Tro Trwy'r Wig/Crafanc yr Arth

Carwriaeth y Coed Tro Trwy'r Wig

gan Richard Morgan (1854-1939)

Telor yr Helyg

CRAFANC YR ARTH.

The north-east spends his rage; he now shut up
Within his iron cave, the effusive south
Warms the wide air . . . . . . .
Not such as wintry storms on mortal shed,
Oppressing life; but lovely, gentle, kind,
And full of every hope and every joy
The wish of Nature.—Thomson.

"TRI pheth," medd y wireb, "anhawdd eu nabod,—dyn, derwen, a diwrnod." Dywed hen air arall,—"Nid y bore y mae canmol diwrnod teg." Digon gwir, os digwydd i hwnnw fod yn un o foreuau Chwefrol afrywiog. "Praise a fair day at night," ebe'r Sais yn eithaf priodol. Ond boed hynny fel y bo, mae'n fore braf heddyw. Mae'n fwynder haf yn nyfnder gaeaf.

Mis troiog, trystiog, rollicking, fel rheol yw Chwefrol. Yrwan, a'r flwyddyn yn ieuanc, nwyfus a gwantan yw Natur fel hogen benchwiban. Fynychaf hi chwery mewn afiaeth â'r Gaeaf er garwed ei drem a thaioged ei dymer. O hir gyweithas â hwnnw, yn sydyn rhydd hoewlam o'i afael, a phletha ei breichiau yn glwm am fwnwgl y Gwanwyn, a thros ei ysgwydd teif winciad ddireidus ar swynion yr Haf ymrithia encyd oddiwrthi yng nghaddug y pellder.

Ie, mis gwamal ac oriog yw Chwefrol. Rai dyddiau yn ol rhuthrai'r storm bygliw yn orddig o ororau eiryog y gogledd dros frig y Foel Famau. Lledodd ei hedyn lliw'r ebon, fannid gan blu gwyngan yr eira, dros lesni yr awyr. Taranai'r mynyddoedd, ac udai cilfachau y glyn. Yng ngosgordd y storm terfysgai y gwyntoedd. Ysgubent mewn rhwysg dros brysgwydd y wigfa; mwngialent yn flwng rhwng mein-gangau y bedw; hysient fel seirff ym mhreiff-osglau y masarn; dyruent yn groch rhwng colfennau y deri. Aruthr oedd stwr rhuthr y storm!

Ymostegodd y dymhestl honno. Drannoeth rhuai oerwynt y dwyrain. Pwy na rynnai gan fin ei erwinder? Er sefyll o honof yn llygad yr haul, a'i wres fel tes Mehefin, 'rwyn crynnu yrwan, 'rwy'n teimlo'r erwinrew wrth feddwl am dano. Ydych chwi'n cofio? Och fi! Taenai ei lwydrew fel mân ludw, ledled yr awyr. Bwriai ei ia yn dameidiau. Brigau y gwydd a wisgai â barrug. Ei ffun oer a fferrai wlithwlaw'r ffurfafen.

Ond heddyw, welwch chwi mor braf ydyw? Treiglwyd ymaith dros gaerau'r terfyngylch lenni huddygl-liw y cymyl, a gloewed yw'r entrych yrwan a gwawl y saphir. Ymrithia cymyl bychain ysgafnwyn, fel blaenau edyn angylion, drwy'r ysplander, ar y naill du i'r haul, pasiant yn rheng heibio ei wyneb, gwisgir hwy ganddo ag arian, a chiliant, o'r tu arall iddo, yn ol i ogoniant dwfn y nefoedd. Rhyngom a'r wybr, a'r haul ar ein cyfer, saif prennau'r wig yn eu prydferthwch gaeafol noethlwm. Delweddir hwy—in relief—yn belydr, cangau, brigau, a blagur ar lesni digymar y nefoedd. Fuoch chwi erioed yn sylwi ar gysgod pren ar wyn yr eira ar noson loergan? Nid harddach y cysgodlun—y silhouette—rhwydweog hwnnw na delw'r coed ar len yr awyr ar fore heulog fel heddyw.

ADAR EIRA.

