, ac nid ym Morgannwg. Rhoddodd bob croesaw i ni weled y chwarel, ond yr oedd ei feddwl yn rhy gythryblus gyda phethau ereill i aros nemawr gyda ni. Wedi cyrraedd y swyddfa'n ol, deallais fy mod yn, gydnabyddus iawn ag enw'r gŵr a'n harweiniodd,—efe yw golygydd yr Ymwelydd, ac y mae wedi bod yn chwilio i'r un cyfeiriad a minnau.
Wedi ymadael a'r pregethwr caredig, arweiniodd ei fab ni i fyny i ben y chwarel, er mwyn i ni groesi'r gefnen fynydd at chwarel Foty a Bowydd. Wrth i ni godi i fyny, gwelem adran ar ol adran o chwarel y Llechwedd fel chwareudy crwn, ac yr oedd niwl glâs yn gwneyd yr olygfa'n fawreddog iawn. Yr oedd nant wyllt yn rhedeg i lawr o'r mynydd, yn ewyn trochionnog, ond yr oedd y dwfr yn hollol loew. Nid oedd bosibl gweled dim ond y mynydd a'r niwl trwchus, a cherrig gleision ac ambell aber drwyddo. Pan feddyliais mor iach a hyfryd yw'r lle yn yr haf, daeth y gwlaw fel pistylloedd arnom, ac yr oedd y niwl yn ddigon i'n gwlychu at y croen. Wrth i ni ddisgyn i lawr ni welem ond clogwyni anferth yn hylldremu drwy'r niwl, ond clywem swn peiriannau'n ochain ac yn rhuo yn y dyfnder odditanom.
Yr oedd golwg druenus arnom. Yr oeddwn i wedi rhoi'm dillad goreu am danaf y bore hwnnw, yn erbyn cyngor. Pan welodd rybelwyr Bowydd fi'n dod o'r niwl i lawr atynt, tybiwn y meddylient am iar ar wlaw. Gwaeddodd rhyw hogyn direidus arnom, gan droi ei dipyn Saesneg yn wawd,—"Feri ffein weddar." Y mae'r hen ddyn yn gryf yn y duwiola pan wawdir ef, ond ychydig o ddigllonedd gwrol sydd mewn llipryn o bererin a'r defnynnau gwlaw'n rhedeg i lawr rhwng ei grys a'i gefn. Cafodd y bachgen fwynhau ei dipyn gwawd mewn diogelwch, a disgynasom ninnau hyd y llwybr serth i gwm cul, at enau chwarel. Yr oedd cerbydau bychain yn dod allan o honi, a thoc daeth bachgen o rybelwr atom, i ofyn a allai ein gwasanaethu. Cawsom ef yn ddeallgar ac yn garedig iawn, ac yn arweinydd da. Ond er ei wyleiddied, dychmygem y gallasem ei glywed yntau'n canu,—
"Rhybelwr oedd fy nhaid,
Rhybelwr oedd fy nhad;
Rhybelwr ydwyf finnau,
A'r goreu yn y wlad."
Cyn i ni fynd i mewn, cawsom olwg ryfedd ar y chwarel. Yr oedd y gwlaw'n pistyllio o hyd, ac ni welem gan y niwl glas-ddwfn ond creigiau a cherrig enfawr ar bob tu. Yr oedd yno un bachgen, a cheg enfawr, fel pe buasai ei ben yn flwch tybaco, yn rhegi nes oedd y creigiau a'r niwl yn diaspedain. Cofiwn am y tyngwyr welodd Bardd Cwsg yn uffern, yn crogi gerfydd eu tafodau oddiwrth greigiau fel y rhai acw.
