Trwy India'r Gorllewin/Ynysoedd y Gogledd

Barbados Trwy India'r Gorllewin

gan David Cunllo Davies

Nadolig yn y Trofannau

IV. YNYSOEDD Y GOGLEDD.

Ac yno am oesoedd y buont yn huno,
Mor dawel a baban heb gynwrf na chyffro;
O'r diwedd y nwyon a ddrylliodd y muriau,
Ac yn eu digofaint rhwygasant gadwynau."
—GLAN CUNLLO.

A HI yn hwyrhau ar Rag. 21ain, gadawai y llongau Solent, Eden, ac Esk—y tair yn perthyn i'r un linell —eu hangorfa yn Barbadoes. Yr oedd un a'i bow ar British Guiana; yr oedd y llall yn myned cyn belled a Venezuela; ac yr oeddym ninnau ar yr Esk yn hwylio i'r Gogledd. Dirybudd a sydyn y deuai y tywyllwch ar ol ychydig funudau o gyfnos. Nid oedd yno ar y mor gesail mynydd i'r goleuni lechu am yspaid ferr, ac nid oedd ganddo orwelau uchel i redeg drostynt.

Bore drannoeth, gyda'r wawr, yr oedd ynys St. Lucia ar y dde; a dyma'r olwg gyntaf i ni ar fynydd tanllyd. O fin y môr esgynnai dau fynydd yn syth fel dau gawr i fro y cymylau—i uchder o 2,700 o droedfeddi. Gelwid hwy y Pitons. O'r tu ol iddynt yr oedd mynydd mwy—Souffriere, a elwid felly gan y Ffrancod o herwydd fod ei grombil yn llawn mygfaen, neu frwmstan. Ar ei lechweddau tarddai ffynhonnau poethion, a dywedai brodor o'r darn yma o St. Lucia wrthym mai yr anhawsder mawr yno oedd cael digon o fwyd gan mor iach oedd y wlad. Yr oedd rhywbeth hudoliaethus yng ngwyrddlesni y caeau o dan belydrau haul y bore; a'r cyfan yn cael eu hamgylchu gan fôr du—las oedd yma a thraw yn ewynnu i ddangos fod y Werydd y, tu ol yn gynhyrfus. Ni wyddis fod neb wedi dringo y serthaf o'r ddau fynydd erioed; eithr clywsom dra— ddodiad fod rhai o forwyr Admiral Rod— ney wedi dringo ei ochr unwaith, ac na ddychwelodd yr un o honynt yn fyw gan fod y lle yn heidio gan nadroedd—y fer- de-lance y mwyaf gwenwynllyd o holl deulu y llwch. Un gymharol fechan ydyw y neidr hon, a'i gelyn anghymodlawn yw y cribo-neidr arall nad ydyw yn gwenwyno ei saeth. Y mae hon yn ddu ei lliw ac o chwech i wyth troedfedd o hyd; a phan ddaw i mewn i dai y wlad ni ddychrynir rhagddi.

Cyrhaeddasom borthladd Castries erbyn ein boreubryd. Dyma Gibraltar India'r Gorllewin; ac a ni yn myned i mewn yr oedd y milwyr Prydeinig yn ymarfer gyda'r gynnau mawr. Ni welsom yr un, ond clywsom eu swn byddarol. Rhuent yn y creigiau o gwmpas. Taflai craig arall y swn yn ol; ac yr oedd gennym ryw syniad am gynddaredd elfennau rhyfel pan ollyngid hwynt yn rhydd; ac wrth eu clywed dechreuodd rhai o'n cyd-deithwyr adrodd helyntion y dyddiau gynt yn ymyl St. Lucia. Gelwir yr ynys "y tir du a gwaedlyd," oherwydd i'w daear yfed cymaint o waed Ffrainc a Lloegr. Bwysiced oedd yr ynys i'r ddwy wlad fel y bu yn fater gelyniaeth a brwydr am wyth ugain o flynyddoedd.

Ymsefydlodd nifer o Saeson ar yr ynys yn 1650; a gyrrwyd hwynt oddi yno gan yr Indiaid mewn llai na blwyddyn. Dyma faes gwrhydri milwrol Syr John Moore arwr Corunna; Syr Ralph Abercrombie; Admiral Rodney—colofn i'r hwn geir heb fod ymhell o Lanymynech yn ymyl Clawdd Offa; a Count de Grasse y Ffrancwr.

