Tudalen:Chwalfa.djvu/55

Gwirwyd y dudalen hon

liciwn i wahodd Keir Hardie i lawr yma, yn un. Yr ydw' i'n siŵr y dôi o." Derbyniwyd yr awgrym â chymeradwyaeth eiddgar. "A 'rwan gadewch inni ddiweddu'r cyfarfod 'ma yn ein ffordd arferol, drwy ganu emyn. Heno, pennill o emyn Ann Griffiths, "O Arglwydd Dduw rhagluniaeth," ac wrth i chi ganu, meddyliwch yn ddwys am ystyr y geiria' anfarwol.

'O Arglwydd Dduw rhagluniaeth
Ac iachawdwriaeth dyn,
Tydi sy'n llywodraethu
Y byd a'r nef dy hun.
Yn wyneb pob caledi
Y sydd neu eto ddaw,
Dod gadarn gymorth imi
I lechu yn dy law."'

Cododd pawb, a thrawodd llais tenor peraidd Robert Williams y dôn: ef oedd yr Arweinydd Canu yn Siloh, y capel yr âi Llew iddo. Ymdoddai'r cannoedd o leisiau i'w gilydd mewn cynghanedd swynol, gan dawelu ac ymchwyddo mor naturiol â llanw'r môr. Pan ailgydiwyd yn hanner olaf y pennill, peidiodd Llew â chanu a chaeodd ei lygaid i wrando ar y sicrwydd hyderus tu ôl i ddyhead melodaidd y dôn. Nid tyrfa o streicwyr a oedd o'i flaen mwyach, ond gwŷr dwys wedi ymgolli ym melystra cerdd a'r dagrau yn llygaid amryw ohonynt. Yr oedd un peth yn sicr, meddai wrtho'i hun—ni fedrai'r Bradwyr ganu fel hyn.

Ac o dan ddylanwad yr emyn, cerddodd y dynion yn dawel a sobr o'r Neuadd. Teimlai'r plismyn, wrth ymsythu i gadw trefn, yn ffôl o ddianghenraid.

Tu allan, safodd Llew o'r neilltu ar y palmant i aros am ei dad ac Idris a Dic Bugail. Clywodd lais braidd yn feddw yn gweiddi,

Gorymdaith, hogia'! Mi fydd hi'n dechra' twllu'n reit fuan!"

Adnabu'r llais—eiddo Ifor, ei frawd yng nghyfraith, gŵr Megan. Ni fu ef yn y cyfarfod, ond cyrhaeddodd at y Neuadd yn ddigon buan i gymryd arno ei fod yn un o'r dorf ac i alw, yn groes i ewyllys arweinwyr y dynion, am orymdaith swnllyd a dinistriol yn y gwyll a'r nos. Gwelodd Llew, a daeth ato.

"Hei, tyd, Llew. 'Rŵan mae'r hwyl yn dechra', wsti."