Tro i'r De/Yr Hen Dy Gwyn
← Abertawe | Tro i'r De gan Owen Morgan Edwards |
Llangeitho → |
V. YR HEN DY GWYN
YN yr haf, flwyddyn neu ddwy yn ol, yr oedd dau o honom yn gadael dyffryn Tywi, ac yn meddwl am ardaloedd ereill grwydro drwyddynt. Yr oeddym yn gwmni newydd, ac heb gwbl ddysgu ffyrdd ein gilydd. Yr oedd fy nghydymaith heb ddeall anhebgor cyntaf teithydd,—sef medru bydio gyda hynny o glud fedrir gario ar ysgwydd wan. Felly yr oedd yn cyd—symud â ni gist, ysgafn iawn o'i maint anferth; ac oherwydd yr amrywiaeth mawr oedd ynddi, galwem hi'n arch Noa. Gallai Noa fod wedi ei chael yn arch, a gallesid ei chladdu cyn i'r diluw orffen sychu, o ran dim defnyddioldeb a fu i ni.
Ond i ble yr aem? Mynnai'r naill fynd i Lanfihangel, yr oedd wedi bod yn ddigon segur i ddarllen y dim melodaidd ysgrifennodd Jeremy Taylor, fu'n llechu yno yn amser y Rhyfel Mawr. Mynnwn innau ddilyn afon Cothi, gan led obeithio y medrwn ddarganfod cartrefi rhai o enwogion aml y fro hanesiol honno. Ond torasom y ddadl drwy benderfynu mynd i Landdowror, ac aros yn nhawelwch cartref Gruffydd Jones, o fendigedig goffadwriaeth, dros y Sul. Caem weled yr eglwys lle rhoddid dimeuau'r Cymun at addysg Cymru.
Cymerasom y tren i orsaf Caerfyrddin, gan feddwl disgyn yn St. Clears. Gofynnais i rywun safai gerllaw a oedd y tren yn mynd y ffordd honno. "Ydyw," oedd yr ateb, "y mae'n mynd y ffordd honno." Ni ddeallais ystyr y pwyslais nes gweled fod y tren yn rhuthro'n wyllt drwy orsaf St. Clears; a chyn i ni orffen edrych ar ein gilydd mewn syndod dig, yr oeddym yn Hendy Gwyn ar Daf. Disgynasom ar ffrwst, a llusgwyd arch Noa allan. Wedi penderfynu rhoddi cyfraith ar gwmni'r ffordd haearn, a setlo ar dwrnai a bargyfreithiwr, a chael olew ar ein teimladau cynhyrfus o gydymdeimlad hen wraig oedd wedi dod yno o'i hanfodd, drwy gamgymeryd y tren, edrychasom o'n cwmpas am rywun a'n hyfforddiai tua Llanddowror. Heb fod yn nepell cawsom dy gyriedydd. Pan welodd hwn ein clud, dywedodd ddigon am y ffordd i beri i ni roi'r meddwl am fynd yno heibio. Gwnaethom ein meddwl i fyny i fynd ymlaen i'r gorllewin i rywle, gan adael i ffawd benderfynu'r lle. Ond cyn i'r tren nesaf ddod yr oedd gennym amser hir i aros, a dim byd i'w wneyd nac i'w weled. Dim byd, a minnau yn yr Hen Dy Gwyn ar Daf! Yma unwaith bu un o dai hela brenhinoedd Dyfed: ac yma, fil o flynyddoedd yn ol, gwelwyd dysgedigion o wahanol fannau o Gymru yn ymgyfarfod, ac yn rhoddi cyfreithiau Cymru mewn ysgrifen, dan arweiniad Hywel Dda. Ofer i ni oedd chwilio am yr Hen Dy Gwyn, ond rhoisom dro drwy'r ardal er hynny.