O flaen harbwr Castries, o'r tu ol i'r dref, y mae bryn bychan a elwir Morne Fortune. Yn 1803, ar y mynydd hwn yr ymladdwyd y frwydr olaf yn y wlad. Glaniodd Commodôr Hood ar yr ynys, a gyrrodd y Ffrancod o'u cuddfeydd â blaen y bidog; ac o'r dydd hwnnw y mae St. Lucia yn un o drefedigaethau Prydain. Cymerasom lo ar ein bwrdd yma. Cerrid ef mewn basgedau gan y negroaid—yn ddyn a dynes, a rhyfeddol oedd y twrw a wnaethant wrth gyflawni y gorchwyl. Siaradent gymysgedd o Ffrancaeg a Saesneg: a siaradai pob un o honynt fel pe buasent mewn natur ddrwg. Eto pobl dirion, hawdd eu boddio, oeddynt. Gwelsom hwynt yn mwynhau eu hunain a ni yn dychwelyd ar ddydd Calan. Cerddent yr ystrydoedd, curent dabyrddau, dawnsient, a gwnaent yr ystumiau mwyaf digrifol. Nid oedd eu hofferynau cerdd o ddefnydd drutach nag alcan; a baril a darn o groen un pen iddo a wasanaethai fel tabwrdd. Fel hyn y croesawent flwyddyn newydd ac wrth ddweyd eu bod yn hapus iawn dywedwn y peth goraf a fedrwn ddweyd am danynt.

Yn y dref y mae Eglwys Gadeiriol orwych berthynol i'r Pabyddion; ac i'r ffydd honno y perthyna y mwyafrif o'r trigolion. Gan fod gennym oriau i aros, cyflogasom gerbyd, ac aethom allan i'r wlad, a gwelsom berllannau o oranges; ac aceri lawer yn dwyn cocoa a choffi. Yma a thraw ar fin y ffordd gwelem gabanod tô dail oedd yn ein adgofio am fythynod tô gwellt Cymru. O'n cwmpas chwareuai plant duon troed noeth; ac o'n blaen yr oedd coedydd ffrwythau—y breadfruit, y banana, mango, lemon, &c.

Mordwyasom ar ol cael digon o lo, a chwblhau yr ymdrafodaeth â'r llythyrdy; a thua thri o'r gloch cawsom ein hunain y tuallan i ddinas Fort de France, Martinique, ynys berthynol i Ffrainc. Ar y dde, ar ein ffordd i fyny, pasiwyd Diamond Rock, darn o graig yn codi yn syth o'r dyfroedd. Y mae yng ngolwg Martinique; ac yn adeg rhyfeloedd Rodney gosododd Syr Thomas Hood fyddin fechan arno, ac o goryn y graig chwifiai baner Prydain yng ngwyneb y Ffrancod; a thaflai y Saeson gynnwys eu magnelau ar holl longau y gelyn yn y moroedd oddiamgylch. Gwelsant amser caled, a newyn a'u gorfododd i ddodi eu harfau i lawr. Gosodwyd y graig hon i lawr ar lyfrau y llynges Brydeinig fel "His British Majesty's Sloop-of-War Diamond Rock," yn ystod y rhyfel hwn. Ar greigiau ar fin

y môr ym Martinique, gwelsom lawer o greirgelloedd, a chroes fechan ar ben pob un. Yma, ar nosweithiau enbyd, y daw yr offeiriaid Pabaidd i weddio ar yr Hwn rodia ar adenydd y gwynt, dros y morwyr.

Yma y ganwyd Josephine, gwraig Napoleon; ac yn St. Pierre, ar ochr orllewinol Martinique, y cymerodd y gyflafan ofnadwy le ym Mai, 1902. Taflodd y mynydd, Mont Pelee, oedd yn codi i uchder o 4,429 o droedfeddi o'r tu ol i ddinas St. Pierre,-ei gynnwys drosti, a hyrddiwyd yn ymyl deugain mil o eneidiau i dragwyddoldeb ar darawiad amrant.

Hon oedd prif ddinas y wlad. Yr oedd yn ddinas hardd iawn, ac yr oedd ei bywyd yn foethus. Ac edrych arni o'r môr, a'r mynydd glas yn ei chysgodi, a'r môr o'i blaen, nid oedd bosibl cael golygfa harddach yn y Gorllewin paradwysaidd. Gorweddai y mynydd yn llonydd yn ystod ugeiniau o flynyddoedd. Nid oedd yng nghof neb o drigolion yr ynys fod tân wedi codi o hono. Yr oedd ei gopa fel cwpan; ac yn hwn gorweddai llyn o'r dŵr glasaf. I'w lan y deuai pobl St. Pierre i fwynhau golygfa o'u gwlad; ac yno y cyrchai yr ieuainc am wigwyliau yn aml aml.