Rhoddodd ein harweinydd blanc pren sych yn y wagen fach haearn,—ond cofiwn mai nid y dillad oedd oreu yn y boreu oedd oreu erbyn hyn,—ac yna cychwynnodd y gyrrwr ceffylau a ni drwy'r tynel hir dyfrllyd, gan ein rhybuddio i ddal ein pennau i lawr, rhag eu taro yn erbyn talp o graig yn y tywyllwch. Daethom i'r chwarel agored, hynny ydyw, yr oeddym yn gweled y niwl o waelod y twll yr oeddym ynddo. Rhwng yr olwg i fyny ar y niwl a'r olwg ar y mŵg ddoi o'r tanau yn y mynedfeydd tan ddaearol, yr oeddym mewn lle dieithr iawn. Wrth durio odditan y graig yr oedd rhai colofnau wedi eu gadael, rhag i'r mynydd syrthio i lawr. Weithiau cyffelybwn y lle i eglwys gadeiriol ardderchog, a'r pileri duon heb orffen eu naddu. Ond yr oedd y ffaglau a'r gwaeddi'n gwneyd y lle'n anaearol iawn. Symudasom ymlaen at enau un o'r inclines, ac yr oedd y ffagl-fflamau a'r mŵg ddoi o honi yn gwneyd i mi feddwl am eneu annwn. "Gwelais ddau ddyn yn cael eu lladd yn y fan acw," ebe creigiwr o Lanbrynmair oedd yn sefyll gerllaw. Y mae aml ddamwain yn digwydd mewn dyfn fel hwn,—y graig yn tanio neu'r wagen yn rhedeg. Damwain mewn chwarel, ac Angeu yno,—
Mae anadl pawb yn ei fynwes yn crynnu,
A phryder trwy wynder pob gwedd yn llefaru.
Crwydrasom dipyn dan y ddaear, a'r bachgen a'i ganwyll yn ein harwain; gwelsom ddyfn ar ol dyfn. Yr oedd cadwen ar draws y lleoedd peryclaf, ond clywais am rai cyfarwydd â'r chwarel yn syrthio dros ddyfn neu ddau. Ni welais y creigwyr oedd yn gweithio yn y gwaelod, ond gwelais y grisiau hir sydd yn arwain i lawr atynt, a'r mŵg yn nofio ar wyneb yr agenau uwch eu pen.
Wrth gerdded i lawr o'r chwarel, daeth llawer o bethau i'm meddwl am y bobl welais yn ystod y dydd. Yn un peth, tarawyd fi gan foneddigeiddrwydd di-eithriad y chwarelwyr. Yr oeddynt yn rhy brysur i ddod atom i holi, ond rhoddent bob cynhorthwy i ni o'u bodd os gofynnem am dano. Sylwais eu bod yn garedig ac yn gymhwynasgar iawn gyda'u gilydd, a mynych gyngor gafodd y bachgen a'r ganwyll sut i wneyd â ni er mwyn i ni weld popeth. A phan oeddym yn dod allan o'r chwarel, gyrrodd un o'r chwarelwyr ni yr holl ffordd, er fod y dwfr at ei fferrau. Clywais bobl ddi-addysg a di-ddiwylliant dybient eu bod yn foneddwyr, gyda modrwyau efydd ar eu bysedd, yn condemnio gweithwyr y Llechwedd yn ddi-arbed. Ond yn y chwarelau y gwelais y gwir foneddwyr, a llawer haws fuasai gennyf ymddiried bywyd ac eiddo iddynt nac i lawer sy'n caru ymddangos fel hoffwyr cyfiawnder a hawliau cysegredig eiddo.
Tybiwn hefyd, oddiar yr olwg arnynt, eu bod yn ddynion deallgar iawn fel dosbarth. Ni welais ol syrthni meddwdod ar un wyneb, na'r gwynebau nwydwyllt welais yn hylldremu ac yn gwgu arnaf mewn aml ffatri fawr yn Lloegr ac ar y Cyfandir. Gwn fod llawer o ganmol wedi bod ar chwarelwyr am eu meddwl, a dywed rhai eu bod fel dosbarth yn cael y ganmoliaeth a haeddir gan y rhai goreu o honynt yn unig. Yr wyf yn meddwl y geill chwarelwyr Ffestiniog, fel dosbarth, dderbyn y clod o fod ym mysg gweithwyr mwyaf deallus y byd.
