Tro Trwy'r Gogledd/Y Perthi Llwydion

Blaenau Ffestiniog Tro Trwy'r Gogledd

gan Owen Morgan Edwards

O Gylch Carn Fadryn



II. Y PERTHI LLWYDION

YR oedd yn ddiwrnod sych oer yn nechre Ebrill, a gwynt miniog yn crwydro dros y ddaear lle cysgai blodau'r dydd a'r brieill eto, er ei bod yn bryd i'r anemoni godi ei ben o gwsg hir y gaeaf. Yr oedd yr eira eto'n aros ar gopâu pell y mynyddoedd, a rhyw niwl drosto, yn holl ogoniant glas a gwyn diwedd gaeaf. Daeth awydd ataf i fynd i fyny i'r mynyddoedd ar grwydr, ac i droi o gwmpas rhai o gartrefi enwog Cymru. Cefais gyfaill, oedd yn berchen march cadarn cyflym a cherbyd uchel ysgafn, ac yn meddu llawer o wybodaeth am natur dyn ac anifeil, i ddod gyda mi. Rhag i ni fentro i gymoedd rhy anghysbell, a throi'r cerbyd yn awr ac yn y man wrth gornelau er mwyn chwareu, anfonwyd merch ieuanc gyda ni. Cadwgan oedd enw'r gŵr, Enid oedd enw y ferch ieuanc, a Sanspareil oedd enw y march.

Os buost, ddarllennydd, yn teithio gyda chwmni cyffredin, a march cyffredin yn dy dynnu, hyd y ffordd hir uchel o'r Bala i Gerrig y Drudion, y mae'n debyg iti ofni na welet ddiwedd y ffordd honno byth. Ond yr oedd sylwadau Cadwgan ac Enid ar y natur ddynol mor newydd, ac yr oedd cyflymder Sanspareil gymaint yn fwy na chyflymder hen geffyl hirflewog oedd yn dringo'r rhiwiau draw ymhell o'i flaen, fel na feddyliais i unwaith fod y ffordd honno'n hir. Y mae'n wir fod Cwm Tir Mynach yn hir ac yn llwm ac yn oer; ac y mae y bobl yn gyffredin yno wedi bod yn rhy enwog i'r un o honynt dynnu sylw y byd yn fwy na'r lleill. Er hynny, nid yw y lle heb ei ddyddordeb. Yr oedd mawredd yn y gweunydd hirion gwlybion, yn ymgolli mewn mynyddoedd eiraog o bob tu. Yr oedd yr enwau yn awgrymu hanes coll hefyd,—Gorsedda Maes y Gadfa, a Hafod yr Esgob. Adroddai Cadwgan ddetholion o hanes yr amaethwyr oddiwrth ryw arwyddion welai ef. "Mae dyn yn byw yn y fan acw," meddai, "heb ddim min ar ei gyllell wair." Syrthiodd fy llygad ar y dâs wair; yr oedd yn debycach i bigyn bryn nag i ddâs a'i fagwyrydd wedi eu torri yn lân a thaclus. Hawdd oedd deall faint o fin oedd ar y gyllell wair. A gwn rai gwirioneddau cyffredinol am un sydd heb fin ar ei gyllell wair, ei bladur, neu ei rasel. Clywais hefyd ddarllen cymeriad llawer un y diwrnod hwnnw oddiwrth ymddanghosiad ei dŷ, ei dda byw, a'i wrychoedd, a'i gloddiau. Tan son am y natur ddynol, cyrhaeddasom fan uchaf ein ffordd. Tybiwn nas gallai unlle edrych yn oerach a mwy anial na Llechwedd Figin,—hyd yn oed Hafod Nwydog yr ochr arall i'r mynydd. Yr oedd y ffordd dros fil o droedfeddi uwchlaw lefel y môr, a'r lluwchfeydd yn dod i'w hymyl; yr oedd Llechwedd Figin ar fron serth tua dau gant a hanner o droedfeddi'n uwch wedyn. Yn y wlad agored ddigoed hon, deuai gwynt caled oddiar y bronnau o eira rhewedig fry i'n cyfarfod. A fedr rhyw syniad pleserus ddod i feddwl dyn pan fydd arno anwyd o'i draed?