Chwyth awel y de, fel anadl haf, dros drumau y Berwyn. Dan ei chyffyrddiad hudolus ymsiriola cangau llwydwawr y wig, ac anesmwytha rhithion y blagur yn niddosrwydd eu cenwisg. Ymwthia dail pidyn y gog, a'r danadl, a bresych y cwn, a blodyn y gwynt, a'r briallu, a'r mwsglys, a'r fioled, drwy'r mwswgl yng nghysgod y llwyni i ddathlu ymweliad cyntaf yr Awel feddal felfedaidd. Ymbincia yr adar beilchion, a thrwsiant eu plu er ymgyplysu. Mae dwy frongoch yn y llwyn o'm blaen yn ymgytwaith, ac yn ymgiprys yn serchog fel rhai fai'n dechreu caru. Gwelant ni a hedant yn yswil i unigedd suol y wig i,—wel, i chware mewn afiaeth yn ol hen arfer cariadon. "Twit! Twit!" Dyna'r deryn coch yn galw ar ei gydmar. Twit!" "Tw-i-i-t!" Glywch chwi'r llall yn ei ateb? Daw'r cornchwiglod siobynog yn ol o wastadlawr y Dyffryn i'r bryniau awelog i nythu. Mae dau o adar yr eira yn sefyll, y naill ar simdde, a'r llall ar glochdy yr ysgol, yng ngolwg y twll yn nhalcen y ty, lle nythent llynedd. Hed un o honynt iddo. Dacw fe allan drachefn ac yn uno â'i gydwedd sy erbyn hyn yn switan, ac yn chwiban, ac yn ymwingo'n aflonydd ar gangau yr onnen gyfagos. Glywch chwi serchgogor cleberog y ddau?--rhyw gymysgedd rhyfedd ydyw o drydar, a ffrillio, a chlwcian, a gwichio, yn cael eu dilyn gan swn fel clec-clec-clec cyfres wyllt o gusanau, neu drwst dwr yn bwr-bwr-bwrlwm yng ngwddw costrel. 'Rwan am chware! Hedant, gwibiant, llamant, piciant, o gangen i gangen, crychleisiant, pigant eu gilydd, gogleisiant y naill y llall, tra y cryna ac yr ysgryda pob plufen lefn ar eu corff gan nwyd-bleser cyforiog.

Tyn y côr asgellog eu telynau oddiar gangau yr helyg wylofus, a dechreuant gyweirio eu tannau i blethu odlau gobaith a chariad. Telora'r uchedydd wrth ddorau'r Nefoedd. Cân brongoch yma, cân brongoch acw. Una'r ji-binc, a'r deryn coch, a'r llinos, a'r eurbinc, a'r dryw, a'r deryn du yn y gydgan. Twit-twit-twitia aderyn y to, ysgrecha'r biogen, meinleisia'r peneuryn, a gwichia yr yswigw las fach. Clywir llais uwch na'r oll-hyfrydlais clir, perorol, proffwydol y fronfraith yn llafarganu—yn bloeddio—Shir yp! Shir-yp!!" "Mae'r Gwanwyn yn dod!" Mae'r Gwanwyn yn dod!!" a chrawcia'r brain yn yr asur oddiarnynt,"Clywch-clywch!" "Clywch-clywch!!"'

Mor siriol yw blodau hirion y GOLLEN! Maent fel gwenau ar flwng ruddiau y Gaeaf. Estyn y pren ei frigau yn uchel i ddangos i'r drain a'r mieri cylchynol degwch euraidd ei gangau; a gwthia ei geinciau drwyddynt i rannu'n garuaidd â hwy o doraeth a chyfoeth ei dlysni. Talant yn ol iddo yn fuan in kindmewn tresi gwynion o flodau Mai a thorchau gwridgoch o rosynau Mehefin.