Cyfarfyddasom a llyfrwerthwr deallgar sy'n byw yn y wlad honno, a dywedodd fod hen fynachlog heb fod yn bell. Troisom ar y dde o ffordd Caerfyrddin wrth gapel, a cherddasom drwy gaeau hyfryd gweiriog nes dod i olwg dyffryn caead bychan. Yr oedd tawelwch mwyn yn gorffwys arno, dyma'r lle ddewisai mynachod y Canol Oesoedd, a gwyddent hwy'n dda beth oedd cysur, er eu bod yn proffesu dirmyg tuag at y byd darfodedig hwn. Y mae afonig fach yn murmur yn ddedwydd heibio adfeilion yr hen erddi. Daeth gŵr gwynebgoch trwynsur o rywle, a dim golwg ateb cwestiynau arno. Edrychai fel pe buasai'r holl fyd wedi ei wneyd o bwrpas iddo ef gael bod ynddo. Arosasom am ennyd i fwynhau'r olygfa ar y gerddi gerllaw, hyd nes y daeth hen wr heibio, yn arwain helgwn. Pan ofynasom a oedd gan berchennog y lle hyfryd lawer o dir, atebodd,—"Os, ôs, getin mowr o dir." Wrth droi'n ol meddyliem, pe gwyddai'r diwygwyr beth a wneid ag ystadau'r mynachlogydd., na fuasent mor chwerw yn erbyn yr hen fynachod rhadlon groesawai bererinion yn yr hen amser. A chyfrif eu holl wendidau,—ie, pe credem J. A. Froude am danynt, daeth eu gwaeth yn eu lle.
Daethom i'r orsaf yn ol heb benderfynu i ble yr aem. Gwelsom yno focs hirgul wedi ei osod ar ei ben. Yr oedd agen yn agos i'w ben uchaf. ac yr oedd dyn y tu fewn yn gwerthu ticedi. O amgylch y sefydliad hwn yr oedd tyrfa o bobl eithaf tarawiadol, yn aros am i'r agen agor. Yn nesaf un at y twll yr oedd gwraig a het hen ffasiwn, a rubanau duon yn disgyn oddiwrth yr het o bobtu ei gwyneb, gan wneyd iddi edrych fel ysbryd. Yn nesaf ati yr oedd pregethwr mewn côt ucha fawr a het sile a chadach cynnes, a'i wallt fel yr eira, a gofynnodd rhywun digri oedd yno ai efe oedd Ioan Rhagfyr. Yno hefyd yr oedd ffermwr cefngrwm, mewn hosanau bach, a'i fryd ar lawr y byd hwn.
Yr oedd yno ffermwr arall wedi torri gormod ar ei syched, ac yr oedd yn amlwg fod holl allu ei lygaid wedi croes grwydro i'w dafod. Yr oedd yno hefyd hen wr tew, ac ychydig o lun ar ei wyneb, fel pe buasai rhywun wedi dal dyn main a'i rowlio mewn eira.
Gofynasom i ba le y cyrchai'r holl bererinion hyn, ac atebwyd ni mai ar hyd y ffordd haearn newydd i Aberteifi. Yn y fan, gwnaethom ninnau ein meddwl i fyny yr aem hyd y ffordd haearn newydd i Aberteifi. A gwell i mi ddweyd hyn yn y fan yma,—ni chawsom erioed fwy o fwyniant nag wrth ddilyn afon Teifi, o Landudoch i fyny i'r mynyddoedd sydd o gwmpas Ystrad Fflur.
Stopiodd y tren yn Llanfalteg, a sylwasom ar lygaid duon a chrwyn iach a Chymraeg tlws y bobl. Yr oeddym yn gadael y wlad wastad, fu gynt yn hollol Seisnig ond sydd yn awr wedi dod yn Gymreig yr ail waith, ac yn tynnu i fyny tua'r bryniau. Erbyn dod i Login,—nis gwn ai dyma ffurf iawn yr enw, y tebyg yw mai nad e, oherwydd dyna'r enw sydd ar orsaf y ffordd haearn, yr oedd golwg henafol a dedwydd iawn ar bopeth. Yr oedd bwthynod to brwyn clyd mewn hafanau cysgodol; prin y maent wedi dechreu codi tai brics i weithwyr ger gorsafoedd y ffordd newydd. Wrth fyned i fyny'r