Ond beth pe gwelech y llecyn hwn yn yr haf,—pan fo pen melynwyn brenhines y weirglodd yn crymu uwch dwfr grisialaidd y nant sy'n dilyn y ffordd, pan fo gwartheg enwog am felusder eu llefrith yn ymfwynhau yn yr awelon cynnes ar y llethrau fry, pan rydd y grug berarogl hyfryd gwan i'r awel, pan geir yr unigedd tawel hwnnw sy'n well darlun i mi o'r nefoedd na dim arall y gallaf feddwl am dano? A beth pe byddech yma ar hafnos dawel ganol Awst? Y mae'r ardal yn ddistaw bob amser, ond a'n ddistawach at y nos, distawrwydd rydd lais gwylaidd i aberoedd y mynydd, ac i adlais yr afon o'r dyffryn draw, sy'n cyhoeddi

"Fod eto ar y bryniau lef
Dragwyddol o addoliad. Obry clyw
Yr afon hithau ar ei milwedd daith,
Yn llanw dyffryn ar ol dyffryn ag
Angylaidd for o addoliadol swn."

Ac onid yw enwau fel Nant yr Ewig a Ffridd y Gwair yn dwyn adgofion, hyd yn oed ar ddechreu gwanwyn llwm, am yr arogl meillion a'r gwair cynhauafus fydd yma ymhen rhyw ddeufis neu dri?

Ond y mae carnau Sanspareil yn taro tân o'r cerrig wrth i ni gyflymu i lawr at Gapel y Gellioedd, a rhedeg yn chwyrn gydag ochr y mynydd uwchben Nant yr Hengwm a gwaelod Llangwm. Wrth Hendre Garthmeilio try y ffordd yn sydyn i'r gogledd, a daw rhewynt i'n cyfarfod wna i mi wasgu dannedd yn dynn rhag iddynt glecian ar eu gilydd, a gwrando ar Gadwgan yn esbonio i Enid paham y mae coed larch yn dihoeni yn yr uchder yma, a phaham na phery clawdd weiar byth.

I lawr a ni yn orwyllt at Bont Moelfre, a cheisiwn ddarbwyllo fy hun fod arnaf lai o anwyd wedi disgyn dros ddau can troedfedd i ffordd enwog Caergybi. Y mae Cerrig y Drudion o'n blaenau, fel dinas ar fryn; ac ar fyrder yr oeddym mewn ystafell glyd yn y Saracen's Head o flaen tanllwyth o dân, a'n hanwyd a'n newyn yn hyfryd ddiflannu.

Wedi cynhesu a dadluddedu yn y cartref fforddolion croesawus hwn, a gwrando ar y porthmyn yn siarad Cymraeg campus yr ardaloedd yma, cychwynasom tua chartrefi Edward Morris a Jac Glan y Gors,—y naill yn fardd melusaf yr unfed ganrif ar bymtheg, a'r llall yn gynrychiolydd Cymreig ysbryd chwyldroadol y ddeunawfed ganrif. Dringasom i'r pentref, ac ar y ffordd troisom i ymweled â Hugh Hughes. Hen athraw, fel y finnau, yw ef; ac y mae'n cael hamdden yr hiraethais innau lawer am dano, i gasglu barddoniaeth Gymreig. Y mae ei fryd ar gasglu a chyhoeddi holl waith Edward Morris, y bardd mwynber o'r Perthi Llwydion. Danghosodd imi y gyfrol olaf oedd wedi ysgrifennu; ac wrth sylwi ar dlysni digryn y llawysgrif, a gwrando ar ysgwrs lawen yr hen lenor sionc, prin y gallwn gredu ei fod wedi cefnu ar ei bedwar ugain oed. Ond, o ran hynny, yn y wlad iach agored hon, gallwn feddwl mai hawdd yw byw'n hen a siarad Cymraeg glân gloew. Am ennyd y meddyliais hynny; daeth i'm cof wyneb mwyn genethig brydferth fu'n byw ar y fron draw, adwaenwn gynt, a hunodd ymhell cyn i wrid ieuenctyd adael ei grudd.