Ym mlodau y cyll ni chymysgir y rhywiau mwy nag yn eiddo yr helyg. Cartrefa y gwrywiaid ar bennau eu hunain mewn rhai blodau, a'r benywiaid ar bennau eu hunain mewn blodau ereill. Yn wahanol i'r helygen, fiynna y naill a'r llall o'r clybiau hyn ar frigau yr un pren-megis am yr heol â'u gilydd. Tyrrau o flodau gwrywaidd yw y ffluron hirgrwn—y cynffonau[1] llywethog—y catkins melynwawr yma sy'n hongian fel cadwynau goludog ar gangau goleulwyd y cyll. Edrychwn ar un o honynt. Mae arno ugeiniau o gen neu o ddail bychain wedi eu gosod wrth eu gilydd, a thros eu gilydd yn rhannol, ar ddull peithynau neu lechau ar bennau tai. 'Mhen diwrnod neu ddau, os deil y tes, cwyd y cen eu pennau—fel y gwelwch yn y fflur henach yma-gan ddangos bagad o friger—teulu o ryw wyth gwrryw yn eistedd yn daclus a thalog ymhob un o honynt, ac ymylon y dail bychain yn plygu oddiarnynt fel bargod neu benty i'w cysgodi a'u hamddiffyn. Ysbiwch ar y cen drwy y mwyadur bychan yma. Welwch chwi, mae eu tu mewn—lle nytha y briger—wedi ei wynebu yn ddel â gwynwlan cynnes; a'u tu allan yn flewog, a durfin, a diddos fel defnydd llawban dyfrdyn. Ar hin wleb syrth y gwlaw oddiarnynt fel defni oddiar fondo, a felly diogelir y paill, egwyddor fywydol y briger, rhag cael ei olchi ymaith cyn cyflawni ei waith. Y cen yma, yng nghyd â'u briger, sy'n cyfansoddi blodau gwrywaidd y cyll. Gwahanol ydynt i flodau yn gyffredin. Nid oes iddynt na blodamlen gaead gysgodol-gwna y cen wasanaeth honno; na choronig loewdlos, aml-liw i lygaddynnu y gwenyn, a'r clêr, a'r gwybed, canys nid oes mêl ym mlodau y cyll.

Braidd y mae neb nad yw, rywbryd neu gilydd, wedi sylwi ar wullion gwrywaidd y cyll; ond anaml, mewn cymhariaeth, yw y rhai a welodd y blodau benywaidd. Gadewch i ni edrych am danynt ar un o'r cangau ifeinc yma Cawn hwy heb fod nepell oddiwrth y ffluron gwrywaidd gyferbyn a hwy'n aml ar yr un gainc. Welwch chwi yr oddfyn bychan cennog yma, tebyg i ddeil-flaguryn, a thusw o fain linynnau rhuddgoch yn tarddu allan o hono gan ledu ei frig ar gylch? Wel, dyma un o'r catkins benywaidd. Gwahaniaetha oddiwrth ei gymheiriaid gwrywaidd mewn maint—mae'n llai; ac mewn lliw—mae'n goch. Gweigion yw cen allanol yr oddfyn; ond amgaua nifer o'r cen mewnol, bob un, ddau flodyn benywaidd perffaith. Brigau gludiog a garw y pelydr yw y blewiach cochion yma, ac arnynt hwy y rhaid i'r paill syrthio er ffrwythloni rhithion y cnau sy yn yr hadgelloedd wrth fôn y pelydr. Tynnwn y sypyn ymaith a rhown ef dan y chwyddwydr mawr yma. Welwch chwi, mae'r paill yn ei foglynu'n barod, yn dryfrith drosto. Gwreichiona ac efflana'r manflawd fel eurlwch a pherlau ar borffor ysblenydd y ffluron. Gymaint o ogoniant cyfrin sy o'n hamgylch yn ein hymyl—ac mor ychydig a'i gwel! Datguddir ef yn unig i'r sawl a'i cais fel arian, ac a chwilia am dano fel am drysorau cuddiedig. Sylwch, brithir[2] y pren gan y blodau benywaidd yma. Gwridant fel gwyryfon yng ngolwg y tyrrau gwrywaidd sy'n pipian ac yn ysmicio arnynt dros ymylau y cangau.