afon, gwelem ambell dŷ llaid, gyda tho llaes hir fel mwdwl o wair. Wedi pasio Llanglydwen daethom hyd ffordd drwy'r garreg i wlad uchel agored. Dyma Rydowen, a mawnogydd a brwyn gleision, a'r terfyn rhwng sir Gaerfyrddin a sir Benfro. Yn Llanfyrnach yr oedd pobl yn edrych ar y tren fel pe buasent wedi dod ar daith i'w weled, a pheth newydd oedd yn eu hardal hwy. Yr wyf yn cofio fy hun yn mynd i weld y tren yn dod am y tro cyntaf drwy ein hardal ni. Gwelais ef yn dod yn y pellter; ond ni chefais olwg agos arno, oherwydd daeth ofn mawr arnaf, a rhedais nerth par o glocs, at a tangent i linell gyrfa'r tren. Tybiasom ein bod yn agoshau at y môr yn awr, wrth weld toau'r tai wedi eu gwyngalchu. Yn y Glog, rhoddodd rhywun y syniad mai "Glogue" ydyw gwir enw'r lle ym mhenglogue rhyw Sais enwogue,— gwelem gaeau gwrteithiedig i grib y mynydd. Yr oedd y dyffryn yn dechreu culhau'n awr, a'r ffordd haearn yn troelli fel sarff. Ai'r afon yn llai lai, a'r wlad yn harddach, harddach. Troisom i gwm mynyddig, gan adael tai bychain lân o'n holau hyd nes nad oedd yno ond prin le i'r nant, y nant y mae cymaint o frenhinesau'r weirglodd a llygaid y dydd yn edrych arni. Dyma ni ar ben y tir, ac yn fuan iawn cawsom olwg ogoneddus ar hen arglwyddiaeth y Cemaes yn sir Benfro. Yr oedd gwastadedd eang o'n blaenau, hyd lan y môr, a mynydd du llwm yn taflu ei gysgod arno. Nid rhyfedd fod Martin o'r Tyrau wedi blysio y fath wlad, ac wedi codi Trefdraeth ar y lan draw. Ond dyna ni'n colli'n golwg ar sir Benfro wrth droi am y mynydd. Ac wele ddyffryn arall harddach nag o'r blaen, fel pe buasai Ceredigion am ddangos ei rhagoriaeth ar sir Benfro. Ym Moncath yr oeddym ar ben gwlad uchel, a dim yn y golwg yn uwch na ni ond y mynydd du llwm. Oddiyno aem i lawr gydag ochrau glyn dwfn, nes y gwelem ddau o dyran Castell Cilgeran yn gwgu arnom, dros y pentref, oddiar ochr serth afon Teifi.
Yr oeddym wedi blino tipyn erbyn hyn, a da oedd gennym gael ein traed ar orsaf Aberteifi. Aethom i gerbyd clonciog, a ffwrdd a ni dros y bont, ac ar i fyny i'r dre. Ein hunig ofn oedd gweld arch Noa yn disgyn oddiar ben y cerbyd ar y llu o blant oedd o gwmpas y cerbyd. Carlamodd y ceffylau heibio hen le'r castell, ac arhosodd ym mhrif heol Aberteifi o flaen y Black Lion. Cawsom le cysurus i aros yn yr hen westy hwn. Ystafelloedd duon trymaidd sydd ynddo, yn gwneyd i ni feddwl am ustusiaid a chinio rhent.
Yr oedd wedi nosi pan aethom allan i weld y dre, ac yr oedd lleuad newydd yn taflu goleuni gwannaidd ar Aberteifi. Ystryd hir hyd gefnen a welsom, a phob modfedd o dir ar ochr yr afon wedi ei lenwi. Yr oedd golwg ddieithriol iawn ar y toau gwynion, fel pe buasai newydd fwrw eira arnynt. Anadlai awel dyner o'r môr, ac arogl gwair cynhaeafus ar ei hedyn, wrth i ni grwydro yn ol a blaen ymysg y bechgyn a'r genethod oedd yn ymddifyrru yng nghwmni eu gilydd ar noson mor hyfryd. Cymraeg llithrig ryfeddol siaradent i gyd. Ac eto hysbyswyd ni mai Saesneg yw tri phapur newydd tref Aberteifi.
