Tudalen:Cofiant Daniel Owen.djvu/71

Ni brawfddarllenwyd y dudalen hon eto

sylwadau ar ei gymemriad. Cyfeiriodd at ei synnwyr cryf , ei onestrwydd, ynghyd â'i lafur gyda'r achos yn y dref.

Ar ôl gweddïo, aethpwyd yn orymdaith i'r gladdfa. Gwelwyd nifer mawr o weinidogion y sir o bob enwad, ynghyd â chlerigwyr y dref, yn yr orymdaith; aelodau o'r Bwrdd Llywodraethol yr Ysgol Ganolraddol, o ba un yr oedd yr ymadawedig yn aelod, ac o Gyngor Dinesig y dref, o ba un yr oedd yn gadeirydd, ynghyd ag amryw o gynrychiolwyr llenyddiaeth, a lliaws mawr o gyfeillion o'r dref a'r cylch, er bod yr hin yn dra anfanteisiol Gan fod yr orymdaith mor fawr, penderfynwyd myned ar unwaith at y bedd. Darllenwyd rhannau o'r Ysgrythur, a gweddïwyd drachefn, ac ar ôl canu'r hen emyn adnabyddus, -

O fryniau Caersalem ceir gweled
Holl daith yr anialwch i gyd,"

ymadawodd y dyrfa. Gosodwyd ef i orwedd yn yr un bedd a'i fam, a'i frawd a'i chwaer.

Y Saboth, y 27ain, gwnaed cyfeiriadau at gymeriad a gwasanaeth yr ymadawedig i lenyddiaeth Cymru, yn Eglwys y Plwyf, gan y Parch. E. M. Roderick, M.A., y Vicar. Pregethwyd