Helaethai terfynau y ddinas, ac ni ddychmygodd neb fod y mynydd fu yn gysgod i'w thrigolion i brofi yn angau iddynt.

Yn Ebrill, 1902, clywyd swn taranau ynddo. Crynnai y ddaear ychydig, ymddyrchafai mwg o'i goryn, a chynhesai y dŵr yn y llyn. Ond ni welai neb y trychineb yn dod, nag ysbryd y pwerau tanddaearol yn gwylltio trwy yr arwyddion hyn.

Safai colofn fawr i Waredwr y byd ar y fynedfa i'r ddinas o'r môr. Canai clychau yr eglwys rybudd y foreuol a'r hwyrol weddi, a phlygai y defosiynol lin. Yn ei blaen elai y ddinas mewn drwg a da hyd Mai 3ydd. Ar y dydd hwn rhuthrai tafodau o dân allan o'r mynydd a disgynnai cawod o lwch ar y wlad. Tywyllodd y ffurfafen, a dechreuodd y bobl ofni. Drannoeth, ar y Sabboth, y Llun a'r Mawrth, disgynnai marwor tanllyd ar y wlad, a rhedodd afon o lava berwedig dros wely afon pum milltir o hyd i'r môr. Cariodd ffactri siwgr o'i blaen i'r dŵr, a phan gyfarfyddodd y ddwy elfen ddinistriol yr oedd yno swn fel chwythiad miloedd o nadroedd.

Dydd Mercher, pan gerddodd y newydd am hyn, ymdawelodd y trigolion. Credasant fod y gwaethaf drosodd, ac y byddai i Mont Pelee fyned yn ol drachefn i gysgu.

Eithr nid oedd eto wedi bwrw ei lid. Bore Iau y Dyrchafel, yn blygeiniol fore, elai y Pabyddion i'w heglwysi; ac yr oedd y rhelyw o'r dydd i'w roddi i bleser a seibiant. Am saith o'r gloch y bore angorodd yr agerlong Roddam o Lundain yn ymyl y ddinas; ac am wyth gwelai ei llywydd, y Capten Freeman, fur du a darnau o dân ynddo yn esgyn o'r mynydd, ac yn teithio gyda chyflymder arswydus i gyfeiriad ei lestr. Yr oedd y swn yn ddychrynllyd. Cododd y môr yn bentwr. Ciliodd y goleuni, ac yr oedd dywylled a chanol nos. Disgynnai tân yn belenau o gwmpas. Gwaeddodd y capten orchymyn i droi y peiriannau yn eu hol; a ffwrdd a'r Roddam mor gyflym ag y medrai ager ei gyrru i gyfeiriad St. Lucia.

Pan gyrhaeddodd yno, fel drychiolaeth o'r dyfnder, yr oedd deunaw o'i chriw yn gyrff meirwon: ac yr oedd pump yn fyw o dan eu clwyfau i ddiolch am un o'r gwaredigaethau rhyfeddaf mewn hanes. Diangodd y prif swyddog Scott, oedd ar y Roraima—agerlong berthynol i Canada; eithr o'r deunaw llestr oedd yn angori yng nghysgod y mynydd y bore hwnnw, yr agerlong Roddam yn unig ddiangodd allan. Ac o'r trigolion nid arbedwyd ond un, a hwnnw yn garcharor mewn daeargell. Am iddo daro dyn gosodwyd llaw arno gan y ddeddf, ac yno yr oedd yng ngharchardy y ddinas pan gymerodd llifrithiad le. Ei enw oedd Ludger Sylbaris; a negro ydoedd o genedl. Gwaredwyd ef gan offeiriad Pabaidd ar fore Sabboth, Mai 11eg, 1902. Clywsom rai fuont ar ymweliad â'r lle yn dweyd fod y golygfeydd mewn ychydig ddyddiau ar ol y trychineb y tu hwnt i ddirnadaeth. Yn rhai o'r tai eisteddai teuluoedd o gwmpas y bwrdd yn bwyta eu boreufwyd pan ddaeth galwad angau. Lladdwyd hwynt gan arogl y brwmstan, ac eisteddent mor naturiol a phe buasent yn fyw. Yr oedd yr Esk yn cyrraedd yno y nos Iau fythgofiadwy honno; ac yr oedd ganddi mails i'w gadael ac i'w cyrchu. Ni wyddai neb o du y gogledd i ynys Martinique fod dim wedi digwydd, gan fod y wifrau tanforawl wedi eu torri.

