eto. Yr oeddynt yn claddu dyn da a chymeriad anwyl y diwrnod hwnw, a themlai ef hiraeth ar ol ei anwyl gyfaill Hwfa Mon. Y Parch. Dr. Owen Evans, Liverpool, a gyfeiriodd at y ffaith fod Hwfa Mon ac yntau wedi dilyn eu gilydd yn eu meusydd gweinid— ogaethol. Yr oeddynt wedi eu hordeinio i waith y weinidogaeth o fewn rhyw dridiau neu bedwar i'w gilydd; aeth yn olynydd i Hwfa Mon i Brymbo, a daeth Hwfa wedi hyny yn olynydd iddo ef yn Llundain. Yr oedd yr ymadawedig yn ddyn o ragoriaethau dysglaer —yr oedd yn gymeriad cenedlaethol. Yr oedd yn dywysog o ddyn.
Yr Arglwydd Mostyn, a ddywedodd fod Hwfa Mon ac yntau wedi bod. yn gyfeillion am lawer o flynyddoedd. Daeth i'w adnabod bum mlynedd ar hugain yn ol yn yr Eisteddfod gyntaf y bu ynddi. Der— byniodd lawer o garedigrwydd oddiar law y gwr yr oeddynt oll y diwrnod hwnw yn galaru oherwydd ei farwolaeth. Wedi canu yr emyn Seisnig
"Our God, our help in ages past," &c.
terfynwyd y gwasanaeth trwy weddi ddwys gan y Parch. James Charles, Dinbych.
Fel yr oedd y dorf yn myned allan o'r capel chwareuwyd y "Dead March" gan Miss Roose. Yna ymffurfiwyd yn orymdaith fel o'r blaen, a chyfeiriwyd tua Chladdfa newydd y dref, lle y dodwyd y corph i orphwys yn y bedd. Darllenwyd cyfran o'r Ysgrythyr a gweddiwyd yn effeithiol ar lan y bedd gan y Parch. David Rees, Capel Mawr.—Wedi canu
Ymwahanodd y dorf. Nid oes yn y bedd ond ei weddillion marwol; ond y mae y fynwent sydd yn cadw y rhai hyny hyd foreu yr adgyfodiad, yn llecyn cysegredig iawn yn syniad a theimlad miloedd o'r Cymry.