Pan ffarweliasom â Mr. Hughes yr oedd yr haul yn gwenu ac yn cynhesu'r awel. Safasom ennyd wedi cyrraedd canol y pentref, rhwng yr eglwys a gwesty to gwellt. Pentref bychan ydyw, ar fryncyn noethlwm. Hanner can mlynedd yn ol yr oedd rhai'n cofio crug o gerrig ger yr eglwys,—beddau hen ddrudion neu wroniaid,—ac oddiwrthynt hwy y cafodd y pentref, a rhyw ugain mil o aceri o rosdir a mynydd o'i amgylch, eu henw. Y mae Cerrig y Drudion yn ganolbwynt ffyrdd lawer. A un i'r de ddwyrain gyda'r afon Ceirw i Gorwen, ac oddiyno i Loegr; un arall i'r dwyrain, drosodd i ddyffryn Alwen a Llanfihangel Glyn Myfyr, ac oddiyno i Ddyffryn Clwyd; a'r ffordd y daethom ni hyd-ddi i'r de i Feirion. A ffordd arall i gyfeiriad y de, heibio i Dy'n Rhyd i Gwmpenaner. Rhed ffordd Gorwen,—ffordd fawr Caergybi,—i'r gorllewin tua Betws y Coed. Rhed ffordd arall i'r gogledd. Yn wir buasai gwe pryf copyn yn eithaf map o Gerrig y Drudion a'i ffyrdd. Noethlwm yw'r wlad o amgylch y pentre, ond tra mawreddog. Mae mynyddoedd pell eiraog yn ymyl gwyn i wlad eang o gaeau llwyd-goch, ac y mae'r ffordd fawr union lydan yn deffro adgofion am amser yr oedd yn brif dramwyfa rhwng Prydain a'r Iwerddon.

Y ffordd i'r gogledd oedd ein ffordd ni. Os gofynnwn i ble yr oedd yn arwain, dywedid wrthyf res o enwau nad oeddwn wedi clywed am danynt erioed o'r blaen, yn amaethdai a mynyddoedd. Yr oedd un eithriad. Clywswn enw'r Hafod Lom mewn pennill glywais hen sant, nad yw yn awr ymhlith y byw, yn ganu i ysgafnhau ei feddwl pan fyddai'r byd yn gwasgu arno,—

"Mi af oddiyma i'r Hafod Lom,
Er ei bod hi'n drom o siwrne;
Mi gaf yno ganu cainc,
Ar ymyl mainc y simdde;
Ac ond odid dyna'r fan
Y bydda'i dan y bore."

Cyn mynd nemawr hyd y ffordd, troisom ar ein chwith, a dechreuasom gerdded yr hen ffordd tua'r gorllewin. Hon oedd ffordd y wlad cyn gwneyd ffordd fawr Caergybi yn is i lawr. Er cymaint y mae'n droelli gyda godreu'r mynydd, y mae'n amlwg oddiwrth y murddynod sydd ar ei hymyl mai hyd-ddi hi unwaith y cerddai masnach yr ardaloedd. Ymysg yr adfeilion tai tyf ambell griafolen neu fedwen, megis pe'n ceisio dynwared harddwch plant fegid yno gynt: a saif ambell fur talcen, wedi herio gwyntoedd gaeafau lawer, yn glod i ryw saer maen gwledig sydd ers blynyddau bellach yn y fynwent draw.