Mae swm anferth o baill yn y cenawon gwrywaidd yma. Raid i mi ond ysgwyd y cangau'n ysgafn—dyma fi'n gwneyd felly—na ddyhidla y blodau addfed eu man-flawd—welwch chwi e'n disgyn?—yn gafod euraidd ar fy mhen —ysbiwch? 'Rwan, beth weinydda'r briodas rhwng y rhain â'r ffluron benywaidd? Beth garia y paill o'r naill i'r llall? Nid y clêr, nid y gwenyn, nid un ednogyn-fel ym mlodau yr helyg a'r egyllt-canys nid oes fêl yma, fel y crybwyllais, i ddenu y cyfryw drychfilod. Beth, ynte, yw'r cyfrwng? Y gwynt! 'Rwan ac yn y man, rhuthra gwyntoedd cryfion Chwefrol drwy'r wig, gan ysgwrlwgach, a rhugldrystio, a chwiban rhwng cangau hyblyg y prysgyll. Ysgytiant y brigau; neidia y paill, fel yn fyw, o'r fluron, chwelir a chwyrliir ef i bob cyfeiriad a syrth peth o'r llwch o angenrheidrwydd-gan y cyflawnder sy o hono-ar ermigau byw rhuddgoch y blodau benywaidd. Dyma i chwi stori carwriaeth a phriodas y cyll.[3]

Symudwn ymlaen. Rhwng y drain, a'r mieri, a'r dyrysni yn y fan yma, mae llysieuyn tirf a golygus yn ei lawn flodau, a hi eto yn aeaf. Nis gallwn nas gwelwn ef gan mor amlwg yw ei irlesni siriol ymysg cangau llwydion a diaddurn y coed a'i hanwesa. Lleinw ein genau â chwerthin, a'n tafod â chanu. Edrychwcharno. Mae fel y cip cyntaf ar yr awyr lâs pan fo'r cymylau yn ymwanafu ac yn ymwasgaru, a'r cysgodau yn cilio ar ol hir ddryc-hin. Dan gyffyrddiad yr awel onid yw ei flodau fel clychau'n canu? Onid yw ei ddail fel tafodau'n siarad? Onid ydynt yn sisial, sisial, fod y Gwanwyn yn nesu?

Wel, beth yw'r planhigyn cydnerth a gwrol a brigog yma, sy'n ffynnu fel y lawryf gwyrdd, ac yn blodeuo fel palmwydden yn nhawch, a mwrllwch, ac oerni v gaeaf? Mi ddywedaf wrthych. Adnabyddir ef wrth

yr enwau crafanc," neu "droed," neu "balf,' neu "bawen yr arth."[4] Weithiau hefyd gelwir ef yn "llewyg y llyngyr," a phrydiau ereill yn yn "llun troed yr arth."

Cliriwn ymaith y crinwydd a'r sychwellt o'i amgylch er cael gwell golwg arno. O'i droi a'i drosi cyfyd sawyr cryf ac anhyfryd oddiwrtho. Mae ei fonyn anystwyth yn dwyn ar ei risgl glasliw nodau a chreithiau dail mwy nag un tymor. Welwch chwi, mae'r dail wywodd ddiweddaf ynglŷn wrtho eto, ac er hen farw o honynt, a chrebachu, a chrino, a chori, eto, nid o'u bodd ac nid heb graith yr ymadawant hwythau, mwy na'u rhagflaenoriaid, â'r cyff epilgar a'u dygodd. Ni wywa y planhigyn hwn at y ddaear yn flynyddol fel y danadl, a'r tafol, a'r ysgall, a bysedd y cwn, a charn yr ebol, a'r ddeilen ddu dda, a siaced y melinydd, a chacamwci a chwewll y mynach, a llawer ereill allaswn enwi. Derfydd y dail yn eu tro, fel to ar ol to o ddynion, ond nid cyn ymagor ac ymddablygu o ereill i gymeryd eu lle ar y boncy ff. Felly erys y llysieuyn, yn ei fonyn a'i frig, fel pren wedi ei blannu ar lan afonydd dyfroedd, bob amser yn laswyrdd, bob amser yn siriol.

TROED YR ARTH.
Mae'r dail yn od. Tebyg i bawenau nen balfau, ac yn ymsymud yn yr awel unwedd ag ewinedd byw afonydd bwystal rhaib."

