Tro Trwy'r Wig/Carwriaeth y Coed
← Bore Teg | Tro Trwy'r Wig gan Richard Morgan (1854-1939) |
Crafanc yr Arth → |
CARWRIAETH Y COED.
Gwelw-felyn ydyw'r coed,
Gwelw, gwelw, fel eu hoed;
Ond er cwympo'r dail yn wyw,
Y mae'r brigau eto'n fyw;
Gwelir eto fywyd ail
Yn blaguro yn y dail.
—Glasynys.
EBRWYDDED yr a blwyddyn heibio! Gyflymed y treigla'r tymhorau! Ehedant ymaith megis breuddwyd, megis gweledigaeth nos; ciliant fel cysgod ac ni safant. Bu Hydref, a Gaeaf, a Gwanwyn er y buom drwy'r wig ddiweddaf. Mae'r Haf braf ar ddarfod, ac, unwaith eto, wele ni ar drothwy yr Hydref.
Mae'n awr anterth—ymlwybra Brenin y Dydd mewn gwybren loew. Dring mewn urddas i'w orsedd yn yr entrych, a lleinw ei odrau dem Natur. Nid oes cymaint ag ysbryd cwmwl i bylu ei ysblander. Tywallt ddyli o oleu ar ddol a mynydd. Rhydd wisg o wawl ar lesni'r borfa; gloewa rigolau'r glaswellt; a gwna fân enfysau o ddefnynnau'r gwlith. Tywynna ei ogoniant fel flam ar geinder y blodau. Gwna ffluron yr eithin yn ffloew euraidd, a glâs y grug yn ffaglau eirias. Goreura edyn y gwybed sy'n chware yn ei belydr; gleinia hadau adeiniog yr ysgall; a theifl ar fain-linynnau yr eurwawn hilyn arian.
Yr ydym ar bwys y wig. Awn iddi. Dyma ni yn ymyl helygen grynddail wrryw, friglydan, liosgainc. Gwelsom hi, os ydych yn cofio, yn gynnar yn y gwanwyn, dan goronbleth o flodau aurfelyn, pan nad oedd ei dail onid blagur tyner enhuddedig. Mae'r blagur hynny, erbyn heddyw, yn ddail rhychog—wedi heneiddio ac yn disgyn yn ddiymadferth,—un yma ac un arall acw, gan wegian a chrynnu, ar ddeilgangau y rhedyn cringoch sy'n amgylchu y lle. Ddistawed yw dan gysgod y pren! daweled! Ymleda y brigau fel cromen oddiarnom! Nid ysgog yr osglau ystwyth bwaog gan esmwythed yw'r hin—yn unig plygant i gusanu aeron cwrel y farch-fieren, a chyrawel ysgarlad yr ysbyddad sy'n tyfu ar y cyfyl.
Mae dail yr helygen, fel eiddo coed ereill, i'w cael ar y brigau dyfodd yr un tymor a'r dail eu hunain. Mannir y rhannau ôl o'r cangau gan aml i ddyfngraith—olion hen-ddail blynyddoedd fu. Ond i ni sylwi, cawn fod blagur, tebyg o ran maint, a lliw, a llun i wenithrawn ir, heb gwbl aeddfedu, wedi ymffurfio eisoes yng nghyswllt y dail hen a'r cangau ifeinc. Ymddengys y bywyd newydd hwn i mi fel pe yn gwneyd ei oreu, drwy gyfrwng yr ysgewyll bonbraff a blaenfain, i wthio yr hen dros erchwynion y cangau. Ceir bywull cyffelyb ar goed ereill y wig, ond nid mor fawr a blaenllaw eto ag eiddo'r helygen. Duon fel ebon yw impynau yr onnen, gwyrdd yw rhai y fasarnen, a llwydgoch yw eiddo y gollen a'r pren ffawydd. Felly gwelwch y cenhedlir gynared a hyn—yn nechreu yr hydref—rithion y bywyd llysieuol a ffynna yn ystod y gwanwyn sy i ddod. Cwsg y rhithflagur hyn drwy fisoedd y gaeaf, ac mor gywrain a chelfydd yr enhuddir hwynt; mor glos a diogel, a diddos yw eu hamwisg; ac mor glyd yw eu glythau, fel nas gall nac oerwynt, nacMASARNEN.