Wedi cyrraedd cymdogaeth St. Pierre rhoddodd yr Esk yr arwyddion arferol, ond nid atebodd neb oddiar y tir. Disgynnodd yr ail swyddog yn y bâd a rhwyfwyd at y lan; ond wrth ddynesu at y tir teimlent y tywyllwch yn ofnadwy, ac nid oedd dim i'w weled ond golosg ymhob cyfeiriad. Nid oedd yno neb i dderbyn y llythyrau. Yr oeddynt oll wedi cyrraedd i wlad na fedrai daear ddanfon neges at un o'i thrigolion.

A ni yn myned heibio, gwisgai Mont Pelee gwmwl du yn goron ar ei ben; a theimlem ei lwch yn dod gyda'r awel. Wrth ddod yn ol heibio iddo, dywedai rhai y carent ei weled yn fflamio. Byddwch ddiolchgar," meddai un o'r swyddogion; "pe gwelsech ef unwaith ni byddai awydd arnoch am ei weled byth wedi hyn."

Yr ynys nesaf yw Dominica. Darganfyddodd Columbus hi ar ei ail fordaith, ar Dachwedd 3, 1493. Dydd yr Arglwydd oedd hwnnw, a dyna paham y rhoddwyd yr enw ar y wlad. Y mae yn ynys fynyddig, a phan ofynodd brenhines Spaen i Christopher Columbus fath un ydoedd, gwasgodd ddarn o bapur yn ei law a thaflodd ef i'r bwrdd. Buom ar hyd dyffryn Roseau, a gwelsom flodau yn tyfu yn wylltion ar y perthi na buasem yn alluog i'w codi o dan wydr a gwres yn ein gwlad ni. Yr oedd yr afonyad yn llawn pysgod, a'r coedydd yn llawn adar. Pabyddion yw y mwyafrif o'r Dominiciaid, a gwelir colofnau a chroesau ar bob llaw. Dywedwyd wrthym fod yno ddelw o Grist du yn ymyl yr Eglwys Gadeiriol. Er mwyn argraffu ar feddwl y brodorion fod eu Gwaredwr a'u Brenin yn un o honynt, lliwiwyd ei groen yn ddu. Dan haul Syria dichon fod ei bryd yn dywyll, ond sicr yw nid oedd yn ddu; eto y mae Crist du Dominica yn dod a'r Imanuel yn agos iawn atynt.

Y mae caeau cotwm yr ynys yn eu blodau ar adeg ein hymweliad, ac yr oedd yn adeg cynhaeaf y lime fruit. Yr oedd cannoedd o alwyni o'u sudd yn cael eu parotoi ar gyfer Llundain.

Buom yn Guadelope. Swn Ffrancod yn cweryla o'r tuallan i'n ffenestr ddarfu ein deffro yno, a buom yn ceisio dweyd wrthynt mewn Cymraeg glân gloew am beidio aflonyddu dim ychwaneg arnom. Treuliasom oriau ar ynys Montserrat. Galwasom yn Antigua, Nevis, a St. Kitts. Cyrhaeddwyd St. Thomas ar y nos cyn Nadolig, a bwriwyd angor ynghanol porthladd naturiol y tuallan i dref Charlotte Amalie. Denmark bia'r ynys, a llywodraetha hi yn dda. Troir y carcharorion allan i lanhau y dref yn y bore; a dywedir fod Sais, yr hwn oedd wedi cadw tipyn o dwrw wedi mwynhau gwledd yn y dref ryw noson, yn gorfod gwneyd iawn am hynny drannoeth gyda'r ysgubell, ac efe yn nillad y wledd hefyd.

Bu y porthladd hwn yn farchnad bwysig i gaethion yn nyddiau y fasnach; a dyma un o orsafoedd canolbwyntiol y môr-ladron. Saif castell ar y lan, a chredir ei fod yn gartref unwaith i Henry Morgan, y Cymro a fu yn arswyd i'r moroedd hyn yn yr ail ganrif ar bymtheg. Gwnaed ef yn farchog gan Siarl II., a bu Syr Henry Morgan yn is-raglaw Jamaica.

400p0x
400p0x