Tudalen:Emynau a'u Hawduriaid.djvu/17

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

EMYNAU AC EMYNWYR


BYWGRAFFIADAU

A.E.—Y Parch. Arthur Evans (Felindre, Penboyr, Sir Gaerfyrddin, 1755—1837, Cynwyl, Sir Gaerfyrddin).

Collodd ei rieni pan oedd onid ieuanc iawn; magwyd ef gan ewythr iddo, a dysgodd grefft gwŷdd. Yn ddeunaw oed, ymunodd â Seiet y Methodistiaid a ymgynullai mewn tŷ preifat o'r enw Gwern-yr-hafod. Ymhen blynyddoedd wedi hynny, sef yn 1792, y cychwynnodd y Seiet gyfarfod yng Nghynwyl.

Yng ngwres ei gariad cyntaf, chwenychai ymroddi i bregethu'r Efengyl, ac ymunodd â'r Coleg Presbyteraidd, yng Nghaerfyrddin, ond â'i fryd ar weinidogaethu yn yr Eglwys Esgobol. Gwrthodwyd iddo urddau yr Eglwys honno, meddir, oherwydd bod goslef Fethodistaidd i'w lais pan ddarllenai. Am hynny, troes i gadw ysgol. Priododd â Margaret Williams, Pant-y-gwiail, o blwyf Cynwyl. Yn saith ar hugain oed dechreuodd bregethu ymhlith y bobl a'i derbyniodd yn aelod eglwysig. Am i'w iechyd ddiffygio, rhoddes heibio'r ysgol ac ymroddes i bregethu ac amaethu.

Wedi pregethu am flynyddoedd gyda chymeradwyaeth mawr, neilltuwyd ef yn Llandeilo Fawr, yn 1811, i gyflawn waith y weinidogaeth Fethodistaidd, ymhlith y brodyr cyntaf a neilltuwyd gan y Corff yn y Deau.

Bu'n ysgrifennydd ei Gyfarfod Misol am dros chwarter canrif. Rhagorai ar ei frodyr yn y ddawn i drefnu. Bu hefyd yn Llywydd y Gymdeithasfa yn y Deau. Ef a'i llywyddai yn Llangeitho yn 1829 pan dderbynnid Lewis Edward yn "bregethwr" i'r Corff, a phan atebai Thomas Lewis, Tal-y-llychau, awdur emyn 388, parthed rheoleidd-dra etholedigaeth y gwŷr ieuainc a neilltuid yn y Gymdeithasfa honno.

Yn y casgliad o emynau a wnaed gan y Gymdeithasfa yn y Deau, yn 1841, y cyfarfuasom ni gyntaf â'i bennill. Ni wyddom a argraffwyd ef cyn hynny. Yno, cysylltwyd ef â phennill o eiddo Williams:

Tyred Ysbryd sancteiddiolaf,
Llwyr-lanha dy dŷ dy hun."