Hen ffordd ddyddorol yw hon, hyd yn oed i deithiwr na ŵyr fod Edward Morris wedi ei eni un ochr iddi, a Jac Glan y Gors yr ochr arall. Ar y dde yr oedd caeau newydd eu haredig, o liw coch cynnes, yn graddol godi i fynyddoedd grugog. Ar y chwith yr oedd rhes hir o fynyddoedd gleision,—amlinellau hirion esmwyth, gydag ambell luwchfa o eira yn torri ar brydferthwch unlliw y glas tyner. Rhed y drum fynyddig rhwng Meirion a sir Ddinbych, gan ymgodi i uchder Carnedd Filiast, 2,194 o droedfeddi, teilwng chwaer i'r Aran a'r Arennig. Wrth edrych ar linell donnog y copâu glas a gwyrdd, cofiwn mai eithaf naturiol oedd i Fatthew Arnold dybio fod rhywfaint o'r dwyfol i'w weled mewn rhes o fynyddoedd.

Gofynnem y ffordd i bob un o'r bobl radlon garedig a gyfarfyddem, er mwyn eu clywed yn siarad Cymraeg,—yr wyf yn credu fod yma y Cymraeg puraf a llawnaf yng Nghymru. Rhoddai Cadwgan wybodaeth gyffredinol inni, wrth edrych ar y ffermdai a'r caeau odditanom, megis,—"Mae'r gwartheg duon gore yn y byd yng Ngherrig y Drudion yma." Yr oeddym yn graddol nesu, yn ol yr ysgwrs a gaem â phob fforddolyn, at y Perthi Llwydion. Cofiais nad oedd gennyf gamera gyda mi, ac nid wyf yn fedrus gyda'm pensel. Felly ni chawn ddarluniau i fyned adre gyda mi o gartref pell Edward Morris. Ond, os gorfod i mi wneyd heb ddarluniau, osgoais lawer o drafferth. Lawer tro, pan yn cario fy nghamera gyda mi, dilynid fi gan dorf o blant. Credent mai conjurer oeddwn, ac y rhoddwn y clud i lawr pan gawn lecyn cyfleus ar fin y ffordd, ac y diosgwn fy nghob, ac y tynnwn wydrau allan o'r bocs, y gorweddwn ar fy nghefn i ddangos fy medr i ddal gwydrau ar fy nhrwyn, ac y gwnawn lawer o ystumiau digrif ereill. Nid peth hoff gennyf yw peri siom i blentyn; ond y mae amryw bethau nas gallaf eu gwneyd.

Dyma'r drofa ar y dde, sydd i'n harwain at y Perthi Llwydion. Ar y drofa cyfarfyddir ni gan borthmon glandeg graenus, newydd brynnu ceffyl yn y Perthi Llwydion. Dychmygwn mai rhywbeth tebyg oedd Edward Morris pan safai ar y groesffordd hon, i wylio'r gyrroedd, ddwy ganrif yn ol. Rhed ffordd i lawr i bant, ac yn nythu'n ddigon clyd yn y pant wele'r Perthi Llwydion. Fel y mae yn awr, ty gwyn twt ydyw, gyda phorth cymhesur o'i flaen. Y mae ei wyneb i'r de-orllewin, edrych felly i gyfeiriad y gefnen y rhed y ddwy ffordd drosti,—y newydd yn rhedeg yn union fel saeth, a'r hen yn troelli ac yn gwyro fel sarff wedi ei hysigo. Saif y ty mewn hafn werdd, yn agored i'r haul, mewn cysgod rhag gwyntoedd y gogledd a'r dwyrain. Y mae llwyn o helyg tal glas yn sefyll fel rhes o wylwyr o flaen y ty. Feallai fod mwy o berthi yma unwaith; nid yw enw coed yn awr yn dangos fod yno goeden yn aros, nid oes un onnen yn aros ger "Llwyn On" draw. Oddiwrth y talcen pellaf oddiwrthym graddol godai llethrau gleision i fyny at beth elwid wrthym yn Graig Erchedd; ond ni welsom ddim yn erch yn yr olygfa, llym ac esmwyth oedd amlinellau'r olygfa, fel odlau Edward Morris.