Cangen a Ffrwyth.
eira, na barrug, na holl osgordd adwythig y gaeaf eu difa na'u difwyno.
Ond âg egin yr helygen y mae a wnelom yn bresennol. Tynnwn un o honynt o gesail y ddalen ac archwiliwn ef. I'r diben yma daliwn ef rhwng bys a bawd ac, âg ewin y bawd arall, agorwn, gyda gofal, odrau y gyfanwisg wydn allanol. Gwasgwn ychydig ar ei thop, ac, wele, llithra o honi, yn gnepyn llathrwyn, y peth tlysaf a delaf a welsoch erioed. Dyma fe ar gledr fy llaw. Edrychwch arno. Onid yw fel perlyn gorlyfn neu ddafn aflonydd o arian byw? Beth ydyw? meddwch. Wel, dyma un o flodau'r helygen yn ei fabandod, newydd ei dynnu o'i gryd, a'i ddillad magu—ei infant robes—yn rhwym am dano. Craffwch arno a chewch ei fod wedi ei orchuddio drosto â thrwch o arianflew deced a'r eurwawn ac esmwythed a'r pali. Drwy y mwyadur ymddengys y gorchudd hwn fel gwynwallt henwr neu gnu cân y ddafad. Eto, tynnwch eich bys yn ysgafn dros y blodyn, o'r blaen i'r bôn, a chwyd amryw o ddail bychain cafnog i fyny o flaen eich bys, a neidiant yn ol yn hydwyth pan dynnwch eich bys i ffwrdd. Tardd y mân ddail hyn o waelod y cnepyn a chauant am dano fel hulingau gwyn-wlanog i'w ddiddosi. Dyma i chwi ofal am faban-flodyn helygen!
Mae ugeiniau o egin ar bob cangen. Gan eu bod i oroesi gerwinder y gaeaf, amgauir hwy —a'u blew—glogau ym mhlyg am danynt rhwng gwerchyrau awyrdyn eu celloedd, a chysgant yno, fel y crybwyllasom eisoes, tra pery yr oerfel. Pan anadla ysbryd y gwanwyn arnynt, ni fydd hualau a'u dalia yno. Ergrynant gan guriadau bywyd, cilia eu syrthni, ac ymwingant yn eu gwelyau. Yn union deg dechreuant dyfu, cynhyddant, ymchwyddant, torrant drwy barwydydd eu carchar, a chan ymwthio drwy haenau a phlygion eu gwenwisg, ymagorant, fflachiant yn flodau,-ar y cyntaf fel cnapiau o arian, yna o aur, a bydd amlycach na'r dderwen sythfalch yr wyl helygen grymedig!
Helygen wrryw? A ydyw hyn yn golygu fod helyg benywaidd? Ydyw. Gadewch i ni egluro. Fel hyn. Mae planhigion yn byw, yn bwyta, yn yfed, ac yn tyfu. Carant, priodant, rhoddant i briodas, a chodant deulu. Eu plant yw yr hadau, cynnyrch tad a mam. Chwi gofiwch, canys dywedais wrthych o'r blaen, mai blodau yw organau adgynhyrchiol planhigion. Unig swyddogaeth y blodau yw cynhyrchu had. Mae eu ffurf, a'u harogl, a'u lliwiau ysplenydd, a'u cwbl, yn gynorthwy iddynt gyflawni eu gwaith pwysig yn llwyddiannus.
Yn y dosbarth lliosocaf o blanhigion, mae y gwrywaid a'r benywaid—y tadau a'r mamau yn byw yng nghwmni eu gilydd—dan yr enwau briger a phelydr—yn yr un blodyn, fel teulu cymysg o wŷr a gwragedd yn preswylio dan yr un to. Caru? Gwnant. Fuoch chwi 'rioed yn sylwi yn y blodyn deuryw, fel y gwylia y briger eu cydwedd fenywaidd, ac y moesymgrymant, ar droion o'i hamgylch, i dalu iddi warogaeth o serch? Welsoch chwi hithau yn codi neu ostwng ei phen, yn ol fel bo'i thaldra, i dderbyn o gusanau ysgeifn y briger?