Yn y pen agosaf i'r orsaf, wrth dalcen y bont, gwelsom dŵr yr hen gastell. Buom yn edrych arno, gan gofio am yr ymladd enbyd fu yn y pant odditanom o dro i dro. Yr oedd yn bwysig iawn, gan ei fod yn gwylio'r ffordd i Geredigion a rhan ddeheuol y wlad y methodd y Normaniaid ei gorchfygu. Ynddo, yn 1107, y bu Cadwgan ab Bleddyn yn gwledda tywysogion ac yn noddi beirdd ar ddechreu deffroad llenyddol mawr y ddeuddegfed ganrif. Yma, medd rhai, y gwelodd Owen brydferthwch alaethus Nest,— ac o hynny daeth gofid i'r hen Gadwgan ac i Gymru i gyd. Ar fryn gerllaw, y Crug Mawr. y bu'r frwydr fawr rhwng Gruffydd ab Rhys ac Owen Gwynedd a'r Saeson, pan enillodd y Cymry fuddugoliaeth lwyr. Cofiodd daear y frwydr am y fuddugoliaeth honno, medd traddodiad; os gadewid arf neu arfwisg ar y maes yn y nos, byddai wedi ei falurio erbyn y bore. Ar y bont hon y bu Gerald Gymro'n pregethu Rhyfeloedd y Groes. Yn y castell acwy bu Eisteddfod glodus Rhys ab Gruffydd yn 1176, pan ddaeth holl feirdd Cymru yma. Wedi hyn bu Llywelyn yn ymosod ar y castell ac yn gyrru'r Saeson o'r dref; ac wedi cwymp ein Llywelyn olaf bu Edward, gorchfygwr Cymru, yn byw am fis yn yr hen gastell. Yn ystod y Rhyfel Mawr bu magnelau'r Senedd yn tanio ar y muriau hyn, hyd nes torrwyd adwy ynddo, ac y rhuthrodd y milwyr i mewn. Y mae'n ddigon tawel heno, nid yw'n ddychryn i'r wlad mwyach, y mae ei dyrau wedi syrthio a'i ddaeargelloedd wedi eu troi'n selerydd.
Bore drannoeth cawsom gwmni gŵr ieuanc deallus a wyddai am danom, ac aethom yn ei gwmni i weled y wlad. Pan ddaethom at y bont, nis gallwn lai na chofio am olygfa ryfedd welwyd yma yn 1188. Yr oedd archesgob Caergaint yn dod drwy Gymru i bregethu, a Gerald Gymro gydag ef. Ei neges oedd darbwyllo rhai i fynd i Ryfeloedd y Groes, i ymladd â'r anwir am fedd yr Iesu. Daeth y pregethwyr i Aberteifi, ac yno daeth Rhys ab Gruffydd, un o'r tywysogion hynotaf yn hanes Cymru, i'w cyfarfod. Wrth dalcen y bont hon y cyfarfyddodd y pregethwyr a'r tywysog. Deuent hwy o fynachlog Llandudoch, lle yr arhosasent y nos cynt; daeth yntau o'r castell.
Hawdd dychmygu am yr odfa gynhaliwyd ar y glaswellt acw. Wele Faldwin archesgob a Gerald archddiacon yn pregethu, a'r tywysog Rhys a'i ddau fab ymysg y dyria o wrandawyr. Bu arddeliad mawr ar y pregethu; ac ar y diwedd daeth gŵr ieuanc ymlaen i gymeryd y groes. Yr oedd ei fam yno yn ei weled yn myned ymlaen. Ei hunig fab oedd, a'i hunig obaith, ac yr oedd hi'n hen iawn. Tybiai'r pregethwyr fod ei geiriau wedi eu hysbrydoli.— "O Iesu anwyl," meddai, gan syllu'n ddyfal ar ei mab, yr wyf yn diolch o'm calon i ti am adael i mi ymddwyn y fath fab, mab yr wyt ti'n edrych arno fel un cymwys i'th wasanaethu."
Ar ol hwn, daeth gwr arall, gŵr gwraig. Ond cydiodd ei wraig ynddo gerfydd ei wisg, a rhwystrodd ef rhag myned ymlaen. Y nos honno clywodd y wraig lais dychrynllyd yn dweyd, Cymeraist fy ngwas oddiarnaf, am hynny cymerir oddiarnat y peth a geri fwyaf." Erbyn y bore yr oedd ei phlentyn wedi marw. Cymerodd y gwr y groes, a hi ei hun a wniodd yr arwydd ar ei lawes.
A dacw Barc y Capel, lle cododd y bobl allor i gofio am yr odfa honno. Ni raid i ni fynd yn ol i'r ddeuddegfed ganrif i chwilio am hyawdledd yn nhref Aberteifi; clywodd rhai sydd eto'n fyw hyawdledd yn ei sasiynau na chlywant ei debyg, feallai, byth mwy. Ond rhaid i mi brysuro ymlaen. Yr ydym am ddechreu ym mynachlog Llandudoch, wrth enau'r afon Dyfi. a dilyn y dyffryn i fyny i fynachlog Ystrad Fflur.