Y mae bywyd moesol Ffestiniog, ar y cyfan, yn iach a phur. Ni adewir i fasnach ladd meddwl, y mae'r llenor a'r bardd yn sicr o gael gwrandawiad. Yn wir, hwyrach y telir rhy ychydig o sylw i'r celfau, yn enwedig daeareg. Diwinyddiaeth yw prif faes astudiaeth Ffestiniog eto, ac y mae'n amhosibl cael gwell diwylliant i'r meddwl na'r diwylliant geir trwy gymdeithasu â "brenhines y gwyddorau." Athroniaeth ar ei goreu ydyw, athroniaeth y ceir golwg ar y natur ddynol o bob gris ohoni.
Am arweinwyr y dylai gweddi Ffestiniog fod. Haearn a hoga haearn; a thrwy eu bod yn gweld cymaint ar eu gilydd, ac yn cael cymaint o fanteision i siarad, y mae dylanwad y chwarelwyr ar eu gilydd yn fawr. Pan symudant, symudant fel un gŵr. Gall arweinyddion doeth eu codi, yn feddyliol a moesol, y naill genhedlaeth ar ol y llall. Y mae'n ddiameu fod Ffestiniog wedi ei bendithio ag arweinwyr meddylgar, grasol, ac uchel eu nod.
Clywais droion fod dynion Ffestiniog yn well na'r merched. "Nid yw'r merched yn cael yr un cyfleusterau i ymgomio, ac i ddadleu cwestiynau, ag a ga eu gwyr," ebe boneddiges wrthyf. Ac eto gwelais amryw gynhadleddau ar gerrig y drysau wrth basio trwy'r heolydd. Dywedwyd fod merched ieuainc yr ardal yn priodi cyn dysgu coginio a chadw ty. "Gwneyd te ac agor tinned salmon yw holl gylch eu coginiaeth," ebe hen lanc sychlyd wrthyf. Ond, yn fuan iawn, daw'r ysgolion i wneyd y diffyg hwn i fyny, os yw'n bod.
Beth bynnag arall ddaw o Ffestiniog, daw rhai o athrawon ac athrawesau goreu Cymru. Gwyn fyd na ddeuai mwy ohonynt. Lle Cymreig effro fel hwn ddylai gyflenwi ein hysgolion ag athrawon.
Ac wrth gofio, adeg y streic oedd. Clywais feirniadu doethineb y chwarelwyr, ond ni chlywais ond un farn am eu calonnau. Sefyll dros eu gilydd y dywedai pawb eu bod, ac yr oedd cydymdeimlad pawb gyda hwy. Yr wyf yn sicr iawn o un peth, y mae eu hymddygiad wedi bod yn foneddigaidd ac yn Gristionogol trwy'r amgylchiad cyfyng. Nid yn ofer yr adeiladwyd llu capelau Ffestiniog. Yr oedd pedwar cant a hanner, mwy neu lai, o ddynion ar y streic y diwrnod hwnnw er ys misoedd, ac yr oedd cydymdeimlad miloedd o'u cydweithwyr ä hwy. Ac eto ni welais filwr na heddgeidwad yn unlle drwy gydol y dydd. Gwelais apêl atynt oddiwrth lowr, mewn papur newydd Cymraeg, i adael eu hemynau, ac i godi eu calonnau trwy ddawnsio a gwamal ganu. Ond yr esboniad goreu ar waith yr Ysgol Sul a'r Seiat yw ymddygiad chwarelwyr Ffestiniog ar adeg streic ac ar bob nos Sadwrn. Nid ofer yw'r ymdrech a wnaed ac a wneir gydag addysg a chrefydd Cymru, tra y cynhyrchir dynion fel y rhai hyn.
Nodiadau
golygu- ↑ Nid wyf yn adrodd dim ond a welais ac a glywais yn Ffestiniog y diwrnod hwnnw. Os mynni wybod hanes Ffestiniog a'i chwarelau darllen lyfr manwl a dyddorol G. J. Williams, —"Hanes Plwyf Ffestiniog," (Hughes a'i Fab, Gwrecsam).