Tudalen:Clych adgof - penodau yn hanes fy addysg.djvu/70

Gwirwyd y dudalen hon

ar lan y bedd cyntaf. Ymhen tipyn claddwyd Sian Tomos y Ceunant, yn 94 mlwydd oed; derbyniasid hi'n aelod ym Mhen y Stryd pan yn un ar hugain oed, a bu'n aelod o'r seiat heb gerydd ar hyd ei hoes grefyddol hirfaith. Ar ei hol hi aeth Evan Lewis, tailiwr. "Yr oedd y brawd hwn yn hynod am ei ffyddlondeb yn ei holl gysylltiadau crefyddol, yn enwedig gyda'r canu a'r Ysgol Sabbothol, i'r hon yr oedd yn ysgrifennydd gofalus hyd ei fedd." Yr wyf yn ei gofio'n dda, tailiwr teithiol oedd, yn crwydro o fwrdd i fwrdd. Ni fedrwn adael cornel y bwrdd tra byddai'n son am y palmwydd a'r coronau sydd yn y nefoedd. Gwn iddo, mewn tlodi dygn, fagu'r plant caredicaf yn yr ardal. ond nis gwn heddyw o bedwar cwr y byd ym mha le y maent. Dyma wr ieuanc yn marw, a'i faban deg diwrnod oed yn cael ei gladdu ar ei ol. Dyma wr arall yn gorfod gadael priod a phump o blant bach heb eu magu, — y mae'r croniclydd yn meddwl am "y ffordd yn y môr " wrth adrodd ei hanes, — a chyn hir dyma ei hen fam yn dymuno ei chladdu wrth ei ochr, er ei bod yn aelod selog gydag enwad arall. Yn angau ni wahanwyd hwy. "Wrth ochr ei frawd," "ym medd ei mham," — ebe'r llyfr o hyd. Yr wyf yn cofio geneth ieuanc brydferth yn cyflawni hunanladdiad, nid oes ar gyfer ei henw yma ond — " Cafwyd wedi boddi." Dyma blentyn mwyn deg oed, dymuniad llygad ei dad; dyma enw geneth glywais yn canu "O fryniau Caersalem" fel angyles ar ei gwely angau, dyma hen wr "wedi cadw y ffydd," dyma fab y croniclydd fu farw dan dybio ei fod yn yr Ysgol Sul yn dysgu plant. Dyma enw Ann Wmffre, gwraig Niclas, hen grefyddwr hynod.