O'm rhan fy hun, gwell gennyf wrando ar Edward Morris yn canu yn y mesurau rhyddion nag yn y mesurau caethion. Yr adeg honno, sef yn yr ail ganrif ar bymtheg, yr oedd hen Awen Cymru'n distewi, a'r newydd heb ddeffro. Yr oedd Tudur Aled wedi tewi ers can mlynedd, yr oedd can mlynedd i ddod cyn y clywai Cymru

Williams Pant y Celyn. Yr oedd y boneddigion

yn troi eu cefnau ar lenyddiaeth Cymru, yr oedd y werin heb ddysgu ei charu eto. Cwyna Edward Morris wrth yr Awen Cymreig nad oes neb a wrendy arni hi mwy, ond

"O'r Saisneg deg y digwydd
Purach wellhad, parch a llwydd."

Nid oes fri ar waith ein beirdd, ni roddir pris ar lyfrau Cymru mwy, a dyma dynged ysgriflyfrau Cymru,—

"Pob barcutan llyfran llwyd,
Heb lai acw a bliciwyd;
Colli'r plu, cael yn llaw'r plant,
A rhai eger a'i rhwygant;
Pob dalen gwelen g'wilydd,
Yn tanio tybaco bydd."

Ac ychydig obaith oedd am lyfrau newyddion, oherwydd

"Mae iaith gain Prydain heb bris,
Mae'n ddi-obrwy, mae'n ddibris;
Darfu ar feth, dirfawr fodd,
Ei 'mgleddiaid a 'm'gwilyddiodd;
Y Gymraeg a gam rwygir,
C'wilydd ar gywydd yw'r gwir;
Darfu ei braint a'i faint fu,
Ai mewn llwch y mae'n llechu?"

Cysura'r Awen ef trwy son am ychydig gartrefi Cymreig oedd eto'n gartrefi i'r hen iaith, ac yn nawddleoedd i'w llenyddiaeth,—y Gloddaeth, y Berth Ddu, Bodesgellan, a'u tebyg. Yn wir, hyd heddyw, y mae'r Mostyniaid a'r Wynniaid wedi rhoddi gwerth ar waith Edward Morris a'i gydoeswyr.

Ni thrydd Edward Morris at y werin; ni fynn addef fod yr amser wedi dod y byddai raid cyweirio tannau telyn Cymru ar eu cyfer hwy. Ac eto yr oedd hyn yn cael ei wneyd. Er fod llawer o geinder hen gyfnod y cynghaneddion yng nghaniadau serch Huw Morus o Bont y Meibion, i'r werin y canai'n bennaf. Canodd ar fesurau rhyddion, ac arhosai'r cerddi ar dafod gwlad, a swyn eu miwsig yn barhaus yn ei chlust. Ac i raddau, dilynodd Edward Morris ef yn hyn o beth. Ond, er ei fod yn wr o deimladau crefyddol dwysion, ni fentrodd ef yr un o'r llwybrau newyddion. Gwrthwynebai feddwdod a gloddest, mae'n wir. Pan oedd Lloegr feddwaf ar y Nadolig canodd,—

"Canwn gan dannau ysbrydol ganiadau,
Ni apwyntiwyd mo'r gwyliau i ganlyn heb lwydd.
Lythineb a meddwdod; ond am ein gollyngdod
Clodforwn ei Dduwdod yn ddedwydd."

