oeddym yn dechreu mwynhau ein hunain yn nghyfnewidiad y tywydd, clywem fod yn y llong gantorion Cymreig, o'r Deheu a'r Gogledd. Ac heb oedi dim, aethom i chwilio am danynt, ac wedi eu cael, gofynasom iddynt a wnaent ganu rhai o'r hen emynau, a'r hen donau Cymreig, a dywedasant y byddai yn dda gan eu calon gael gwneud. Ac wedi cael cydymgynghori â'u gilydd, dywedasant eu bod yn barod. Gofynasom iddynt a fyddent mor garedig a chanu yr hen emynau, "Ar fôr tymhestlog, teithio'r wyf," "O fryniau Caersalem ceir gweled," "Bydd myrdd o ryfeddodau," &c.; a dywedasant y gwnaent. Yna cydymgynullasant i'r un fan ag yr oedd y Gwyddelod yn canu caneuon Sankey, y dydd o'r blaen. Canasant yr hen emynau, a'r hen donau, a chawsant y fath hwyl, fel yr oedd y mor-deithwyr yn cyrchu atynt o bob cwr yn y llong, ac ni chlywyd byth son am y Gwyddelod, na Sankey, ar ol hyny. Ni buom erioed yn falchach o'n iaith, ein cerddoriaeth, a'n Cenedl, na'r tro hwn ! Aethom i huno y noswaith hono, gan byncio mawl yn ein calonau i Dduw, am fod modd i fwynhau y nefoedd ar y môr fel ar y tir. Cyfodasom yn foreu dranoeth o herwydd ei bod yn foreu Sabbath. Ac wedi cael ein boreufwyd, aethom i'n Berth, a chadwasom ddyledswydd ein tri gyda'n gilydd. Gofynodd yr awdurdodau i ni gymeryd rhan yn y moddion cyhoeddus, ond dywedasom y byddai yn well genym gael llonydd. Ond aethom i'r cyfarfodydd Seisonig, y boreu a'r hwyr, a da oedd genym weled fod y Sabbath yn cael ei gadw mor dda ar y môr. Boreu dranoeth, claddwyd un o'r mor- deithwyr yn y môr, a gwelsom ei weddw druan yn wylo dagrau yn hidl ar ei ol. Wedi i'r amgylchiad alaethus hwn gymeryd lle, teimlem ryw bryder ac ofn yn ein llenwi ar hyd gweddill y fordaith; ac yn wir, yr oedd golwg mwy difrifol
Tudalen:Cofiant Hwfa Môn.djvu/300
Gwirwyd y dudalen hon