Tud. 89. 'Rwan edrychwn ar y tusw dail dyfnwyrdd sy'n tasgu allan o'r gwlyddyn, yn agos i'w frig. Hoffech chwi wybod eu hanes? Mae bywgraffiad y dail yn ddyddorol. Ganwyd hwy y gaeaf y llynedd, a meithrinwyd hwy yng nghysgod eu ceraint fuont feirw, ac yn swn lullaby lleddf yr oerwynt a siglai eu cryd wrth fyned heibio. Gwelsant enhuddo eu gwely â chwrlid purlan o eira perlog, a'i addurno â brodwaith o arian weithiwyd gan fysedd oerwynion y barrug Gwelsant law wen y Gwanwyn yn gwisgo y prysgwydd o'u hamgylch â harddwch; gwelsant yr Haf, hael ei law, yn hulio y glaslawr á blodau; gwelsant hefyd ddiosg y goedwig o'i cheinwisg gan law arw anfwyn yr Hydref. Bu stormydd dau aeaf yn curo arnynt. Erbyn hyn maent yn heneiddio. O hyn allan, fel bydd y dydd yn ymestyn, dihoenant hwy, a thua dechreu yr haf, pan fo irlas pob coeden a llwyn, a gogoniant y wig yn ei anterth, syrthiant ymaith yn swn lleddfol yr Awel, gan roddi eu lle, yn ol deddf olyniaeth, i'r dail bychain. iraidd sy'n ymwthio allan oddiarnynt gydag ynni a bywiogrwydd diflino ieuenctyd.

Mae'r dail yn od, meddwch. Ydynt. Nid yn aml a welir eu cyffelyb. Tynnant ein sylw ar unwaith oherwydd dieithrwch a hynodrwydd eu ffurf. Tebyg ydynt o ran llun ac ystum i bawenau neu balfau, a'u crafangau rhintach yn llydan agored, ac yn ymestyn allan, ac yn ymsymud dan yr awel unwedd ag ewinedd byw aflonydd bwystfil rhaib pan ar grychneidio'n chwimwth ar ei ysglyfaeth. Welwch chwi mor darawiadol yw'r tebygrwydd? Pa fardd a'i gwelodd gyntaf? Dyma paham, yn ddilys, y galwyd y llysieuyn yn balf neu yn bawen; ac yn grafanc yr arth am fod rhannau neu yspagau y dail yn hirion, ac yn ymledu yn wasgarog fel crafangan diwain y mil hwnnw pan yn symud yn araf-drwm dan bwysau ei gorff mawr afrosgo. Yn wir, mynych y gelwir llysiau ar enwau cymalau neu ermigau anifeiliaid oherwydd tebygrwydd ffansiol eu dail, neu eu ffrwyth, neu eu hadgibau, neu eu rhywbeth i'r cyfryw rannau. Glywsoch chwi son am fysedd y cwn, a barf yr afr, a chlust yr arth, a chain yr ebol, a chynffon y llygoden, a chorn y carw, a dant y llew, ac eirin y ci, a llygad yr ych, a phig y gog, a thafod yr hydd, a throed y dryw, a thrwyn y llo? Dyna i chwi dwrr o enwau diofal ar dyfolion!

Unwaith eto. Sylwch ar goesau hirion y dail. Ar eu hochr ucha maent wedi eu cafnu'n ddwin ar eu hyd, o ben i ben. I beth? Dangosaf i chwi. Gwreiddyn main, hir, yn tyfu'n unionsyth i'r ddaear, fel eiddo y moron, a'r pannas, a'r tafol sy i'r llysieuyn hwn. Un o brif swyddogaethau'r gwraidd, fel y gwyddoch, yw sugno dŵr er budd y llysieuyn. 'Rwan, er dwyn y gwlaw o fewn cyrraedd y mein wraidd hwn rhaid iddo ddafnu'n gywir uwch ei ben, hynny yw, ar y gweryd yn union wrth fôn y gwlyddyn. Ai ni lesteirir hyn gan y deilwaith clos, trwchus, a llydan yma? Na wneir. Welwch chwi, mae'r dail wedi eu panelu, a'u deilgoesau wedi eu cafnu, a'r oll wedi eu trefnu a'u cyfleu yn y fath fodd fel ag i gario ac i arwain y gwlaw i ddisgyn ar y llysieuyn, nid tuag allan, ond tuag i mewn, i gyfeiriad y gwreiddyn hirfain. Pan fo hi'n bwrw, wedi hir sychder, syrth y dyferion gan dincian, a neidio, a thasgu fel llwch gemau ar y deilwaith. Llifa'r gwlaw ar hyd y rhigolau,—dyma eu diben,—yn ffrydiau gloewon; ac i lawr y cyff yn drochion, gan ddisgyn ar y gweryd wrth ei fôn, yn y man a'r lle y gall sugnedyddion y gwreiddyn, yn fwyaf cyfleus, ei gymeryd i fyny er disychedu y llysieuyn.[5]