Eto yr oedd yr hen arferion Nadolig i aros fel o'r blaen, er gwaethaf Puritan a Chrynwr. Ebe'r canwyr carolau dan bared,—

"Ninnau sydd yn uno sain,
Fel carreg lefain lafar,
Wrth eich llys yn gwmni llon,
Heb ddim argoelion galar;
Nid awn i ganu fyth dan fur
Yr un o'r Crynwyr crinion
Sydd yn brefeuad hyd ein bro,
Gan rodio i dwyllo deillion.


Nid awn ni chwaith at gybydd tynn,
Yr hwn yw gelyn gwyliau,
Fe fydd o'i gut yn hysio'i gŵn,
Rhag tyner sŵn y tannau;
Hyd at haelion fel chwychwi,
'E wyllysiem ni gyrhaeddyd,
Ar ol ein cân, heb geisio cêl,
A ddwedo'n uchel,—'Iechyd.'"

Yr oedd Edward Morris yn cydoesi a'r Hen Ficer, a John Bunyan, a John Milton. Cyfansoddwyd "Canwyll y Cymry," "Taith y Pererin," a "Choll Gwynfa" yn ei amser ef, tra y tramwyai rhwng Cerrig y Drudion ag Essex, man ei eni a man ei fedd. Ceir aml darawiad o'u Puritaniaeth hwy yn ei ganeuon. Y mae'n troi'n bregethwr hyawdl yn ei "Gywydd Meddwdod"; dywed, wrth ddarlunio wyneb y meddwyn, am "yfed iechyd da,"—

"Dan dy drwyn gwenwyn i gyd
Yfi, achos afiechyd;
Trwyn perlog mawr, gwerthfawr gŷn,
Mor euraid a marworyn;
Tanbaid yw'ch llygaid, ŷch llôg,
Gloew gochion, ac ael guchiog;
Delw'r Tad, dileuwyd hi,
Gwarth wyneb, a gwrthuni;
Aflendid newid yn ail,
Dan yfed, i anifail."

Ond, fynychaf, darlunia dlysni'r byd hwn. Gallwn dybio iddo roddi llawer o amser i wylio

rhodiad a bywyd y paun. Ail gyfyd hen ddarluniau,—

"Noblau cost yn ei blu cain,
Planedau 'mhob blaen adain."

Ond rhydd ddarlun llawer mwy newydd,—

"Lliw perffeth, a lliw porffor,
Lliw tân a mellt, lliw tonn môr."

Darlunia'r march du carlamus, a'r tarw—"crug ym min craig y mynydd,"—yn berffaith; oherwydd gwyddai am danynt hwy, a'u holl nodweddion, yn dda. Ond ei ganeuon rhydd melodaidd, gydag ambell darawiad cyfrin ynddynt, sy'n gwneyd i feddylwyr yr oes hon ei hoffi.

Edrychasom dro ar gartref tawel y porthmon llenyddol, tra'r cornchwiglod yn ehedeg yn y gwynt oedd yn codi uwch ein pennau erbyn hyn. Prysurasom ymaith, gan dorri ar draws cloddiau a chaeau,—Enid a'r cwbl,—o'r hen ffordd i gyfeiriad y ffordd newydd. Toc daethom i le gwastad fu unwaith yn gors, ac yr oedd afonig fechan yn crwydro trwyddo, fel pe'n hwyrfrydig i'w adael ac yn awyddus am ei wneyd yn gors fel cynt. Yr oedd cefn ty atom, troisom am ei dalcen, a chawsom ein hunain mewn buarth a beudai o'i gwmpas. Curasom wrth ddrws isel y ty, gan syllu ar lun carw, a dwy lythyren, a'r dyddiad 1703 uwch ei ben. Daeth gwraig radlon groesawus i'r drws.

"Beth yw enw'r lle hwn?"

"Glan y Gors."

