Tudalen:Barddoniaeth Goronwy Owen (gol Llyfrbryf).djvu/31

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AWDL Y GOFUNED.[1]

A ganwyd 1752, cyn gwybod beth oedd awadl.

[Gweler LLYTHYRAU, tudal. 34].

O CHAWN o'r nef y peth a grefwn,
Dyma archiad im' a erchwn,[2]
Un rodd orwag ni ryddiriwn o ged;
Uniawn ofuned, hyn a fynnwn.

Synhwyrfryd doeth, a chorph anfoethus,
Cael, o iawn iechyd, calon iachus;
A pheidio yno â ffwdanus—fyd
Direol, bawlyd, rhy helbulus.

Dychwel i'r wlad lle bu fy nhadau,
Bwrw enwog oes, heb ry nac eisiau,
Ym Mon araul, a man orau—yw hon,
Llawen ei dynion, a llawn doniau.

Rhent gymedrol, Plwyf da 'i reolau,
Tŷ is goleufryn, twysg o lyfrau;
A gwartheg res, a buchesau—i'w trin
I'r hoyw wraig Elin[3] rywiog olau.

Gardd i minau, gorau ddymuniad,
A gwasgawdwydd[4] o wiw gysgodiad;
Tra bwy'n darllain cain aceniad—beirddion
Hil Derwyddon, hylaw adroddiad.

Ac uwch fy mhen, ym mysg canghenau,
Bêr baradwysaidd lwysaidd leisiau
Ednaint[5] meinllais, adlais odlau—trydar
Mwyn adar cerddgar—lafar lefau.

A thra bo'r adar mân yn canu,
Na ddeno gwasgawd ddyn i gysgu,
Cydgais â'r côr meinllais manllu—fy nghân,
Gwiw hoyw a diddan gyhydeddu.


  1. Dymuniad
  2. Ddeisyfwn
  3. Elin oedd enw ei wraig gyntaf
  4. Tŷ haf (arbour)
  5. Perchenogion edyn