Dr. Arthur Jones ei hun wedi encilio oddiwrth y Methodistiaid; ac yr oedd â'i lygaid yn agored ar fechgyn gobeithiol i'r pulpud Annibynol. Wedi clywed ohono'r ddau a enwyd yn areithio ar ddirwest, fe'u hanogodd i arfer eu doniau yn ei gapelau ef. Ar ol cydsynio ohonynt, fe'u diarddelwyd gan y Methodistiaid; am esgeuluso eu cyd-gynhulliad. Fe aeth yn ddywediad ym Mangor mai dau fath ar dorri allan oedd yn y Tabernacl, sef traddodi i Satan a thraddodi i Arthur Jones. [Cymharer cyfrif y Dr. John Thomas o'i waith yn newid enwad: Gwaith, t. 42. Hyd yma Gwyneddon.
Fe ddengys y daflen yma berthynas y Tabernacl â'r eglwysi a darddodd ohoni yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol:
Tarddodd y Tabernacl o'r Gatws. Tarddodd Bethania (Felinheli) o'r Graig yn 1840. Sefydlwyd Penmaenmawr tuag 1814, ac ohoni hi y tarddodd yr eglwys Saesneg yno yn 1876, a'r Glyn yn 1880. Sefydlwyd Horeb (Llanfairfechan) yn 1817, ac ohoni hi y tarddodd Caersalem yn yr un lle yn 1880, a Brondon (Saesneg) yn 1892. Sefydlwyd Aber yn 1822, a Chaerhun yn 1831.
E fu tri chyfnod arbennig yn hanes eglwysi Arfon. Y cyntaf ydoedd ynglyn âg ymweliad Howel Harris yn neilltuol, sef ystod 1747-49. Dyma'r pryd, mor agos ag y gellir dyfalu, y sefydlwyd eglwysi Clynnog a'r Waunfawr a Llanberis. Daeth yr ail gyfnod oddeutu'r flwyddyn 1789, sef blwyddyn y Chwyl-