Ie, dyma gartref un o feibion mwyaf athrylithgar Cymru, ond oedd yn rhy bell o flaen ei oes i gael ei ddeall. Nid wyf yn sicr a ddeallid ef hyd yn oed yn awr, pe ceisiai rhywun alw sylw ato. Fel cauodd Dafydd Ionawr ei ddrws yn ei wyneb, felly y cauodd Cymru ei drws rhagddo hyd yn hyn. Swynwyd ef, fel y swynwyd Fox a Wordsworth ac ereill, gan amcanion y Chwyldroad Ffrengig,— rhyddid, cydraddoldeb, brawdgarwch. Darllennodd hanes yn ddyfal, dadblygodd y ddawn oedd ynddo at watwareg,—ac ysgrifennodd y Seren tan Gwmwl. Ond, dan ei holl watwar a dirmygu, y mae ystor o gydymdeimlad â'r gorthrymedig, a difrifoldeb y gwir wleidyddwr.

Y mae'r ty hwn, yn ol pob tebyg, yn union fel yr oedd pan ofnai Jac y gors. Ar y chwith o'r drws y mae grisiau trymion yn arwain i'r llofftydd, ar y dde y mae'r gegin. Ystafell fawr yw hon, ar draws y ty, a ffenestri ynddi, wyneb a chefn. Uwchben y simdde hen ffasiwn y mae dau gleddyf allasent fod wedi gweled y Rhyfel Mawr; arhosant yn y ty trwy bob newid tenant. Gŵr y cleddyf oedd y gŵr a fagwyd yma; a hawdd y gallasai gofio, wrth ddal cleddyfau Cyfiawnder a Chydraddoldeb, am hen gleddyfau ei gartref.

Y mae Glan y Gors a'r Perthi Llwydion mor agos i'w gilydd fel y deuant i'r un darlun.[1] Ganwyd Edward Morris a John Jones ar adegau tebyg,—adegau chwyldroad a rhyfel. Yr oedd y ddau'n borthmyn ac yn wladgarwyr, crwydrodd y ddau i Loegr, mae'r ddau'n huno ymhell oddiyma. Hoffodd y ddau Gymru â hoffder angerddol; canodd y naill fawl yr Awen Gymreig, rhoddodd y llall warth bythol ar Ddic Sion Dafydd. Ac eto yr oedd y ddau yn anhebyg iawn i'w gilydd. Nid ymserchodd Edward Morris ddim yn chwyldroad ei ddyddiau ef. Ni chanmolodd Gromwell, llawenhaodd pan adferwyd Siarl yr Ail, canmolodd y Saith Esgob, a'i weddi oedd,—

"Ac nato Duw cyfion i'm tafod na'm calon
Wrthwynebu mo'r union wirionedd."

Pur wahanol fu croesaw Glan y Gors i'r Chwyldroad arall, gan mlynedd wedyn. Yn y Chwyldroad Ffrengig gwelodd ef wawr cyfnod rhyddid dyn. Condemniodd frenin ac uchelwr yn ddiarbed; ffieiddiodd y gwasaidd bradwrus. Galwodd sylw at gam gwerin Cymru. "Gwell gennyf," efe a gyhoeddodd, pan mewn ofn carchar, "farw yn ddyn rhydd na chael yr anglod o fyw'n ddistaw yn gaethwas dan rwymau gorthrymder."[2]