Hynoted yw y blodau a'r dail. Dyma nhw'n fagwy ar y brig, yn tyfu ar fflurgoes hir amlgainc, a blodyn crwn pendrwm hanner agored, neu gaead, yn coroni pob blodyn. Nid cyfuwch pob blodyn; edrychant fel pe'n sefyll, y naill ar ysgwydd y llall. Safwn ychydig oddiwrth y planhigyn. Dyna. Edrychwch 'rwan. Mor brydferth—mor striking, yw'r cyferbyniad sy rhwng gwyrdd goleu, ysgafn, gwelw y blodyn,—lliw anghyffredin ar ffluron,—-a gwyrdd dwin tywyll y dail. Mae fel gwawl ffagl yn gorffwys ar gysgod. Fel rheol, mwy ac amlycach yw'r goronig na'r flodamlen. Yn y rhan fwyaf o lysiau hi yw y rhan fwyaf showy o'r blodyn; hi sy'n pennu ei ffurf, a'i fflurddail hi harddir â lliwiau. Ei gwyn eirian hi welir yng nghloch yr eiriawl;[6] a'i choch hi wrida foch y rhosvn. Ond y mae blodyn crafanc yr arth yn eithriad i'r rheol hon. Yma y flodamlen sy amlycaf. Gwneir hi i fyny o bump o gibrannau goleuwyrdd ymylgoch, pob un, o'r tu mewn, yn wrthgrwn ac wedi ei genglu â phorffor. Ymlapiant, y naill am y llall, ac ymblygant dros eu gilydd, ac ymgrothant tua'r canol fel ag i roddi ffurf globaidd i'r blodyn pendrwm. Lle'r egyr y blodyn gil gwelwgoch ei lygad gwelir ffasgell o friger penfelyn, a'r paledryn yn y canol,yn llanw cyfwng yr ystafell gyfrgron.

Ond ple mae'r goronig? Ple mae'r fflurddail? Torrwn ymaith un o'r blodau a thrown y flodamlen i lawr am y goesig. Yn union wrth fôn yr amlen, rhyngddi a'r briger, ac yn ffurfio cylch am odre yr olaf, ac yn camu am dani, tardd cyfres o ddail bychain pibellog-dyma nhw, welwch chwi-a'u genau'n siderog, ac yn ymledu allan fel cyrn diamdlawd.[7] Dyma y fflurddail sy'n ffurfio coronig y blodyn hwn. Beth sy'n llanw y pibau ac yn disgleirio o'r tu mewn iddynt fel gloew—fel mewn diliau? Gwasgwn un o honynt yn ofalus rhwng ewinedd y ddau fawd, a llifa allan o hono ddyferyn gloew. Rhown ef ar flaen ein tafod. Mel ydyw!—O flodyn mor chwerw ei flas! Yn ddiau, o'r cryf yn aml y daw allan feluster.

Mae'r mêl, fel y crybwyllwyd o'r blaen, yn tybio—yn awgrymu—croesfirwythiant. Dywedir yr aeddfeda pelydr crafanc yr arth o flaen y briger gwrywaidd. Os felly, diben y mel yma, fel ym mlodau crafanc y frân a'r helygen, yw denu trychfilod, yn gler, ac yn rhilion, ac yn frogrug ac yn wenyn, i fod yn lateion—yn genhadon serch—rhwng gwyryfon un blodyn, a gwŷr ifeinc blodyn arall. Garech chwi weld y negeswyr hyn? Tynnwn flodyn agored arall, a lledwn ychydig ar ei flodamlen er gweled i mewn iddo. Cymerwch y chwyddwydryn yna. Ganfyddwch chwi nifer o bryfaid bychain, wedi eu britho â phaill—ysbiwch, dyna forgrugyn yn eu plith—yn crwydro'n ffwdanus ar wely o fanlwch hyd waelod y blodyn? Dyna'r llateion. Aroglasant y mêl a daethant yma i ymborthi arno. 'Rol ysu'r melusfwyd yna, symudant fel gwibiaid, a'r paill ynglŷn with rannau eu corff, i flodyn arall i geisio lloches a lluniaeth yno. Fel hyn trosglwyddant y paill o flodyn i flodyn; dyna'r llateiaeth ar ben, a thelir y pwyth iddynt mewn cyfluniaeth o fêl.

