Y CYNWYSIAD.
PENNOD I.
DYNION gwerth eu cofio—MR. WILLIAMS yn un o honynt Lle ei enedigaeth—Enw ei gartref yn cael ei sillebu mewn gwahanol ddulliau—Amgylchoedd ei gartref yn fanteisiol i berchenogion Athrylith—Priodas rhieni ein gwrthddrych—Nodwedd ei henafiaid Y Parch. John Williams, Dolyddelen, yn cael ei ddefnyddio yn offeryn i ddychwelyd mam MR. WILLIAMS at grefydd—Ei frodyr a'i chwiorydd —Cyfamod ei dad âg ef—Yntau yn ei gadw— Myned i Frynygath, neu i Lanfachreth, cyn adeiladu Capel Penystryd—Cymeryd llwy oddiar fuarth Cwmeisian Uwchaf—Ei fam yn myned ag ef i'w danfon yn ol, ac yn gweddio drosto—Ei hoenusrwydd yn amlwg—Ei dad yn ofni y byddai yn od ar holl blant yr ardaloedd—Henafgwr yn yr ardal yn ei weled yn wahanol i blant eraill y Cwm—Tuedd Athronyddol ei feddwl yn dyfod i'r golwg yn foreu ar ddydd ei fywyd.
PENNOD II.
Natur yn amgylchoedd cartref ein gwrthddrych yn cael aros heb ei llychwino gan law dyn—Y trigolion gynt yn ymgadw yn ffyddlon i natur mewn bwydydd a gwisgoedd Cedyrn yn preswylio yma gynt—Ein gwrthddrych yn fyw i bob peth natur—Yn penderfynu myned yn saer coed—Ei hyfrydwch yn ei gelfyddyd—Dyfod i wybodaeth.