Tudalen:Erthyglau Emrys ap Iwan Cyf II.djvu/108

Prawfddarllenwyd y dudalen hon

enw Edward James, a gyfieithodd y llyfr hwn; ac yn fy marn i, y mae ei Gymraeg ef yn fwy Cymreigaidd ac yn fwy cywir na Chymraeg y Beibl. Y mae ei arddull hefyd yn llawn mwy urddasol nag arddull Morus Kyffin. Fe gyfaddaswyd yr "Homilïau" i oes ddiweddarach gan Dr. Nourse, ac fe Gymreigiwyd deuddeg ohonynt yn eu ffurf ddiwygiedig gan Edward Samuel, person Llangar, a oedd agos cystal cyfieithwr ag Edward James.

Y mae gennym amryw gyfieithiadau o "Daith y Pererin", ond y crynodeb a'r lledgyfieithiad a wnaeth Stephen Hughes a'i dri chyfaill ohono ydyw'r mwyaf darllenadwy o lawer. Er nad yw llyfrau fel "Taith y Pererin" a "Choll Gwynfa", sydd yn cynnwys un alegori hir yn yr hon yr ydys yn personoli pechod a rhinwedd, ddim mor gymeradwy yn awr ag y buont unwaith, eto pe tynnid o'r cyfieithiad hwn o Daith y Pererin chwaneg o'r hen ddiwinyddiaeth unochrol y mae pob cyfundeb erbyn hyn wedi cefnu'n ddistaw arni, fe ellid ei wneud eto yn llyfr diddorol iawn i blant. A dweud y gwir, tlawd iawn ydym o lyfrau crefyddol cyfaddas i blant. Y mae'n wir fod "Saith Doethion Rhufain" yn chwedl mor gywrain a difyrrus ag ydyw'r "Nosweithiau Arabaidd", ond nid chwedl grefyddol ydyw honno. Nid wyf i am gredu y