Mewn dosbarth llai, ni chymysgir y rhywiau, ond triga y gwrywaid gyda'u gilydd—fel clwb o hen lanciau—heb fenyw yn eu plith, mewn un blodyn; a'r benywaid gyda'u gilyddfel clwb o hen ferched—heb wryw yn eu mysg, mewn blodyn arall. Gelwir y ffluron nad oes iddynt ond briger yn unig yn flodau gwrywaidd; a'r rhai nid oes iddynt ond pelydr yn unig yn flodau benywaidd, i'w dynodi oddiwrth y blodau deuryw y gwullion gwryw—fenywaidd (hermaphrodite)—welir yn y mwyafrif mawr o lysiau y maes.
Yn aml ceir y blodau gwrywaidd a'r rhai benywaidd yn preswylio ar wahan ond ar gangau yr un pren, fel mân gymdeithasau o wŷr a chymdeithasau o wragedd yn byw, fel y cyfryw, yn yr un pentref ond nid yn yr un tai. Esiamplau o hyn yw y gollen, y fedwen, a phidyn y gog. Pryd arall ceir y blodau gwrywaidd a'r blodau benywaidd ar brenau gwahanol fel clybiau o ddynion yn byw mewn pentref yma, a chlybiau o ferched yn byw mewn pentref arall ac heb gysylltiad yn y byd rhwng y pentrefi a'u gilydd. 'Rwan, sylwch. I'r math olaf yma y perthyn yr helyg. Gwrywaidd yw yr helygen yma sy'n taflu ei changau drosom. Benywaidd yw honacw welwch chwi draw. Ganfyddwch chwi ryw ragor rhwng y ddwy yrwan? Dim. Maent yr un fath yn union yn eu hagwedd, a'u dail, a'u hosgo. Ond pan agoro'r blodau yn nechreu Ebrill bydd y gwahaniaeth yn amlwg i bawb. Bydd pob blodyn ar hon yn dwryn o friger, neu ermigau gwrywaidd-felyned a'r aur; a phob blodyn ar honacw yn grugyn o belydr neu organau benywaidd—loewed a'r arian. Nid dillynach yw brieill a mill Ebrill a Mai na'r helygen gadeiriog dan goron o flodau.
A ydych chwi'n cofio ystori Priodas y Blodau? Dywedais wrthych yn y stori honno, pan yn son am ddail suran y gog, fod yn rhaid i baill yr ermigau gwrywaidd gael ei ddwyn, drwy ryw foddion neu gilydd, i gysylltiad—i gyfyrddiad â rhannau arbennig o'r organau benywaidd er ffrwythloni'r olaf a chynhyrchu o honynt had. 'Rwan, pa fodd y trosglwyddir paill yr helygen wrryw yma, dyweder, i belydr yr helygen fenyw acw, sy encyd o ffordd—led cae-oddiwrthi? Pa fodd y gweinyddir y briodas? Hoffech chwi wybod? Gwrandewch ynte. Ar ddyddiau heulog yn nechreu gwanwyn, pan fo'r briallu, a'r anemoni, a'r milfyw allan, a'r helyg hyblyg yn eu llawn flodau, gedy y gwenyn gwâr eu cychod, a'r gwylltion eu tyllau, lle llechent y gaeaf. i geisio lluniaeth 'rol hir ympryd. Gwyddant fod ym mlodau'r helyg fara a mêl iddynt; ac, a hwy yn newynog, aroglant yr arlwy o bell. Hedant yma, hedant acw; a daw lluoedd o honynt dan ganu i'r goeden hon. Gwibiant rhwng y cangau; suo-ganant; disgynnant ar y blodau, a chasglant o'r paill—canys dyna eu bara hwynt—ond cymaint sy o hwnnw ym mân gydau'r briger, fel y syrthia, megis aurdywod, ar sidanflew eu brithwisg, a glyna yno. Yna, a'r llwch yn drwch ar eu gwisg, ehedant, ond odid, i'r goeden fenyw i hel mel o'i blodau. Tra yno'n ymdroi, yn naturiol, syrth peth o'r paill sy'n britho eu blew ar rannau gludiog, sensitive, y pelydr benywaidd, ac wele, dyna y cyffyrddiad wedi cymeryd lle, dyna y briodas wedi ei gweinyddu drwy gyfrwng y gwenyn prysur min felus.