Beth yw'r si-gyngan yma? "B-z-z-z-z!" Beth yw'r siffrwd, beth yw'r twrw sy o'n hamgylch? Mae'r miri hwn fel murmur ha.

B-z-z-z!" Holo! wele wenynen—wele un arall —wele ragor yn dod ar ei hawd o'r cwch, gan fwngial canu, i geisio o fêl cyntaf y tymor. Disgyn un o honynt ar flodyn o'n blaen. Ceisia ymwthio—ymwinga—at y diliau, ond metha gan fod y fynedfa rhwng ymylon y flodamlen a'r briger mor gul. Gwna gynnyg eto.

"Dim posibl!" eb hi, a ffwrdd a hi ymaith. Newidia ei meddwl—daw'n ol. "Treiaf eto," medd hi. Ymwthia, ymysgwydda, ymsidrwya—well done!—dacw hi i mewn! Cyrhaeddodd ei nod drwy ddyfalbarhad. Erys dipyn yn hir i leibio y mel. Mae ar ben. Ymysgritia i ddod allan. "B-z-z-z!" Dacw hi i ffwrdd. Welwch chwi hi'n mynd?

Beth, a gyfnewidiodd yr hin fuaned a hyn? Mae'n oer, ac y mae min ar yr awel yma. Na nid y bore y mae canmol tywydd teg. Ciliodd chwaon esmwyth y De mor chwimwth ag y daethant; ac yrwan chwyth awel lem-ddeifiol o ororau dulwyd yr eira. Pruddhaodd wyneb y nefoedd; ac, weithian, nis gwelir, gan gymyl hylithr, na gwen haul na gwybren lathr. Graddol ymgasgl y nifwl gan bylu goleu y dydd. Mae'r wig fel pe'n synnu at y cyfnewidiad sydyn ac yn ymbarotoi i wrthsefyll rhuthr y dymestl sy ar dorri. Crynhoa'r egin blethau eu gwisg wen-wlanog yn dynnach am danynt, ac ymlonyddant rhwng gwerchyrau cysurus eu celloedd. Ymwasga dail y briallu, a'r fioled, a bresych y cwn, a'r mwsglys yn ol i gynhesrwydd y mwswgl; ymhongia ffluron y cyll yn syfrdan a phendrist ar gangau gwelwon; a phwysa blodau crafanc yr arth eu pennau'n drwm ar balfau eu dail. Mae'r coed fel pe'n breuddwydio, a'r mwrllwch oer, fel llenni'r nos, yn drwch o'u hamgylch. Rhodd yr adar eu cerdd i gadw. Gwibhedant o lwyn i wrych, ac o wrych i lwyn i chwilio am loches, canys dysg eu greddf iddynt ddeddf y storm. Clwydant ar gangau cysgodol, a chwrcydant yno, a'u pen yn eu pluf, i ddisgwyl am dani. Mae'n dod. Dyma blufen eira—y gyntafanedig yn llithro allan o fol y cwmwl; lluchedena drwy'r tawch a disgyn ar y glaswellt wrth ein traed, ddistawed a heulwen. Rhedwn i'r ty, mae'r storm ar ein gwarthaf. Ar gurhynt fel hyn mynwes yr aelwyd yw'r man siriola." Glywch chwi? Cryfha'r gwyntoedd. Beichiant drwy'r gwyll fel ysbrydion cyfrgoll; dyrnant y drysau—clecia rheiny; ysgytiant y ffenestr—honcia honno; a tharanruant yng nghorn y simdde. Dyinha'r tywyllwch. Edrychwn allan. O oer-groth y cwmwl pygddu bwrir yr eira yn drwch i'r awyr; syrthia drwy'r caddug yn fflochenau llydain, nes pylu'n fwyfwy oleu y dydd. Cipir yr ysgafnblu gan y gwyntoedd, chwyrnellir a chwyfir hwy'n blith drafflith drwy eu gilydd. Rhedant hyd y llawr, ehedant drwy'r awyr i gysgod rhych, ac agen, a chongl.

