Trwy India'r Gorllewin/Nadolig yn y Trofannau

Ynysoedd y Gogledd Trwy India'r Gorllewin

gan David Cunllo Davies

Ynysoedd y De

V. NADOLIG YN Y TROFANNAU.

"Tra bo'r haul a'i wyneb cannaid,
Cofir Bethlehem a'i bugeiliaid;
Cofir doethion a'u doethineb,
A'r Mab bychan yn y preseb."
—NATHAN WYN.

Y NOS cyn Nadolig buom yn canu emynnau am Bethlehem a'r geni yno'n dlawd. Canai y bobl dduon oedd yn ffurfio criw yr Esk yn hyfryd iawn. Canasant Psalm cxxii. drosodd a throsodd; ac o'r lan clywem swn tabwrdd a chân y negro. Pasiodd hen long fu yn dwyn caethion o Affrica heibio i ni ar ei ffordd i Santa Cruz, gan ddwyn llythyrau a negeseuau y Llywodraeth, ac adgofiwyd ni o'r dydd y troir y cleddyfau yn sychau, a'r dydd y torrir holl folltau pres caethiwed, wrth ei gweled yn nofio yn ysgafn i'r môr agored.

Yn ein hymyl yr oedd llong ryfel fawr —y Stosch, perthynol i Germani. Ar y lan y fan draw yr oedd amddiffynfa Denmark; ond trigem mewn hedd. Y mae y Gŵr a anwyd yn ninas Dafydd yn brysur ddod a chenhedloedd y ddaear i gyd-fyw mewn heddwch a lifa fel yr afon. Bore drannoeth, pen blwydd ein Gwaredwr, a wawriodd yn deg. Canai yr aderyn oedd i fod yn rhan o'n ciniaw amser brecwast. Nid iawn ei ladd yn rhy gynnar, neu gallasai fod yn rhy aroglus i ni aros wrth yr un bwrdd ag ef.

Aethom i eglwys y wlad yn y bore, ac yr oedd dyn tebyg i'r Arglwydd Randolph Churchill yn y pulpud. Darllennodd ran o'r ail bennod o Luc yn destyn. Gallasem feddwl fod y côr yn gyflogedig. Canent yn fendigedig, ac er mai yn y Daniaeg yr elai y gwasanaeth ymlaen, profem ein bod yn addoli. Aethom oddi yno i gapel y Morafiaid, a theimlem barch calon i'r hen enwad parchus hwn wrth groesi rhiniog eu haddoldy am y tro cyntaf erioed. Negroaid oedd mwyafrif y gynulleidfa, ac yr oedd y gwasanaeth yn yr iaith Saesneg. Esgob y Morafiaid yn India'r Gorllewin oedd yn gweinyddu, a chawsom bregeth rymus ar enedigaeth yr Iesu. Uwchben y pulpud yr oedd seren aml-liw; ac yn y sêt fawr yr oedd Christmas tree yn llawn o deganau, a dywedai y cyhoeddwr y byddai i bob plentyn ddeuai i wasanaeth y nos dderbyn canwyll oleuedig i ddangos fod yr Hwn a anwyd ar ddydd Nadolig yn oleuni y byd.

Drannoeth, aethom mewn badau gyda'r capten, y meddyg, a swyddogion eraill, i ran arall o'r ynys, ar ymweliad â hen wr o'r enw Monsanto, Portugiad of genedl. Trigai yn Krum Bay, y lle mwyaf unig y bum ynddo erioed. Nid oedd llochesau y Berwyn yn hafal iddo. Ar ein gwaith yn glanio daeth ef a'i feibion allan i'n cyfarfod; ac o dan y palmwydd y treuliasom un o'r dyddian mwyaf diddan. Yr oedd ei dŷ ar fath o raft. Adeiladwyd ef felly gyda'i dad am y credai y byddai yr ynys yn suddo i'r dyfnderoedd ryw ddiwrnod, gan mai coral oedd ei ddefnydd. Pa bryd bynnag y deuai yr adeg, os y deuai byth, byddai ef a'i dŷ a'i dylwyth yn gallu nofio uwchben yr adfeilion. Gwyddai yr hen frawd y cyfan am yr adar a'r gwylltfilod a'r pysgod; a bu dau o honom yn gynulleidfa astud iddo trwy y dydd. Daethom yn gyfeillion yn gymaint felly fel y darfu iddo agor i ni gyfrinion ei fynwes. Yr oedd wedi claddu ei briod; a theimlai ei ferch, ei feibion, ac yntau, ei hymadawiad yn chwerw. Bu farw yn y bore, a chladdwyd hi gyda gostwng haul yr un dydd. Aethpwyd a'i gweddillion dros y dŵr i ymyl Charlotte Amalie; yr oedd y galarwyr—y ferch a'r tad—y tu ol yn y bad; rhwyfai y meibion; ac mewn bâd a ddilynai y cyntaf wrth raff, deuai yr arch.

O dan y coed yr huliwyd ein bwrdd, a mawr ddifyrrwch gafodd rhai wrth chware ar fath o wifren a gariai gerbyd o balmwydden i balmwydden. Y Sabboth, pregethais i gynhulleidfa o ddynion duon yng nghapel y Wesleyaid; a chodwyd angor yn y prydnawn. Mordwyasom i Puorto Rico, a chawsom ein hunain fore Llun yn ymyl San Juan, ym mhresenoldeb olion y rhyfel fu rhwng yr Yspaen a'r Unol Dalaethau.

America bia Puorto Rico, a dyddorol ydyw gweled y ddau wareiddiad—gwareiddiad yr hen berchenogion ac eiddo y newydd ochr yn ochr â'u gilydd yn San Juan. Yr oedd troliau ychen yn cludo corsennau siwgr a dybaco i mewn i'r ddinas yn arwydd o un; ac yn eu pasio gyda chyflymdra chwim yr oedd yr electric trams, yn arwyddo y gwareiddiad arall.

Mewn siop, gwelsom faner a gynhygid gan y Llywodraeth i'r ysgol wnelai y gwaith goreu mewn arholiad yn yr iaith Saesneg. Y mae yr Americanwr a'r un syniad ganddo ag oedd gan Alexander Fawr. Gwnai ef i'r wlad a orchfygid ganddo ddysgu ei iaith.

Meddiennid ni â syniadau uchel am y Talaethau Unedig trwy ddrych eu gwaith yn y lle hwn. Y mae gofal mawr yn cael ei gymeryd i holi dynion cyn caniatau iddynt lanio. Cawsom ninnau rai cwestiynau rhyfedd iawn, megis-"A fuom mewn carchar erioed?" A oedd deugain doler yn ein meddiant?" Daethom yn ol i Barbadoes dros yr un llwybr; a gwelsom y ffordd yn faith oherwydd yr oeddem yn disgwyl cael yno ein llythyrau cyntaf o gartref, a newyddion am y rhai a garem o sir Forgannwg.