Tariasom yn hir yma. Bellach symudwn ymlaen gydag ymyl y gwrych. Ganol haf eurfrithid y carped lle cerddwn gan flodau claerlyfn crafanc y fran. Amled oeddynt a llygaid y dydd. Erbyn heddyw, o'r teulu mawr a lliosog hwn, nid oes yn weddill namyn ychydig o aelodau unig ac amddifaid. Dyma un o honynt ar y gair, yn ffynnu ar ochr y clawdd, dan gysgod y gwrych. Welwch chwi ef? Er colli o hono ei geraint, eto nid yw wedi ei lwyr adael, canys y mae iddo yn gymdeithion o'i gylch, flodau hygar o lwythau ereill, nid amgen y goesgoch, a'r greulys, a chlychau'r eos, ac amryw ereill o flodau'r hydref.
Ond gadewch i ni gymharu blodyn y llysieuyn yma â blodau yr helyg. Gwneir coronig hwn i fyny, fel y gwelwch, o bump o fflurddail llathrfelyn. Ym môn pob fflurddalen mae melgell (nectary), a llabed bitw fechan—gellir ei gweled drwy y chwyddwydr ond plicio y ddalen ymaith yn cau yn dynn am dani er diogelu y Sylwch ym môn y fflurddail, fel rheol, y lleolir melgelloedd blodau crafanc y fran. Ceir eiddo yr helyg wrth waelod yr hadlestri (ovaries). Edrychwch eto. Yn union yng nghanol y blodyn mae llygad bychan lased a'r asur uwchben. Dyna yr organ fenywaidd. syllwn arni drwy y gwydryn yma canfyddwn ei bod yn gyfansoddedig o nifer o gnepynau gorfychain neu fân gelloedd eisteddog wedi eu pacio yn dyn i'w gilydd. Mae pob un o'r celloedd hyn yn amgau egwyddor hedyn, a hwnnw drachefn yn cynnwys rhith eginyn a ddadblyga dan amgylchiadau cyfaddas yn llysieuyn crafanc y fran. Welwch chwi, dyma flodyn ar gangen arall yn y fan yma yn ymffurfio yn ffrwyth. Mae y flodamlen, a'i goronig, 'rol darfod eu gwaith, wedi syrthio ymaith; mae y briger wedi hen wywo; ac nid oes yn aros ond swp o ffrwythelau (carpels) blaenfeinion, bachog bwaog, ar gopa y fflurgoes. Deuwn yn ol eto at y blodyn cyntaf. Ogylch y paladr, yn rhengau, fel pe yn ei hamddiffyn, mae bagad o friger a'u paill-gydau hirion yn dechreu arllwys eu cynnwys yn gawodydd aur ar rannau ereill y blodyn. Yma, gan hynny, ac yn wahanol i'r helyg, mae y gwrywaid a'r benywaid yn byw gyda'u gilydd yn deulu cryno, comfforddus, cariadus megis o dan yr un gronglwyd glyd a diddos. "Felly," meddwch, "medr y blodyn yma ffrwythloni ei hun, am y gall y paill syrthio o'r briger ar gnepynau y paladr sy'n trigo gerllaw iddynt; ac nid oes angen cyfryngau i gario yr elfen fywiol o'r naill flodyn i'r llall." Na, nid fel yna yn hollol. Dywedodd un naturiaethwr enwog[1] nad yw Natur yn dewis i flodyn perffaith gael ei ffrwythloni gan baill o'i friger ei hun. Mae briger a phelydr yr un blodyn yn. gyfneseifiaid yn frodyr a chwiorydd; felly mae'r berthynas yn rhy agos i'w hundeb allu cynhyrchu hadau bywiog a ffynadwy. Fel rheol ond. y mae eithriadau—ffrwythlonir pelydr blodyn deuryw gan baill o friger blodyn arall, o'r un rhywogaeth, wrth gwrs. Gelwir hyn yn groes-ffrwythiant. Fel y mae ym myd yr anifeiliaid, ac yn nheulu dyn—mae cymysgu gwaed yn fuddiol yno—felly hefyd yn y deyrnas lysieuol. Tuedda croes-ffrwythiant i gynhyrchu hadau, a blagur, ac epil, a ddaliant eu tir yn yr ymdrech fawr am fodolaeth-yr ymdrechia ryfedd, gyfrin, ddidrugaredd honno sy'n araf a dygn ymweithio, sy'n troedio'n uchel falch, os mynnwch, drwy fywyd y cyfanfyd.