Mewn ychydig funudau croesasom o'r ty i ffordd Gaergybi. Yr oeddym yno ennyd o flaen y cerbyd oedd i'n cyfarfod, a chawsom hamdden i edrych ymlaen ac yn ol. O'n blaenau rhedai ffordd Gaergybi am ychydig bellder i fyny rhiw, gan golli o'r golwg ar ei ben. Yn union wedyn ceir uchder eithaf ffordd Gaergybi yn ei holl hyd, sef 908 troedfedd, ar gyffin rhediadau Dyfrdwy a Chonwy. Yn ol rhedai'r ffordd fel saeth i lawr i'r Cerrig. Codai a gostyngai,—weithiau diflannai y cerbyd oedd yn dyfod draw yn ei dyblygion,—ond i'r llygad nid oedd ond llinell wen unionsyth. Ar y dde, wrth edrych i'r Cerrig, y mae Clust y Blaidd a'r llethrau sy'n gwahanu afon Llaethog oddiwrth afon Ceirw. Ar y chwith y mae gwastadedd fu unwaith yn gorsiog, a da i'r hwn hoffai gerdded yn droedsych fod yr hen ffordd i fyny ar ochr y bryn. Ar y gwastadedd hwn saif Glan y Gors, a chefnau'r adeiladau i'r ffordd, ac yn cuddio wyneb y ty ond ei gorn simdde unig. Ychydig yn uwch i fyny, ac yn nes at y Cerrig, gwelir toau gleision y Perthi Llwydion. Gwlad o drumau esmwyth ydyw'r wlad, o amlinellau meddal hyfryd i'r llygad. Ehangder o rosydd a mynydd-dir ydyw, wedi ei thrin a'i gwrteithio yn dda. Er mai gwag, o'i chymharu a'r peth fu, yw y ffordd ardderchog sy'n rhedeg trwy'r ardal, y mae gwedd lwyddiannus yn aros ar y wlad.

Ond dyma ni oll yn gysurus yn y cerbyd. Y mae adgof am chwerthiniad iach yn dod i'm meddwl. O, 'rwyf yn cofio. Lawer blwyddyn yn ol yr wyf yn cofio myned heibio Glan y Gors mewn cerbyd gyda Dr. Edwards y Bala, ac yr wyf yn cofio chwerthiniad iach yr hen dduwinydd wrth adrodd y gerdd lle mae Jac yn dweyd hanes y person meddw yn sir Aberteifi roddwyd ar ei farch a'i ben at y gynffon,—

"O gwelwch y wyrth wnaeth yr Arglwydd â myfi,
Fy ngheffyl i'n fyw a'i ben wedi dorri."


Y mae'r gwynt wedi troi i'r de, eto'n oer, ac y mae clog o wlaw llwydwyn yn dechreu gorchuddio'r mynyddoedd draw. Trwy'r niwl cawn olwg ar Blas Iolyn, cartref Tomos Prys, a chipolwg ar y Giler, cartref Robert Price, prif farwn y trysorlys dan William III.

Disgynnwn yn raddol i ardal goediog a rhamantus Pentre Foelas. Y mae pobl y wlad yma yn lluoedd mewn cynhebrwng, ac y mae tinc brudd y gloch yn dyhidlo galar dros y fro. Ac yn fawreddog iawn yr ymgyfyd, mewn bas a thenor, hen eiriau cysegiedig,—

"Ar lan Iorddonen ddofn
'Rwy'n oedi'n nychlyd."

Y mae cartrefi ereill o'n blaenau,—cartref awdwr yr emyn y mae ei swn eto yn ein clustiau, cartref cyfieithydd y Beibl, cartref tywysog pregethwyr Cymru. Ond y mae'r nos a drycin yn dod. Trown yn ol, a rhedwn yn gyflym i'r Cerrig, a'r dymhestl i'n cefnau. Wedi cwpanaid o de ac ymdwymno'n gysurus, dringasom drachefn hyd ffordd y Bala, rhedodd Sanspareil yn chwim trwy'r man-wlaw oer hyd y ffordd uchel, a rhedodd o'i fodd i lawr tua chartref. Gadawsom y mynyddoedd a'r ddrycin o'n hol, a chawsom daith gysurus ar y gwastad gyda glannau Llyn Tegid, oedd yn gorwedd yn dawel dan oleu gwan y lloer.

Nodiadau golygu

  1. Gweler gwyneb-ddarlun GWAITH EDWARD MORRIS. (R. E. Jones, Conwy).
  2. Cyhoeddir cyfrol o WAITH GLAN Y GORS gan R. E. Jones a'i Frodyr, Conwy, am 1/6. Casglwyd a golygwyd y gwaith gan Garneddog.