Welwch chwi'r luchfa yma sy dan ein ffenestr? Plethir, a nyddir, a llathrir hi i'r lluniau a'r ffurfiau rhyfeddaf-mwyaf fantasticgan ddwylaw hyfedr, a bysedd hyblyg y gwynt. Mae pob cyrf, a dolen, a phleth; mae pob tro, a sider, a fill yn anarluniadwy brydferth. Saif yr ysgol ar ein cyfer. Ymylir hiniogau ei drws, a physt ei ffenestri, a rhigolau ei tho, â ffunenau gwynnach na chlôg y carlwm. Mae'r mur sy o'n blaen fel marmor Carrara; a thal fonau y coed fel colofnau grisial. Ffinir y cloddiau a'r gwrychoedd gan luchfeydd hirion, cyfochrog. Un ffunud ynt a gwenyg y môr fai'n codi'n frigwyn ac yn torri'n ewyn ar fin y feisdon.

Mae'n ysgafnu ac yn goleuo; cwyd y niwl a phaid a bwrw. Rhuthra'r haul drwy'r cwmwl, a dawnsia gwreichion ar frig pob lluchfa. Glywch chwi'r adar? Hed bronfraith-y prima donna-i frig yr onnen a llafar-gana unwaith eto Shir-yp!" "Shir-yp!!" "Mae'r gwanwyn yn dod!" "Mae'r gwanwyn yn dod!! ac ymdorra gwên dros wyneb Natur.

Y WENNOL.
"Daeth y Wennol yn ol i'w chynhefin i chwilio am le nyth o dan y bondo."
Tud. 97.

TELOR YR HELYG.

"And this our life, exempt from public haunt,
Finds tongues in trees, books in the running brooks,
Sermons in stones, and good in everything."
—Shakespere.


"The meanest flower of the vale,
The simplest note that swells the gale,
The common sun, the air, the skies,
To me are opening paradise."—Gray.

Nodiadau

golygu
  1. Gelwir y llinynau hirion yma, ar lafar gwlad, gan y Saeson yn lambs' tails. Enwau Cymraeg arnynt ydyw, cynffon y gath, cenawon coed, cenawen cyll. Pertach yw'r enw Saesneg catkins.
  2. Nid wyf yn tybio i mi erioed weled y fath helaethrwydd o genawon cyll-o'r ddau ryw-nag eleni. Welsoch chwi?
  3. Ffrwythlonir y rhan fwyaf o goed uchel y wig drwy gyfrwng y gwynt. Blodeua y cyfryw goed pan yn ddiddail a'r gwyntoedd yn uchel. Buasai dail yn rhwystro'r paill gyrraedd y blodau gwryw.
  4. Helleborus foetidus, stinking hellebore; setterwort. Perthyn y llysieuyn yma i lwyth crafanc y frân (ranunculaceae). Aelodau o'r llwyth yma yw blodyn y gwynt, a'r gyllt, a llygaid Ebrill, a barf y gŵr hen, a gold y gors, &c.
  5. Mewn rhai llysiau teif y daily dŵr tuag allan. Mae gwraidd y llysiau hynny'n lledu, nes bod eu blaenau gyferbyn â'r lle y defnynna y dŵr. Pe tynnech y pridd oddiwrthynt yn ofalus caech fod y gwreiddiau'n ymdyrru i'r lle y dafna y dŵr fwyaf.
  6. Cloch maban (snowdrop).
    Plentyn cyntaf Gwanwyn yw,
    Yn yr awel cer mae'n byw:
    Gwynder odliw'r bheiliw bach
    Gwynder odliw'r breiliw bach
  7. Cornucopia: corn llawndid, corn amlder.