Wel," meddwch unwaith eto, os nad yw Natur yn dewis i'r blodyn yma ffrwythloni ei hun, ac efe yn flodyn deuryw, beth sy yma i rwystro hynny, a pha fodd y dygir y croesffrwythiant y soniwch am dano oddiamgylch?" Mae yma ddarpariaeth gywrain i'r perwyl, a dyma hi.
Ym mlodyn crafanc y fran—canys â hwn y mae a fynnom yn bresennol—nid yw y gwrywaid a'r benywaid yn aeddfedu gyda'u gilydd, hynny yw, nid ydynt yn cyrraedd oedran priodas yr un adeg. Daw y briger i'w hoed yn gyntaf, ac yna y pelydr encyd ar eu holau. Yn ieuenctid y blodyn, pan egyr ei aur-lygaid gyntaf, y gwrywaid yn unig sy'n aeddfed. 'Rol gwywo o honynt hwy, a'r blodyn yn gyflawn o ddyddiau, yna daw y benywaid hwythau i gyflwr o aeddfedrwydd. Wel, 'rwan, lle bynnag y gwelir toraeth o'r ffluron hyn bydd y naill hanner o honynt yn y sefyllfa wrywaidd, a'r hanner arall yn y sefyllfa fenywaidd. Dyna hwy felly, i bob diben ymarferol yng nglyn â'u priodas, yn yr un cyflwr yn union a blodau yr helyg, hynny yw, mae eu rhannau ystlenol ar ffluron gwahanol, bellter mwy neu lai oddiwrth eu gilydd. Felly mae'n rhaid wrth gyfryngau allanol yma eto er trosglwyddo'r paill o friger aeddfed blodyn ifanc i belydr aeddfed blodyn hynach. Beth yw y cyfryngau yn yr achos yma? Ai y gwenyn? ai y cacwn? ai ieir bach yr haf? Prin. Dewisant hwy, pan fo amlder blodau ar y ddaear, ymweled â'r gwullion gleision a chochion, a phorffor. Gadawant y gwaith. o ffrwythloni blodau melynion i'r gwibed, a'r cylion, a'r cler, a'r chwilod. Disgyn y rhai hyn ar flodau crafanc y frân i chwilio am y melusfwyd, cludant y paill ar eu traed, a'u blew a'u pennau o'r naill flodyn i'r llall,—fel y gwna'r gwenyn ym mlodau yr helyg, a chânt ddyferyn o fêl o fonau'r fflurddail yn dâl am eu poen. A dyna y modd y croesffrwythlonir tylwyth helaeth yr egyllt. A ydych wedi dilyn y stori?
Mae tranc y dail plufog-coronbleth brydferth y pren-yn ymyl. Yn wir, mae wedi dechreu eisoes, fel y gwelsom. Gwelir dail gwyw o liw'r aur dilin a'r ambr gloew yn amliwio ymylon y deilwaith. Edrych y goeden sy draw, gan amlder ei melynddail, yr un ffunud a phe byddai ysblander melynwawr y tes yng nghlwm am dlysni yr emerald. Ond berr yw einioes prydferthwch. Yn raddol llacia'r gwywddail eu gafael o'r gainc a'u dygodd. Cyn hir cwblheir yr ysgariad, a sigl-syrthiant gyda rhugldrwst i'w beddau rhwng y manwydd wrth fôn y pren. Ymhongia ac ymlaesa eu cyfoedion a'u goroesant yn drist a chrebach ar y cangau, a llithra'r gwlith oddiarnynt, fel dagrau hiraeth yn hid i'r llawr. Daw eu tro hwythau yn fuan, liaws mawr o honynt eto yn irleision ar y pren. Barrug unnos â'i oerfin a'u deifia, ac, erbyn y bore, ni bydd pren, namyn y bytholwyrdd, a'r nis dihatrer, a bydd ardderchawgrwydd y goedwig yn llanastr dan draed. yr awelon i oer wylo am rai a fu gu ganddynt; a bydd swn hiraeth yng nghwynfan y gwynt. Crwydrant yn athrist rhwng y cangau, lle bu'r dail, fel pe yn chwilio'n bryderus am danynt, ond lle y dail nid edwyn ddim o honynt hwy mwy, ac nid erys yno onid creithiau'r ysgariad yn unig.
Nodiadau
golygu- ↑ Sprengel.