Tyred rhag[1] troad y rhod,
Henu mae'r blodau hynod.
Er passio'r ddau gynhauaf,
Mae'r hin fal ardymyr haf ;
A'r ardd yn o hardd ddi haint,
A'r hin yn trechu'r henaint,
A'i gwyrdd-ddail yn deg irdda
Eto, ond heneiddio wna.
Mae'n gwywo, 'min y gauaf,
Y rhos a holl falchder haf.
Y rhos heneiddiodd y rhai'n,
A henu wnawn ni'n hunain;
Ond cyn bedd, dyma 'ngweddi,
"Amen," dywed gyda mi :-
"Dybid i'n ddyddiau diboen
A dihaint henaint o hoen;
Myn'd yn ol, cyn marwolaeth
I Fon, ein cysefin faeth.
Diddan a fyddo'n dyddiau
Yn unol, ddiddidol ddau;
A'r dydd, Duw ro amser da,
Y derfydd ein cyd-yrfa,
CRIST yn Nef a'n cartrefo,
Wyn fyd! a phoed hyny fo."
CYWYDD I DDIAWL.
[Mae efrydwyr gwaith Goronwy Owen yn barod i addef yn lled gyffredinol erbyn hyn mai Lewys Morys, ei hen gyfaill a'i noddwr, sydd ganddo tan ei fflangell yn y rhan o'r cywydd canlynol sy'n dechreu gyda'r llinell, "Gwr y sy gwae yr oes hon!" Yr oedd y ddau wedi digio'n enbyd wrth ei gilydd pan oedd y Bardd Du yn tario tua Llunden; ac os darllenir y LLYTHYRAU, tudal. 127, ceir awgrym led amlwg beth oedd yr achos. Yn y cywydd hwn rhydd Goronwy ei ochr ef i'r ffrwgwd; yn y Bywgraffiad sydd ar ddechreu'r gyfrol hon, ceir mynegiad Llywelyn Ddu o'i ochr yntau; ac anhawdd gwybod pa'r un ydyw'r
- ↑ Cyn.